BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2541 canlyniadau

Mae Llywodraeth Cymru yn newid y gofyniad craidd i bobl beidio â gadael y lle ble maent yn byw i ofyniad i beidio â gadael neu aros o’r lle hwnnw. Bydd hyn yn helpu i esbonio i bobl sy’n gadael eu cartref gydag esgus rhesymol – fel mynd allan i siopa am fwyd, ar gyfer gofal iechyd neu i’r gwaith – nad ydynt yn gallu aros allan i wneud pethau eraill. Mae'r canllawiau eraill a...
Mae gwasanaeth ar-lein newydd, a fydd yn paru cyflogwyr â cheiswyr gwaith sy’n chwilio am waith ym maes amaethyddiaeth, y tir a milfeddygaeth yn ystod y pandemig COVID-19, wedi’i lansio. Yn ystod y pandemig coronafeirws, mae’n hollbwysig bod busnesau gwledig a’r tir – gan gynnwys ffermydd a busnesau â rhwymedigaethau lles anifeiliaid – yn gallu cael gafael ar weithwyr allweddol a pharhau i weithredu. Mae LANTRA yn creu gwasanaeth paru sgiliau a fydd yn rhoi...
Mae mwy o bobl yn gweithio gartref, yn gofalu am blant a threulio amser ar-lein ers yr argyfwng coronafeirws. Mae Llywodraeth y DU wedi llunio canllawiau am gadw’n ddiogel ar-lein, sy’n cynnwys: Stay connected Stay safe Check the facts Take a break Advice for parents and carers Useful links Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Mae’r Adran Masnach Ryngwladol wedi diwygio trefniadau ar gyfer prosesu ceisiadau am drwyddedau yn ystod yr argyfwng coronafeirws (COVID-19). Hysbysiad i allforwyr 2020/10: proses ceisiadau trwyddedau yn ystod y coronafeirws. Rhagor o wybodaeth yma. Hysbysiad i allforwyr 2020/09: Canllawiau diweddaraf yr Uned Rheoli Allforio ar y Cyd ar archwiliadau cydymffurfiaeth ar gyfer trwyddedau agored yn ystod coronafeirws. Rhagor o wybodaeth yma.
Mae twyllwyr yn manteisio ar ledaeniad coronafeirws (COVID-19) er mwyn twyllo a chyflawni seiberdroseddau. Mae’r heddlu wedi nodi cynnydd mewn sgamiau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws. Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi rhybudd i helpu elusennau i leihau’r risg o ddioddef twyll a seiberymosodiadau o’r fath. Gallai pob elusen, ond yn enwedig y rhai sy’n darparu gwasanaethau ac yn cefnogi cymunedau lleol yn ystod yr argyfwng hwn, gael eu targedu gan dwyllwyr. Twyll caffael Mae sawl...
Bydd busnesau’n cael cymorth ychwanegol i’w helpu i gyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol. Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn oedi’r broses ddileu dros dro i atal cwmnïau rhag cael eu diddymu. Bydd hyn yn rhoi amser i fusnesau y mae’r coronafeirws wedi effeithio arnynt i ddiweddaru eu cofnodion, gan eu helpu i osgoi cael eu dileu o’r gofrestr. Yn ogystal, bydd apelau cwmnïau a gafodd gosb ffeilio hwyr oherwydd COVID-19 yn cael eu trin gyda chydymdeimlad. I gael...
Mae cymorth Coronafeirws (COVID-19) ar gael i gyflogwyr a’r hunangyflogedig; efallai y byddwch yn gymwys am fenthyciadau, gostyngiadau treth a grantiau arian parod. Bydd adnodd ‘canfod cymorth’ newydd a lansiwyd gan Lywodraeth y DU yn helpu busnesau a phobl hunangyflogedig ledled y DU i weld pa gymorth ariannol sydd ar gael iddynt yn ystod y pandemig coronafeirws. Mae holiadur syml yn cymryd llai na munud i berchnogion busnes ei gwblhau a bydd yn eu cyfeirio...
Ydych chi’n fusnes gyda gormod o fwyd? Mae FareShare yn dosbarthu bwyd i elusennau ledled y DU, gan gynnwys clybiau brecwast ysgolion, clybiau cinio pobl hŷn, llochesau i’r digartref a chaffis cymunedol. Mae’n llawer haws cyfeirio bwyd dros ben at elusennau rheng flaen na fyddech chi’n feddwl. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan FareShare. Rhwydwaith cenedlaethol o fanciau bwyd yw Ymddiriedolaeth Trussell sy’n darparu bwyd a chymorth mewn argyfwng i bobl mewn tlodi. Mae...
Mae The Lighthouse Club, elusen y diwydiant adeiladu, yn cynnig cymorth emosiynol ac ariannol i deuluoedd mewn argyfwng yn ystod y pandemig COVID-19. Mae Llinell Gymorth y Diwydiant Adeiladu yn darparu rhwyd diogelwch 24/7 i bob gweithiwr adeiladu a’u teuluoedd yn y DU ac Iwerddon. Mae’n wasanaeth elusennol a gyllidir gan y diwydiant, ar gyfer y diwydiant ac mae’n darparu: Cymorth ariannol brys i deuluoedd adeiladu mewn argyfwng Cyngor ar iechyd galwedigaethol a llesiant meddwl...
Ap am ddim ar gyfer trefi, pentrefi a’r stryd fawr ledled y DU – dyna yw iTown. Cefnogwch eich busnes lleol ac archebwch beth sydd ei angen arnoch chi a’i gasglu neu gallwch drefnu ei fod yn cael ei ddanfon i garreg eich drws. Mae mwy o fanylion am sut gall busnesau a chwsmeriaid gofrestru ar gyfer yr ap iTown ar gael yn http://www.itown.net

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.