BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2551 canlyniadau

Mae’r ymgyrch Pay It Forward yn cefnogi busnesau, sefydliadau a’r hunangyflogedig drwy’r argyfwng coronafeirws. Gall busnesau bach drefnu ymgyrch Pay it Forward i werthu eu gwasanaethau ymlaen llaw ac arallgyfeirio masnach nawr i sicrhau llif arian parhaus. Dyw Crowdfunder ddim yn codi unrhyw ffioedd llwyfan na ffioedd ar drafodiadau ar hyn o bryd sy’n golygu ei fod am ddim i fusnesau bach ac mae Enterprise Nation yn cynnig mynediad at hyfforddiant a chefnogaeth am ddim...
Y wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi cyn gwneud hawliad. Bydd angen y canlynol arnoch chi: rhif adnabod a chyfrinair Porth y Llywodraeth (GG) – os nad oes gennych chi gyfrif GG, gallwch chi wneud cais am un ar-lein neu fynd i GOV.UK a chwilio am 'HMRC services: sign in or register' wedi cofrestru ar gyfer PAYE ar-lein – os nad ydych chi wedi cofrestru, gallwch chi wneud hynny nawr neu trwy fynd i GOV.UK...
Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi gwneud newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi mewn perthynas â chymhwysedd gweithwyr cyflogedig: gallwch chi hawlio ar gyfer gweithwyr cyflogedig a oedd yn cael eu cyflogi ar 19 Mawrth 2020 ac a oedd ar gyflogres y cynllun Talu Wrth Ennill ar neu cyn y dyddiad hwnnw; mae hyn yn golygu y byddwch chi wedi gwneud cyflwyniad RTI yn hysbysu Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi eich bod yn talu’r gweithiwr...
Bydd y Gronfa Cymorth Menter gwerth £5 miliwn yn cynnig grantiau i bobl ifanc 18 i 30 oed ledled y DU sy’n hunangyflogedig a/neu yn cynnal eu busnes eu hunain. Yn ogystal â grantiau arian parod, bydd y fenter yn cynnig cymorth un-i-un ac arweiniad i unrhyw un sydd ei angen ac a allai fod yn poeni am y dyfodol. Gellir defnyddio grantiau i gynnal gweithredoedd busnes craidd yn ystod yr argyfwng coronafeirws, ynghyd â...
Mae'r broses ymgeisio ar gyfer busnesau sy'n gymwys i gael cymorth ariannol drwy’r Gronfa Cadernid Economaidd bellach ar agor. Mae manylion llawn y meini prawf cymhwysedd ar gyfer busnesau ac elusennau i'w galluogi i ymgeisio i'w gweld ar y dudalen Cymorth Ariannol a Grantiau. Cwblhewch y gwiriwr cymhwystedd cymorth fusnes COVID-19 i wneud yn siŵr eich bod yn gymwys i wneud cais. Ar ôl ei gwblhau cewch ddolen i'r cais ar-lein.
Mae rhwydweithiau UK Ability Networks yn cynnal gweminarau am ddim er mwyn cyflwyno gwybodaeth ymarferol a defnyddiol i gyflogwyr i sicrhau eu bod yn cadw cyswllt agos gyda’r gymuned o gyflogwyr hyderus o ran anabledd, fel bod pobl anabl yn parhau i gael eu recriwtio a’u cadw mewn gwaith yn ystod COVID-19 ac ar ôl hynny ac nad ydyn nhw’n cael eu gadael ar ôl. Mae pynciau’r gweminarau a mwy o fanylion isod: New Ways...
Mae’r Adran Masnach Ryngwladol (DIT) wedi cyhoeddi canllawiau gan lywodraeth y DU ar sut i helpu i sicrhau cyllid allforio er mwyn dal ati i fasnachu yn ystod yr argyfwng coronafeirws – gan gyfathrebu’n uniongyrchol ag allforwyr a buddsoddwyr. Yn ogystal â chyngor ar ba gymorth ariannol sydd ar gael i gwmnïau i reoli effeithiau coronafeirws, mae DIT yn barod i ddarparu cymorth gydag awdurdodau tollau er mwyn sicrhau bod cynhyrchion busnes yn cael eu...
Mae ACAS yn cynnal gweminarau Coronafeirws ar-lein ar gyfer cyflogwyr. Mae’r gweminarau yn darparu cyngor ymarferol i gyflogwyr er mwyn helpu i reoli effaith coronafeirws yn y gweithle, a gallwch gofrestru i wylio eu recordiad gweminar diweddaraf. Gallwch hefyd ymuno ag arbenigwyr ACAS bob bore Gwener am 10:30am i sgwrsio yn fyw ar Twitter am eich cwestiynau neu bryderon am y coronafeirws (COVID-19) ac am: amser i ffwrdd o’r gwaith cyflog gweithio o bell pa...
Cyhoeddwyd rheolau newydd i ddiogelu gweithwyr yn ystod achosion coronafeirws. Bydd y rheoliadau’n golygu y bydd y rheol cadw pellter cymdeithasol o 2m yn berthnasol i unrhyw weithle, gan gynnwys cartrefi, lle mae gwaith ac atgyweiriadau’n cael eu gwneud a mannau awyr agored. Bydd rhaid i bob busnes weithredu pob mesur rhesymol i sicrhau bod y rheol 2m yn cael ei chynnal rhwng pobl yn yr eiddo pan mae gwaith yn cael ei wneud. I...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ragor o wybodaeth am y gronfa gan gynnwys y meini prawf ar gyfer pa fusnesau ac elusennau sy’n gymwys, er mwyn eu galluogi i baratoi i wneud cais. Bydd y gronfa’n darparu cymorth ariannol ychwanegol yn ystod pandemig y coronafeirws ac yn cynorthwyo sefydliadau i reoli pwysau o ran llif arian. Bydd o gymorth i fynd i’r afael â bylchau nad ydynt yn cael eu llenwi gan y cynlluniau a...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.