Gwobrau Great Taste y Guild of Fine Food yw’r cynllun achredu mwyaf eang a dibynadwy yn y byd ar gyfer bwyd a diod. Mae cael panel o dros 500 o arbenigwyr i brofi eich bwyd neu ddiod yn ffordd gyflym o gael adborth gonest, syml a diduedd gan gogyddion, prynwyr, ysgrifenwyr ym maes bwyd, a manwerthwyr. P’un a yw’ch cynnyrch yn derbyn gwobr 1, 2 neu 3 seren, mae sêr Great Taste yn sêl bendith...
news and blogs Archives
41 canlyniad
Mae Wythnos Lleoliadau Annibynnol, a gynhelir rhwng 29 Ionawr a 4 Chwefror 2024, yn wythnos flynyddol o ddathlu lleoliadau annibynnol yn y Deyrnas Unedig (DU) ar gyfer cynnal digwyddiadau cerddorol a chelfyddydol, a’r bobl sy’n berchen arnynt, yn eu rhedeg ac yn gweithio ynddynt. Mae dros 200 o leoliadau annibynnol yn cymryd rhan yn y dathliad blynyddol ac mae’r nifer yn cynyddu bob blwyddyn. Ym mhob rhan o’r DU, ceir lleoliad annibynnol gerllaw sy’n barod...
Mae’r Gwobrau Gweithgarwch Elusennol gan Fusnesau yn darparu’r llwyfan perffaith ar gyfer myfyrio ar eich ymdrechion, rhannu arferion gorau, a gwobrwyo eich cyflawniadau o fewn y gymuned. Mae’r Gwobrau’n cydnabod y cyfraniad rhagorol i achosion da a wneir gan fusnesau yn y Deyrnas Unedig (DU). Mae’r gwobrau’n cydnabod y rôl y mae unigolion, timau a chwmnïau cyfan yn ei chwarae o ran cefnogi gweithgarwch elusennol, yn lleol ac yn rhyngwladol, ac maent hefyd yn helpu...
A allech chi elwa o arweiniad ar-lein a mentora un-i-un ar eich taith ddigidol gydag arbenigwyr gwyddor data a deallusrwydd artiffisial (AI)? Bwriedir y rhaglen hyfforddiant, Darganfod Trawsnewid Digidol, i fusnesau neu sefydliadau o unrhyw faint ym meysydd amaeth, y diwydiannau creadigol, adeiladu neu drafnidiaeth, a’i nod fydd helpu eich busnes i archwilio technolegau digidol, AI a thechnolegau wedi’u gyrru gan ddata. Bydd y gyfres hon ar lefel ragarweiniol yn eich helpu i fynd i’r...
Cyfle i chi ddweud eich dweud am ddyfodol cymorth i ffermwyr, wrth gyhoeddi'r ymgynghoriad terfynol ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Cyhoeddir heddiw (dydd Iau, 14 Rhagfyr 2023) yr ymgynghoriad terfynol ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, y prif gynllun cymorth i ffermwyr yng Nghymru o 2025. Ei nod yw gwneud ffermwyr Cymru yn arweinwyr byd mewn ffermio cynaliadwy. Nod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw diogelu systemau cynhyrchu bwyd, sicrhau bod ffermwyr yn parhau i ffermio'r tir...
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) wedi diweddaru ei chanllawiau ar gyfer storio, rhannu a diogelwch data ar gyfer sefydliadau bach. Meddyliwch yn ofalus ynghylch pryd i ddefnyddio BCC wrth anfon negeseuon e-bost i gyfeiriadau lluosog. Methu defnyddio BCC yn gywir mewn negeseuon e-bost yw un o'r prif doriadau data a adroddir i'r ICO bob blwyddyn – a gall y toriadau hyn achosi niwed gwirioneddol, yn enwedig lle mae gwybodaeth bersonol sensitif dan sylw. Pan fyddwch...
Gall cael gweithlu sy’n iach yn feddyliol gynnig llu o fanteision i’ch sefydliad. O syniadau ar gyfer gwella diwylliant y gweithle, i gymorth ar gyfer rheolwyr llinell, mae Mental Health at Work yn cynnig digonedd o adnoddau, pecynnau cymorth ac astudiaethau achos i’ch helpu i greu gweithle sy’n iach yn feddyliol. I gael adnoddau am ddim ar gyfer rheolwyr, gweithwyr proffesiynol a chyflogeion ym maes AD, dewiswch y ddolen ganlynol Mind Mae adnodd hunangymorth a...
Meddwl llogi stondin neu uned ar Faes Eisteddfod Rhondda Cynon Taf? Cofrestrwch am ragor o wybodaeth Bydd ein stondinau ac unedau'n mynd ar werth ddydd Gwener 1 Mawrth. Mae Maes yr Eisteddfod eleni'n wahanol i faes traddodiadol, gan ei fod wedi'i leoli mewn parc cyhoeddus, sydd â llwybrau, adeiladau a chaeau chwarae. Beth sydd ar gael eleni? Stondinau 3m x 6m: Uned arferol ar y Maes. Gellir archebu hyd at ddwy uned ar y Maes...
Mae Hunanasesu yn system y mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn ei defnyddio i gasglu treth incwm. Fel arfer, caiff treth ei didynnu’n awtomatig o gyflogau a phensiynau. Rhaid i bobl a busnesau ag incwm arall (gan gynnwys grantiau a thaliadau cymorth COVID-19) ei nodi ar ffurflen dreth. Y dyddiad cau i gwsmeriaid gyflwyno eu ffurflen dreth ar-lein a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023 yw 31 Ionawr...
Mae 'We Are Undefeatable', a ddatblygwyd gan 15 elusen iechyd a gofal cymdeithasol flaenllaw, yn ymgyrch barhaus sy'n cefnogi pobl ag ystod o gyflyrau iechyd hirdymor sy'n eu hannog i ddod o hyd i ffyrdd i fod yn actif. Trwy gymryd rhan yn yr ymgyrch hon, caiff cyflogwyr gyfle i gefnogi gweithwyr sy'n delio â chyflyrau iechyd, a helpu i feithrin diwylliant o gynwysoldeb ac ysbrydoliaeth yn eu sefydliad. Mae adnoddau 'We Are Undefeatable', gan...
Pagination
- Previous page
- Page 4
- Next page