BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

51 canlyniadau

stone cottages in Beddgelert
Mae Dŵr Cymru yn gwybod y gall eu gwaith weithiau darfu ar y cymunedau yr ydym yn gweithio ynddynt ac rydym yn dymuno rhoi’r cyfle i’w cwsmeriaid a grwpiau lleol wneud gwahaniaeth yn y cymunedau y maent yn byw ynddynt, trwy gynnig cyllid tuag at brosiect cymunedol o’u dewis. Gall grwpiau cymunedol wneud cais am grant o hyd at £5,000 tuag at eu prosiect. Mae enghreifftiau o brosiectau a allai dderbyn cyllid yn cynnwys: Gwelliannau...
Woman picking tea leaves in a tea plantation
Oeddech chi'n gwybod bod y flwyddyn nesaf yn nodi 30 mlynedd ers sefydlu'r Marc Masnach Deg yn y DU? Trwy gydol 2024, bydd llawer o ffyrdd i ddathlu'r garreg filltir bwysig hon. Ac i ysgwyd pethau i fyny ychydig, mae Pythefnos Masnach Deg yn symud! Yn 2024, cynhelir Pythefnos Masnach Deg rhwng 9 a 22 Medi 2024, bydd symud i fis Medi yn newid parhaol. Bydd y cam hwn yn rhoi mwy o amser i...
cargo ship export
Mae General Export Facility (GEF) yn darparu gwarantau rhannol i fanciau er mwyn helpu allforwyr o’r DU sicrhau mynediad at gyfleusterau cyllid masnach, gyda thelerau ad-dalu o hyd at 5 mlynedd ar y mwyaf ar gyfer: cyfleusterau arian, fel benthyciadau masnach cyfleusterau ymrwymiad wrth gefn, fel llinellau bond a llythyron credyd Mae GEF ar gael i gefnogi cyfleusterau gwerth hyd at ryw £25 miliwn. Yn achos cyfleusterau sy’n werth dros £25 miliwn, cysylltwch â’ch Rheolwr...
Group of charity workers
Mae Rhaglen Arbenigol Lloyds Bank ar gyfer elusennau arbenigol, lleol, bach sy’n cynorthwyo pobl sy’n wynebu problemau cymhleth. Bydd y rhaglen yn cynorthwyo elusennau i gryfhau eu capasiti a’u galluoedd ac i ddod yn fwy gwydn trwy amrywiaeth o gynigion cymorth datblygu wedi’u teilwra, ochr yn ochr â grant anghyfyngedig tair blynedd gwerth £75,000, sydd ar gael i elusennau sy’n cefnogi: Dibyniaeth Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Ymadawyr Gofal Dioddefwyr Cam-drin Domestig Digartrefedd Troseddwyr Dioddefwyr Cam-drin...
Wheelchair user working in an office talking to a colleague
Mae Inclusive Smart Solutions yn Rhaglen £2.75 miliwn a ariennir gan Raglen Hyblygrwydd ac Arloesi £65 miliwn yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net, sy’n ceisio galluogi hyblygrwydd system drydan eang ar raddfa fawr trwy dechnolegau a marchnadoedd clyfar, hyblyg, diogel, a hygyrch. Mae system ynni glyfar a hyblyg yn hanfodol i’n dyfodol ar gyfer yr holl ddefnyddwyr. Mae hyn yn creu risgiau a chyfleoedd o ran sut gall defnyddwyr elwa ar y system ynni...
group of office colleagues
Derbyniodd y Ddeddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol gydsyniad brenhinol ar 26 Hydref 2023. Mae’r ddeddf yn rhoi’r pŵer i Dŷ’r Cwmnïau chwarae rhan fwy sylweddol wrth fynd i’r afael â throseddau economaidd a chefnogi twf economaidd. Mi fydd cyfrifoldebau newydd ar gyfer: holl gyfarwyddwyr cwmni newydd a phresennol pobl â rheolaeth arwyddocaol dros gwmni (PRhA) unrhyw un sy’n ffeilio ar ran cwmni Darganfyddwch beth sy’n newid i chi a’ch cwmni fel y gallwch weithredu...
gold star trophy against shiny sparks background
Bydd Gwobrau Technoleg Cymru 2024 yn arddangos ac yn dathlu’r bobl nodedig hyn, eu dyfeisgarwch a’u busnesau – ac yn hyrwyddo Diwydiant Technoleg dynamig Cymru. Mae categorïau Gwobrau 2024 fel a ganlyn: Gwobr Syr Michael Moritz ar gyfer Busnes Technoleg Newydd Gwobr Effaith Ryngwladol Gwobr Seren Esgynnol y Flwyddyn Gwobr Arweinydd ym maes Technoleg Gwobr Cymhwysiad Deallusrwydd Artiffisial Gorau Gwobr Cymhwysiad Blockchain Gorau Gwobr Trawsnewid Digidol Gorau Gwobr Cymhwysiad Gorau ym maes Technoleg Addysg Gwobr...
Volunteers working at a social enterprise
Mae Social Enterprise UK wedi lansio eu hadroddiad ar Gyflwr Mentrau Cymdeithasol, sef ymchwil i’r tueddiadau a’r materion allweddol sy’n effeithio ar y mudiad busnesau cymdeithasol. Mae’r adroddiad newydd, o’r enw 'Mission Critical', yn dangos sector sy’n tyfu ac sydd nid yn unig yn broffidiol ac yn gynhyrchiol, ond sy’n wirioneddol arloesol. Amcangyfrifir bod 131,000 o fusnesau cymdeithasol ar draws y DU, gan gynrychioli bron i un o bob 42 o holl fusnesau’r DU –...
 teacher talking to her student in computer class
Mae Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid blynyddol yn cydnabod gwaith gwerthfawr tiwtoriaid a mentoriaid wrth gefnogi dysgu gydol oes ar draws Cymru. Mae’r gwobrau yn dathlu ymdrech ac ymroddiad rhagorol tiwtoriaid a mentoriaid i helpu oedolion sy’n ddysgwyr i gyflawni eu huchelgais, oherwydd fod mentoriaid a thiwtoriaid sy’n ysbrydoli tu ôl i ddysgwyr llwyddiannus. Categorïau gwobrau: Addysg Uwch Addysg Bellach Lleoliad Gweithle Addysg Gymunedol Cymraeg i Oedolion Ysgol neu leoliad arall Dyddiad cau cynigion yw dydd Llun...
Vapes
Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid i Safonau Masnach Cymru er mwyn helpu i fynd i'r afael â fepio anghyfreithlon yng Nghymru. Bydd y cyllid yn adeiladu ar ymgyrch flaenorol i fynd i'r afael â thybaco anghyfreithlon, lle cymerwyd meddiant o dros 840,000 o sigaréts anghyfreithlon a mwy na 400 cilogram o dybaco rholio â llaw anghyfreithlon o eiddo masnachol yng Nghymru. Bydd swyddogion...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.