BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

341 canlyniadau

Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn rheoli 2 dreth ddatganoledig a gynlluniwyd ac a weithredwyd ar gyfer Cymru i helpu i godi arian hanfodol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru fel y GIG ac ysgolion, mewn cymunedau ledled Cymru: Y Dreth Trafodiadau Tir Y Dreth Gwarediadau Tirlenwi Mae’r trethi hyn wedi disodli Treth Tir y Dreth Stamp a’r Dreth Dirlenwi yng Nghymru. Darllenwch y diweddariad haf sy’n cynnwys gwybodaeth am: Daliadau Treth Trafodiadau Tir Cwestiwn cyfradd uwch...
Ffermio yw’r cyflogwr mwyaf yn y byd ond nid yw miliynau o bobl sy’n byw ac yn gweithio ar ffermydd tyddynwyr yn ennill digon i ddarparu ar gyfer naill ai eu hunain neu eu teuluoedd. Yn aml, y cymunedau hyn yw’r rhai sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan newid hinsawdd er eu bod wedi gwneud y lleiaf i gyfrannu ato. Mae Masnach Deg yn fudiad byd-eang sy’n rhoi pobl a’r blaned o flaen elw. Pan...
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles wedi croesawu gwaith ymchwil newydd sy’n edrych ar sut y gall busnesau weithio gydag ysgolion a cholegau er budd pobl ifanc i’r dyfodol. Mae adroddiad ‘Pontio i Fyd Gwaith’, gan Dr Hefin David AS, wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru. Mae rhai o argymhellion adroddiad ‘Pontio i Fyd Gwaith’ eisoes yn cael eu gweithredu. Fis diwethaf, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg £500,000 ar gyfer cynllun profiad gwaith...
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) eisiau gweithio gyda mwy o wasanaethau adeiladu lleol i gynorthwyo gyda chynnal a chadw ei safleoedd. Gydag oddeutu 77 eiddo ledled Gwent, yn amrywio o rai a adeiladwyd cyn 1900 i ysbytai gofal dwys cwbl weithredol, mae cynnal a chadw adeiladau’r Bwrdd Iechyd yn dasg enfawr. O ganlyniad, mae tîm Ystad BIPAB eisiau cydweithio â Busnesau Bach a Chanolig lleol i gynorthwyo gyda phrosiectau mân weithfeydd, a'u cyflawni...
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi bod y Grant Hanfodion Ysgolion ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf bellach ar agor. Gall plant y mae eu teuluoedd ar incwm is ac sy'n gymwys i gael budd-daliadau penodol wneud cais am grant o £125 y dysgwr a £200 i ddysgwyr sy'n dechrau ym mlwyddyn 7 (i helpu gyda chostau cynyddol sy'n gysylltiedig â dechrau yn yr ysgol uwchradd). Mae teuluoedd sydd â phlant...
Bydd y ffordd y mae’r Dreth ar Alcohol yn cael ei chodi yn newid o 1 Awst 2023 ymlaen, gan symud i fandiau treth safonedig ar gyfer yr holl gynhyrchion alcoholig yn seiliedig ar alcohol yn ôl cyfaint (ABV). Bydd cyfraddau a rhyddhadau newydd ar gyfer y dreth, gan gynnwys Rhyddhad Cynhyrchwyr Bach, cyfradd is ar gyfer cynhyrchion cwrw casgen (a adwaenir hefyd fel Rhyddhad Cwrw Casgen), a threfniadau pontio ar gyfer cynhyrchwyr a mewnforwyr...
Mae Innovate UK yn ceisio datgelu talentau cudd ledled y DU a hoffai droi syniadau gwych yn llwyddiannau busnes mawr y dyfodol. Felly, os oes gennych chi syniad gwych neu fusnes sydd ag uchelgais fawr, dyma’r lle i chi. Mae’r cyfle hwn wedi’i lunio i ddatgloi grym amrywiaeth a chefnogi talentau sydd wedi’u tangynrychioli ar draws y DU. Mae dwy lefel o gymorth: Begin – Os oes gennych chi fusnes arloesol sydd yn ei gamau...
Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mae darparu cyfarpar diogelu personol (PPE) am ddim i'r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i amddiffyn gweithwyr rheng flaen rhag haint anadlol, gan gynnwys Covid-19, wedi bod yn rhan hanfodol o’n hymateb i’r pandemig. Mae hefyd yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu. Ym mis Rhagfyr, cyhoeddais y byddem yn parhau i ddarparu PPE am ddim i'r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru tan...
Mae cronfa gwerth £300,000 i ddarparu cymorth i wyliau a digwyddiadau bwyd a diod ledled Cymru yn agor i geisiadau heddiw (dydd Sadwrn, 1 Gorffennaf). Bydd y cynllun grantiau bach, a fydd yn mynd i’r afael â 10 cam allweddol ‘Gweledigaeth ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod’ Llywodraeth Cymru, yn cefnogi gwyliau a digwyddiadau i ychwanegu gwerth at y diwydiant yng Nghymru a’r nod yw gwella mynediad ymwelwyr at fwyd a diod o Gymru...
Mae Amser i Newid Cymru yn ymgyrch genedlaethol i roi terfyn ar y stigma y mae pobl â phroblemau iechyd meddwl yn ei wynebu. Fe’ch gwahoddir i fynychu ddigwyddiad rhwydweithio i gyflogwyr a gynhelir mewn person ac ar-lein. Mae’r digwyddiad, sydd am ddim, wedi’i drefnu ar gyfer 17 Gorffennaf 2023 rhwng 10am a 1pm. Fe’i cynhelir yng Ngholeg Pen-y-bont – Campws Pencoed, CF35 5LG, ac ar-lein trwy gyfrwng Microsoft Teams (bydd dolen ar gyfer ymuno...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.