BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

351 canlyniadau

Mae Youth Employment Week 2023 yn ddathliad o bopeth sy’n ymwneud â chyflogaeth ieuenctid, ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 30 oed, ac fe’i cynhelir rhwng 3 Gorffennaf a 7 Gorffennaf 2023. Y thema eleni yw ‘Cyfle i Bawb’, a’r nod yw cysylltu pobl ifanc â chyfleoedd a chymorth, a chodi ymwybyddiaeth o fanteision cyflogi pobl ifanc. Gallwch gofrestru ar gyfer gweminarau am ddim sy’n agored i gyflogwyr a phobl ifanc. Mae Youth Employment...
“Ni ddylai unrhyw un gael ei ddal yn ôl am fod ei hunan”, dyna oedd geiriau Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw wrth i fis Pride dynnu i ben, gan esbonio’r camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo gweithleoedd cynhwysol. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda busnesau Cymru i wella cydraddoldeb a chynhwysiant yn y gweithle fel rhan o gynllun uchelgeisiol i sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop...
Mae cronfa Newid dy Stori ar gael ar gyfer darparwyr addysg oedolion yng Nghymru sy’n dymuno cyflwyno gweithgaredd dysgu ar-lein a/neu wyneb yn wyneb ar gyfer yr Wythnos Addysg Oedolion. Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn ymgyrch flynyddol sy’n dathlu a hyrwyddo cyfleoedd dysgu ar gyfer pawb. Cynhelir yr ymgyrch rhwng 18 i 24 Medi 2023, gyda gweithgaredd hyrwyddo ar hyd y mis. Mae’r ymgyrch yn rhoi ffocws i hyrwyddo cyfleoedd ffurfiol ac anffurfiol a dathlu...
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles wedi cyhoeddi cymorth ariannol ychwanegol ar gyfer sefydliadau gwaith ieuenctid. Mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu ei chymorth i helpu sefydliadau gwaith ieuenctid i ymateb i alw mwy am wasanaethau, costau gweithredu uwch, a newid yn y gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl ifanc yn sgil yr argyfwng costau byw. Mae sefydliadau gwaith ieuenctid yn helpu pobl ifanc i fyw bywydau sy’n dod â bodlonrwydd, gan ddarparu llefydd...
Mae credydau treth yn helpu teuluoedd sy'n gweithio gyda chymorth ariannol targedig, felly mae'n bwysig bod cwsmeriaid yn gweithredu nawr i adnewyddu cyn y dyddiad cau sy'n agosáu'n gyflym, sef 31 Gorffennaf 2023, er mwyn sicrhau nad yw eu taliadau'n dod i ben. Mae CThEF yn annog mwy o gwsmeriaid i ddefnyddio ap CThEF gan ei fod yn ffordd gyflym a hawdd o gyflawni'r gwaith hanfodol hwn. Mae'n rhad ac am ddim ac yn syml...
Y Sefydliad Allforio a Masnach Ryngwladol (IOE&IT) yw’r corff aelodaeth broffesiynol sy’n cynrychioli a chefnogi buddiannau pawb sy’n ymwneud â mewnforio, allforio a masnach ryngwladol. Mae’r IOE&IT wedi lansio Rhaglen Cymorth Allforio gwerth £5 miliwn i helpu busnesau yn y Deyrnas Unedig. Bydd y rhaglen yn darparu pecyn wedi’i deilwra o hyfforddiant a gwasanaethau ymgynghoriaeth i allforwyr i adlewyrchu eu hamgylchiadau a’u hanghenion. Lluniwyd y pecyn cymorth gan arbenigwyr diwydiant, gan ystyried y rhwystrau mwyaf...
Mae gan fusnesau sy’n defnyddio llawer o ynni a gweithredwyr rhwydwaith gwres lai na mis ar ôl i wneud cais am gymorth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a allai wneud eu biliau ynni cyfanwerth gymaint ag un rhan o bump yn rhatach. Anogir yr holl fusnesau cymwys i weithredu nawr i elwa o’r cymorth sydd ar gael trwy’r Cynllun Gostyngiad mewn Biliau Ynni. Mae gan gwmnïau tan 25 Gorffennaf 2023 i wneud cais, a bydd...
Mae rheolau hysbysebu’r DU (sef y ‘CAP Code’ a’r ‘BCAP Code’), yn berthnasol i fusnesau yn y Deyrnas Unedig a phawb sy’n marchnata neu’n hysbysebu eu busnes yng ‘nghyfryngau’r DU’, o unig fasnachwr i uwchgwmni byd eang. Mae’r rheolau hyn yn helpu i sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu trin yn deg a bod busnesau’n elwa o gae chwarae gwastad. Mae’r Awdurdodau Safonau Hysbysebu (ASA) wedi creu adnodd newydd yn arbennig i fusnesau bach. Mae’r...
Mae Aelodau'r Senedd wedi pleidleisio o blaid y Bil Amaethyddiaeth cyntaf i gael ei lunio yng Nghymru. Bydd y Bil yn allweddol er mwyn cefnogi ffermwyr a chynhyrchu bwyd mewn ffyrdd cynaliadwy am genedlaethau i ddod. Bydd y Bil, a gafodd ei gyflwyno o dan arweiniad y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths, yn mynd ati bellach i geisio Cydsyniad Brenhinol, ac os caiff ei gymeradwyo, disgwylir iddo ddod i rym yng Nghymru yn ddiweddarach yn...
Bydd Sioe Twristiaeth a Theithio Prydain yn cael ei chynnal rhwng 20 Mawrth a 21 Mawrth 2024 yn yr NEC, Birmingham. Mae’n dwyn ynghyd gwestai, atyniadau a chyrchfannau sy'n awyddus i gyfarfod a gweithio gyda phobl sy'n gwneud penderfyniadau allweddol ac yn gyfrifol am gynllunio gwyliau, tripiau a theithiau. Bydd y sioe yn denu 3,000 o ymwelwyr ac ymysg y rheini fydd yn bresennol mae: cwmnïau bysiau cwmnïau teithio trefnwyr teithiau grŵp asiantaethau teithio gwasanaethau...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.