BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

361 canlyniadau

Cafodd dros 3,000 o swyddi eu creu yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf diolch i fewnfuddsoddiadau, y canlyniadau gorau a gofnodwyd mewn pum mlynedd, yn ôl ffigyrau newydd a gyhoeddwyd heddiw (27 Mehefin 2023). Mae adroddiad blynyddol Adran Busnes a Masnach y DU ar Fuddsoddiadau Uniongyrchol Tramor (FDI) yn y DU ar gyfer 2022 i 2023 a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod nifer y swyddi a grëwyd wedi dychwelyd i lefelau cyn Covid gyda 3,062...
Darganfod mwy am gynlluniau cyfnewid ac ailgylchu gwisg ysgol yng Nghymru. Gall gwisgoedd ysgol ail-law fod o fudd i bob rhiant a gofalwr, yn enwedig y rhai ar incwm isel neu’r rhai sydd â theuluoedd mawr. Yn ogystal, drwy ymestyn oes dillad, gall ysgolion annog cynaliadwyedd a’i fanteision amgylcheddol ehangach. Mae ' Polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion: canllawiau ar gyfer cyrff llywodraethu' yn nodi y dylai ysgolion gael cynlluniau ailgylchu a chyfnewid ar waith...
P'un a ydych chi'n fusnes bach, ysgol neu sefydliad arall, gall Cadwch Gymru'n Daclus eich helpu i reoli'ch cyfarpar gwastraff mewn ffordd ddiogel, gydymffurfiol, sy’n gyfeillgar i'r amgylchedd. Mae'r cynllun ailddefnyddio ac ailgylchu TGCh a Chyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff (WEEE) yn bartneriaeth gydag A&LH Environment sy'n eich galluogi i gael gwared ar eich holl cyfarpar diangen trwy un gwasanaeth casglu cynhwysfawr sy'n cwmpasu popeth, gan wybod eich bod chi’n lleihau'r effaith ac yn cynyddu...
Cafodd dros 16,000 o weithwyr eu helpu i ddysgu sgiliau newydd ac i ailhyfforddi yn ystod pandemig COVID-19, diolch i gynllun Llywodraeth Cymru, yn ôl ymchwil newydd. Amcan y Rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol (PLA), rhan o Gynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru yw helpu pobl sydd ar incwm is a’r rheini sydd â’u swyddi yn y fantol i ddysgu sgiliau newydd, ennill cymwysterau newydd a chreu gyrfa newydd. Mae colegau addysg bellach ledled Cymru’n cynnig cyrsiau trwy’r...
Wythnos Addysg Oedolion yw’r dathliad mwyaf o ddysgu gydol oes yng Nghymru. Bydd wythnos yr ymgyrch yn cael ei chynnal rhwng 18 i 24 Medi 2023 gyda gweithgarwch yn cael ei gynnal drwy gydol y mis a’i nod yw hyrwyddo gweledigaeth Llywodraeth Cymru i sefydlu Cymru fel “Cenedl Ail Gyfle” ar gyfer dysgu gydol oes. Nod yr ymgyrch yw cysylltu pobl gydag ystod eang o gyfleoedd dysgu, arddangos manteision addysg oedolion a dathlu llwyddiannau pobl...
Bydd deddfwriaeth newydd i gyfyngu ar werthu cynnyrch uchel mewn braster, siwgr a halen am brisiau rhatach dros dro, ac i gyfyngu ar eu lleoliad mewn siopau, yn cael ei chyflwyno yng Nghymru. Mae’r gyfraith newydd, a fydd yn cael ei chyflwyno yn 2024 ac mewn grym ar draws Cymru erbyn 2025, yn adeiladu ar yr ymrwymiad i wella deiet ac atal gordewdra drwy gyfyngu ar y ffyrdd y gellir hyrwyddo bwydydd uchel mewn braster...
Mae'r rhyngrwyd yn le lle gall pobl ddweud pethau heb ddangos eu hunaniaeth go iawn. Mae hyn yn golygu bod rhai pobl weithiau'n defnyddio'r rhyngrwyd i ddweud pethau fell a niweidiol i eraill. Galwir hyn yn 'casineb ar-lein', ac mae'n digwydd pan fo rhywun yn dweud pethau ar-lein i wneud eraill deimlo'n wael oherwydd pwy ydyn nhw. Mae yna rai pethau am berson sy'n cael eu diogelu rhag gwahaniaethu ar y rhyngrwyd. Mae'r rhain yn...
Yn ogystal ag achub bywydau, bydd arafu’r traffig yn cryfhau cymunedau ac yn eu gwneud yn fwy diogel, dywedodd y Dirprwy Weinidog Lee Waters dri mis cyn y daw’r terfyn cyflymder 20mya diofyn i rym. Bydd y rhan fwyaf o strydoedd yng Nghymru sydd â therfyn cyflymder o 30mya yn newid i 20mya ddydd Sul, 17 Medi 2023 a disgrifiwyd y newid hwnnw fel y newid mwyaf i fesurau diogelu cymunedol mewn cenhedlaeth. Daw’r newid...
Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, wedi cymeradwyo heddiw (23 Mehefin 2023) y taliadau rheoleiddio y mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnig eu codi yn 2023-2024 a’r trefniadau y mae angen i CNC eu gwneud i godi’r taliadau hyn o 1 Gorffennaf 2023 yn y meysydd canlynol: Rheoleiddio diwydiant Gwastraff safleoedd Ansawdd dŵr Adnoddau dŵr Rheoleiddio cronfeydd dŵr Cyflwyno taliadau ar gyfer trwyddedu rhywogaethau Mae’r taliadau a godir gan CNC yn cael eu...
Heddiw (26 June 2023), cyhoeddodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, fod Llywodraeth Cymru yn darparu £200,000 er mwyn helpu i gryfhau newyddiaduraeth leol yng Nghymru. Mae ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i ariannu mentrau hen a newydd i wella newyddiaduraeth yng Nghymru er mwyn mynd i'r afael â diffygion o ran gwybodaeth. Bydd sefydliadau annibynnol yn y cyfryngau cymunedol yn elwa ar £100,000. Mae’r Cynllun...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.