news and blogs Archives
571 canlyniadau
Gall gweithwyr unigol fod mewn mwy o berygl o niwed gan nad oes ganddyn nhw unrhyw un i'w helpu na'u cefnogi os bydd pethau'n mynd o'i le. Dylai cyflogwyr ddarparu hyfforddiant, goruchwyliaeth, monitro a chymorth i'r rheiny sy'n gweithio ar eu pennau eu hunain. Mae taflen am ddim i'w lawrlwytho yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Protecting lone workers: How to manage the risks of working alone, ar gyfer unrhyw un sy'n cyflogi gweithwyr unigol...
Cynhelir Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd rhwng 27 Mawrth a 2 Ebrill 2023. Anogwch eich gweithle i gefnogi Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd 2023; thema eleni yw lliw. Mae Spectrum Colour Challenge rhithwir hefyd, sy’n cynnwys syniadau ar gyfer codi arian. Ymunwch â'r National Autistic Society i gefnogi'r 700,000 o bobl awtistig yn y DU. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddoleni ganlynol Employing autistic people (autism.org.uk) Autism-friendly guides Wales (autism.org.uk)
Mae Llywodraeth y DU wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer Yswiriant Gwladol gwirfoddol i 31 Gorffennaf 2023 i roi mwy o amser i drethdalwyr lenwi bylchau yn eu record Yswiriant Gwladol a helpu i gynyddu'r swm y maen nhw'n ei dderbyn ym Mhensiwn y Wladwriaeth. Daw hyn wedi i aelodau'r cyhoedd leisio pryder dros y dyddiad cau blaenorol, sef 5 Ebrill 2023. Mae gan unrhyw un sydd â bylchau yn eu cofnod Yswiriant Gwladol...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddodd cyllid newydd er mwyn helpu i gynnal a chryfhau cysylltiadau busnes, economaidd ac ymchwil Cymru gyda rhanbarthau Ewropeaidd, a hynny yn dilyn i’r DU adael yr UE. Bydd rhaglen Llywodraeth Cymru, Cymru Ystwyth yn cefnogi busnesau a sefydliadau Cymru i ddatblygu cydweithredu economaidd yn ardal Môr Iwerddon a chyda rhanbarthau Ewropeaidd eraill. Dros y 12 mis nesaf, bydd y rhaglen yn dyrannu grantiau i fusnesau a sefydliadau yng Nghymru er...
Bydd Wythnos Genedlaethol Bywyd a Gwaith 2023 yn cael ei chynnal rhwng 2 Hydref ac 6 Hydref. Mae’r wythnos yn gyfle i gyflogwyr a gweithwyr ganolbwyntio ar les yn y gwaith, a’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Gall cyflogwyr ddefnyddio’r wythnos i ddarparu gweithgareddau i’w staff, ac i arddangos eu polisïau a’u harferion gwaith. I gael rhagor o wybodaeth ac adnoddau ewch i wefan Working Families | National Work Life Week - Working Families
Fel cyflogwr sy’n cynnal cyflogres, mae angen i chi: adrodd i Gyllid a Thollau EM (CThEM) ar y flwyddyn dreth flaenorol (sy’n gorffen ar 5 Ebrill) a rhoi P60 i’ch gweithwyr paratoi ar gyfer y flwyddyn dreth newydd, sy’n dechrau ar 6 Ebrill Mae CThEM wedi cyhoeddi gwybodaeth bwysig i gyflogwyr ar GOV.UK sy’n cynnwys: cymorth wrth orffen y flwyddyn dreth 2022 i 2023 dechrau’r flwyddyn dreth newydd 2022 i 2023, trwy ddefnyddio codau treth...
Bydd pysgotwyr a pherchenogion cychod yng Nghymru’n gallu gwneud cais i gronfa gwerth £400,000 o 3 Ebrill i’w helpu i addasu i amodau cyfnewidiol y farchnad ar gyfer cynnyrch bwyd môr, meddai’r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths. Daw’r cymorth hwn oddi wrth Gronfa Pysgodfeydd Môr Ewrop (EMFF) ac mae’n cael ei gydariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd. Bydd Cynllun Costau Safonol yr EMFF yn cynnig rhestr o offer y caiff pysgotwyr a pherchenogion cychod...
Mae prif ganfyddiadau adroddiad newydd a luniwyd mewn ardaloedd sy’n treialu’r cyflymder 20mya diofyn newydd wedi dangos cyflymder gyrru arafach, lefelau uwch o gerdded a chyn lleied â phosibl o effaith ar amseroedd teithio, ymhlith eraill. Mae’r adroddiad monitro interim yn defnyddio data a gasglwyd o’r wyth ardal a ddewiswyd ar gyfer cam cyntaf rhaglen 20mya Llywodraeth Cymru a chaiff ei gyhoeddi heddiw (17 Mawrth 2023) – chwe mis yn union cyn i’r terfyn diofyn...
Peidiwch ag oedi a chofrestrwch heddiw ar gyfer Rhaglen Mentrau Small & Mighty Small Business Britain i helpu i dyfu busnesau bach gyda chanllawiau a mentora arbenigol. Mae'r rhaglen chwe wythnos hon, sydd wedi cael ei chynllunio i atgyfnerthu unig fasnachwyr a busnesau micro, yn dod i ben gyda chynllun twf i gefnogi'r flwyddyn nesaf o gyfleoedd busnes. Bydd yn cael ei darparu'n gyfan gwbl ar-lein, gan ganiatáu mynediad o unrhyw le yn y DU...
Pagination
- Previous page
- Page 57
- Next page