BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

581 canlyniadau

Yn y DU mae ystod eang o grefyddau gwahanol y gall fod angen i gyflogwyr a gweithwyr eu deall yn ogystal â sut y gallant effeithio ar y gweithle o bryd i’w gilydd. Mae’n bosib y bydd un o fisoedd mwyaf sanctaidd y calendr Islamaidd, Ramadan, yn dechrau ar nos Fercher 22 Mawrth ac yn dod i ben ar nos Wener 21 Ebrill. Mae hyn yn golygu y bydd Eid al-Fitr 2023 yn cael ei...
A yw eich sefydliad wedi cyflwyno mentrau rhagorol mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant neu o ran hyrwyddo menywod mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol? Efallai eich bod chi wedi bod yn arwain y ffordd o ran arloesi neu'r Gymraeg? Neu a ydych chi'n gwneud gwahaniaeth o ran cynaliadwyedd neu effaith gymdeithasol yng Nghymru neu ei chymunedau? Os ‘ydy/ydw’ yw’r ateb i unrhyw un o'r cwestiynau hynny, beth am roi cynnig ar Wobrau Cymdeithas Chwaraeon Cymru 2023...
Mae Banc Busnes Prydain yn gwahodd cynigion gan ddarpar reolwyr cronfa i weithredu cronfa newydd. Mae Banc Busnes Prydain ar y trywydd iawn i lansio cronfa fuddsoddi gwerth £130 miliwn yr hydref hwn, gyda'r nod o sbarduno twf busnesau bach a chanolig yng Nghymru. Mae Cronfa Fuddsoddi Cymru yn un o gyfres o Gronfeydd Buddsoddi Gwledydd a Rhanbarthau a fydd yn cael ei lansio gan Fanc Busnes Prydain a fydd yn cyflwyno ymrwymiad gwerth £1.6...
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi ei Chyllideb Gwanwyn. Dyma rai pwyntiau allweddol: rhewi’r doll ar danwydd – bydd y toriad 5c i’r doll ar betrol a diesel, a oedd i ddod i ben ym mis Ebrill, yn cael ei gadw am flwyddyn arall bydd y lwfans blynyddol di-dreth ar gyfer pensiynau yn codi o £40,000 i £60,000 a bydd y Lwfans Gydol Oes yn cael ei ddileu bydd y Warant Prisiau Ynni (EPG)...
Mae'r Adran Busnes a Masnach (DBT) wedi datgelu gwefan ganolog newydd, wedi'i thargedu at helpu 5.5 miliwn o fusnesau'r DU. Nod safle newydd 'Helpu i Dyfu' yr Adran Busnes a Masnach yw uwchsgilio busnesau mawr a bach ledled y wlad trwy eu helpu i: Ddysgu sgiliau newydd Cyrraedd mwy o gwsmeriaid Hybu elw busnesau I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Homepage - Help to Grow Mae Busnes Cymru yn darparu gwybodaeth...
Mae Network She yn fenter ragweithiol, esblygol, sy'n cynnig mynediad at adnoddau, cefnogaeth, atebion a chyngor i entrepreneuriaid benywaidd arloesol. Yn dilyn seibiant oherwydd pandemig Covid, mae Cynhadledd Women Mean Business Network She yn ôl ac yn mynd ar daith o amgylch y DU ac yn dod â #WMBT23 i chi! Wele isod ddyddiadau'r daith ar gyfer 2023: 23 Mawrth – Caerdydd 20 Ebrill – Caerhirfryn 25 Mai – Manceinion 29 Mehefin - Birmingham 13...
Cynhelir Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang (GAAD) ar 18 Mai 2023. Pwrpas GAAD yw i gael pawb i siarad, meddwl a dysgu am fynediad a chynhwysiant digidol, a'r mwy nag un biliwn o bobl sydd ag anableddau/namau. Mae pob defnyddiwr yn haeddu profiad digidol o'r radd flaenaf ar y we. Rhaid i rywun sydd ag anabledd allu profi gwasanaethau a chynnwys ar y we, a chynhyrchion digidol eraill gyda'r un canlyniad llwyddiannus â'r rheiny heb anableddau...
Bydd y Gwarant Pris Ynni, sy'n diogelu cartrefi drwy gapio biliau ynni nodweddiadol ar £2,500, yn cael ei gynnal ar yr un lefel am dri mis pellach dros fis Ebrill, mis Mai, a mis Mehefin, sy'n werth cyfanswm o £160 i gartref nodweddiadol. Mae'r Canghellor yn cyhoeddi'r estyniad fel rhan o Gyllideb Gwanwyn Llywodraeth y DU. Bydd y Gwarant Pris Ynni yn cael ei gadw ar £2,500 am dri mis ychwanegol o fis Ebrill i...
Bydd y gwobrau hyn yn cydnabod busnesau, elusennau, ac unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol ledled Prydain Fawr. Gall unrhyw fusnes neu unigolyn sydd wedi'i leoli ym Mhrydain Fawr naill ai enwebu neu gael ei enwebu. Dyma’r categorïau: Busnes y Flwyddyn Entrepreneur Gwrywaidd y Flwyddyn Entrepreneur Benywaidd y Flwyddyn Busnes Newydd y Flwyddyn Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn BBaCh y Flwyddyn Cyflogwr y Flwyddyn Hyrwyddwr Cymunedol COVID Prentis y Flwyddyn Elusen y Flwyddyn Cyfraniad Eithriadol i'r...
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi caniatâd ar gyfer y fferm wynt arnofiol gyntaf yn nyfroedd Cymru, 40km oddi wrth arfordir Sir Benfro. Bydd prosiect Erebus yn gosod saith tyrbin cenhedlaeth nesaf, 14 megawat, ar blatfformau sy'n arnofio. Byddan nhw'n darparu digon o ynni carbon isel ar gyfer 93,000 o gartrefi. Mae Erebus yn rhan o gam cyntaf datblygiad ynni adnewyddadwy pedwar gigawat yn y Môr Celtaidd – digon i ddarparu pŵer ar gyfer pedair miliwn...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.