BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

851 canlyniadau

Mae gwasanaeth digidol cenedlaethol newydd wedi’i lansio, a fydd yn symleiddio'r Cynnig Gofal Plant i rieni a darparwyr gofal plant. Mae'r Cynnig hefyd wedi'i ehangu i fwy o deuluoedd, a gall rhieni sydd mewn addysg a hyfforddiant nawr wneud cais am hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant wedi'u hariannu gan y llywodraeth ar gyfer eu plant tair a phedair oed. Ar hyn o bryd mae'r Cynnig Gofal Plant yn cael ei...
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig newidiadau i’r canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol wrth iddynt benderfynu codi treth gyngor ychwanegol. Disgrifiad o'r ymgynghoriad Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru’r canllawiau i adlewyrchu’r newidiadau i’r polisi treth gyngor yng Nghymru ac wedi darparu canllawiau ar weinyddu, gorfodi ac adrodd ar bremiymau’r dreth gyngor ar gyfer: eiddo gwag hirdymor ail gartrefi Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 22 Rhagfyr 2022. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Premiymau’r...
Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi cyhoeddi bod mwy na 1,100 o bobl ddi-waith sy’n wynebu rhwystrau cudd sy’n eu hatal rhag cymryd rhan yn y farchnad lafur wedi cael cymorth i ddechrau eu busnes eu hunain diolch i gynllun grant Llywodraeth Cymru. Mae Sami Gibson yn un ohonynt sy’n fam sengl, ddi-waith a oedd yn benderfynol o greu bywyd gwell iddi hi ei hun a'i phlentyn. Roedd gan Sami freuddwydion am sefydlu ei...
Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru flaengar, fodern ar y llwyfan byd-eang a ddarperir gan Gwpan y Byd FIFA yn Qatar wedi eu datgelu gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw (15 Tachwedd 2022). Bydd yr ymgyrch yn cyflwyno gwerthoedd Cymru a sicrhau gwaddol cadarnhaol o weld Cymru yn cystadlu yn yr ymgyrch Cwpan y Byd cyntaf mewn 64 mlynedd. Gyda llai nag wythnos i fynd nes bod Cymru'n chwarae'r gêm grŵp gyntaf yn...
Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio ar gynigion a fydd yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll ymwelwyr a fydd yn creu refeniw i gynorthwyo gyda buddsoddi yn y diwydiant twristiaeth yn eu hardaloedd. Mae cyflwyno ardoll ymwelwyr yn ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Mae’r gwaith yn cael ei wneud mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru, ac mae’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio. Mae’r ymgynghoriad ar agor. Mae Llywodraeth Cymru am glywed eich barn er mwyn...
Mae BSI wedi cyhoeddi safon genedlaethol arloesol, gan roi arweiniad i sefydliadau ar sut i reoli risgiau caethwasiaeth fodern yn eu gweithrediadau, cadwyni cyflenwi ac amgylchedd gweithredu ehangach. Mae BS 25700 yn rhoi arweiniad i sefydliadau ar gyfer mynd i'r afael â'r risg o gaethwasiaeth fodern, gan gynnwys atal, amlygu, ymateb, adfer, lliniaru, ac adrodd. Mae'r buddion i fusnesau yn cynnwys: Rheoli'r risg o gaethwasiaeth fodern yn effeithiol mewn ffordd sy'n cefnogi diwydrwydd dyladwy hawliau...
Rhaid i chi eu defnyddio erbyn 31 Ionawr 2023 neu eu cyfnewid am stampiau newydd. Mae’r Post Brenhinol yn ychwanegu cod bar at eu stampiau arferol. Ar ôl 31 Ionawr 2023, ni fydd stampiau arferol heb god bar yn ddilys mwyach. Gallwch naill ai ddefnyddio’r stampiau hyn cyn y terfyn amser hwn, neu eu cyfnewid am y stampiau newydd â chod bar. Y stampiau sy’n newid yw’r rhai a fydd yn gyfarwydd iawn i chi...
Mae arolwg ar-lein y Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi cael ei estyn i 21 Tachwedd, i sicrhau bod gan bobl ddigon o amser i roi eu hadborth gwerthfawr ar gamau gweithredu a phrosesau arfaethedig y cynllun. Mae camau i gefnogi cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy, i wella bioamrywiaeth ac i atgyfnerthu'r economi wledig yn rhan o'r cynigion sy'n amlinellu'r camau nesaf yn y gwaith o lunio cynllun blaengar Cymru ar gyfer cefnogi ffermwyr. Mae'r Cynllun Ffermio...
Mae Enterprise Nation, Uber a Be Inclusive Hospitality yn ymuno i gefnogi cwmnïau drwy'r Gronfa Busnesau Pobl Dduon. Bydd y gronfa’n dosbarthu £250,000 i gwmnïau sy'n eiddo i bobl dduon yn y diwydiant arlwyo sy'n dal i frwydro i adfer yn dilyn y pandemig ac sydd nawr yn wynebu argyfyngau ynni a chostau byw. Gall bwytai sy'n eiddo i bobl dduon gyda llai na phum lleoliad wneud cais i'r gronfa am grant. Bydd 25 o...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig y bydd rhagor o gategorïau eiddo yn cael eu heithrio rhag talu premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi, gan reoli effaith rheolau treth lleol newydd i wahaniaethu rhwng ail gartrefi a llety hunanddarpar. Bydd canllawiau ychwanegol hefyd ar y disgresiwn fydd gan awdurdodau lleol o ran defnyddio’r premiymau. Daw hyn yn sgil trafod ac ymgysylltu parhaus â chynghorau, cymunedau a'r diwydiant twristiaeth. Bwriad y newidiadau treth, a fydd mewn...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.