BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

861 canlyniadau

Ar 19 Tachwedd 2022 bydd Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yn dathlu'r gwerth cadarnhaol mae dynion yn ei gynnig i'r byd, i’w teuluoedd ac i'w cymunedau. Mae'r diwrnod yn tynnu sylw at fodelau rôl cadarnhaol ac yn codi ymwybyddiaeth o lesiant dynion. Ar lefel leol, gall pobl, elusennau, cyflogwyr a sefydliadau benderfynu defnyddio unrhyw feysydd, materion neu weithgareddau o’u dewis i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Dynion. I'w helpu i gael syniadau, fe wnaeth llawer o bobl...
Ydych chi’n fusnes gwyrdd newydd neu’n eco-entrepreneur gyda syniad ardderchog yn y sector economi gylchol a’r economi werdd? Mae Gwobr Green Alley yn chwilio am syniadau gwyrdd gwych, gwasanaethau, cynhyrchion a thechnolegau newydd a all droi gwastraff yn adnodd. Yn gyfnewid am hynny, maent yn cynnig cefnogaeth strategol, cyfleoedd rhwydweithio ac arbenigedd mewn ymuno â’r economi gylchol ledled Ewrop, a gwobr ariannol gwerth €25,000. Rhaid i fusnesau newydd sy’n gwneud cais ar gyfer y Green...
Sefydlwyd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg gan Lywodraeth Cymru i wneud argymhellion ar sut i helpu gwneud yn siŵr y gall ein holl gymunedau Cymraeg ffynnu. Maen nhw’n dymuno clywed gan aelodau o'r cyhoedd a mudiadau ar bob math o faterion sy'n effeithio ar gymunedau Cymraeg, o dai ac addysg i ddatblygiad cymunedol ac adfywio. Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 13 Ionawr 2023. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Dyfodol cymunedau Cymraeg: galwad...
Mae Cymru wedi hen ennill ei phlwyf fel ailgylchwr gorau’r DU ac mae’r ystadegau newydd a gyhoeddwyd heddiw (10 Tachwedd 2022) yn dangos ein bod yn rhagori ar y targed ailgylchu statudol o 64% gan daro 65.2%. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1 biliwn mewn ailgylchu ers datganoli, ac mae hynny wedi helpu codi cyfraddau o’r 4.8% pitw ym 1998-99 i 65% a mwy heddiw. Yn 2024-25, bydd y targed statudol yn cael ei godi...
Cyngor i weithwyr Adnoddau Dynol proffesiynol, rheolwyr llinell a chydweithwyr i gefnogi gweithwyr gyda COVID hir. Roedd amcangyfrif o 1.3 miliwn o bobl yn y DU yn dioddef COVID hir ym mis Ionawr 2022. Mae cefnogi gweithwyr sydd â COVID hir i ddychwelyd i'r gwaith ac aros yn y gwaith yn bwysig ar gyfer eu hadferiad ac i'ch sefydliad. Gan dynnu ar ymchwil CIPD, sy'n cynnwys gweithwyr sy'n dychwelyd i'r gwaith, rheolwyr llinell, iechyd galwedigaethol...
Helpu busnesau uchelgeisiol i gydweithio ac ehangu mewn marchnadoedd newydd, gan gyflymu twf busnes. Cefnogir hyd at 15 o fusnesau arloesol twf uchel yn ystod pob Rhaglen Arloesi Busnes Byd-eang (GBIP). Maent yn archwilio ac yn manteisio ar y cyfleoedd cydweithio, twf ac arloesedd sy'n bodoli mewn marchnad fusnes benodol o amgylch thema benodol, o amaeth-dechnoleg i ddeallusrwydd artiffisial. Mae'r GBIP yn darparu gwybodaeth fanwl am y farchnad, cyflwyniadau a mewnwelediad diwylliannol y byddai BBaChau...
Ein gwlad, ein hinsawdd, ein cydgyfrifoldeb. Bydd yr Wythnos eleni’n cael ei chynnal yn union ar ôl COP27 (uwchgynhadledd ryngwladol nesaf ‘Cynhadledd y Partïon’ ar newid hinsawdd, yn yr Aifft rhwng 6 a 18 Tachwedd 2022). Mae Wythnos Hinsawdd Cymru 2022, 21 i 25 Tachwedd, yn gyfuniad o ddigwyddiadau rhithiol ac wyneb yn wyneb, wedi'u trefnu i rannu arfer gorau a chefnogi ymrwymiad parhaus Cymru i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Mae...
Mae gan gyflogwyr yr un cyfrifoldebau dros iechyd a diogelwch gweithwyr hŷn ag ar gyfer pob gweithiwr. Mae t udalen we gweithwyr hŷn yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn cynnig cyngor ar beth sydd angen i chi ei ystyried, yn ogystal â chysylltu â gwybodaeth berthnasol ar: y gyfraith cyfrifoldebau gweithwyr cyfraith cydraddoldeb Mae gan wefan yr HSE gyngor a chanllawiau ar sut i amddiffyn gweithwyr bregus eraill. I gael mwy o wybodaeth...
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi lansio ei strategaeth gynaliadwyedd gyntaf erioed, sef ‘Cymru, llesiant a’r byd’ sy’n amlinellu ei gweledigaeth ar gyfer ‘Cymru leol fyd-eang’, gan ddefnyddio grym pêl-droed i wella llesiant y genedl. Gyda thîm cenedlaethol y dynion yn mynd i’w Cwpan y Byd cyntaf ers 64 mlynedd, dywedodd y prif weithredwr, Noel Mooney, y bydd y sefydliad yn rhoi cynaliadwyedd wrth wraidd ei holl benderfyniadau, gan annog yr ecosystem bêl-droed gyfan – a...
Mae CThEF wedi diweddaru eu canllawiau i'ch helpu i ddysgu mwy am ddechrau gyda Hunan-asesu. Gallwch gael gwybodaeth am y canlynol hefyd: Tanysgrifio i dderbyn diweddariadau e-bost Cofrestru ac ymuno â gweminarau Cael cymorth gyda Hunanasesu Os ydych yn llenwi ffurflen dreth Hunanasesiad am y tro cyntaf Sut i lenwi eich ffurflen dreth ar-lein Incwm rhent tramor Pecynnau cymorth Sut i gyllidebu ar gyfer eich bil treth Hunanasesiad os ydych chi'n hunangyflogedig Sut i ychwanegu...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.