BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

11 canlyniadau

Adra shop, Caernarfon
Mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach yn gofyn i bobl ledled Cymru ymrwymo i wario o leiaf £10 yn lleol gyda busnes bach a rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol beth sy'n gwneud y busnes hwnnw'n arbennig gan ddefnyddio'r hashnod #10PuntLeol #10PoundPledge. Mae'r mudiad yn dweud bod cymryd rhan yn yr ymgyrch yn gallu helpu: Hybu economïau lleol: Annog eraill i gefnogi busnesau bach yn eu cymuned. Arddangos busnesau lleol: Tynnu sylw at gynigion unigryw busnesau bach. Sicrhau...
Youth worker
Mae ceisiadau ar gyfer Gwobrau Elusen Weston 2025 bellach ar agor! Ydych chi'n arwain elusen sy'n gweithio ym meysydd y Gymuned, yr Amgylchedd, Llesiant neu Ieuenctid? Ydych chi wedi eich lleoli yng Nghymru neu yng Ngogledd neu Ganolbarth Lloegr? A oes gennych o leiaf un aelod o staff sydd wedi’i gyflogi’n amser llawn mewn swydd arwain, ac a yw eich incwm yn llai na £5 miliwn y flwyddyn? Yna gallech fod yn gymwys i gael...
Traffig Gwyriad
Bydd gwaith ffordd sylweddol i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol ar yr A487 ger Trefdraeth, Sir Benfro, yn dechrau o 6 Ionawr 2025 am wyth wythnos. Bydd y gwaith, sy'n cael ei wneud i sicrhau gwytnwch hirdymor y ffordd a lliniaru yn erbyn effeithiau newid hinsawdd, yn golygu ailosod system ddraenio sy'n croesi o dan yr A487. Bydd hefyd yn diogelu'r cysylltiadau ffordd hirdymor rhwng cymunedau a gwasanaethau hanfodol, fel darparwyr gofal iechyd ac...
Volunteers in a kitchen at Christmas
Rydym i gyd yn profi unigrwydd o bryd i'w gilydd. Ond er bod tymor yr ŵyl yn gallu bod yn gyfnod o lawenydd a chysylltiad, gall hefyd gael yr effaith groes weithiau - gan wneud i ni deimlo'n unig ac wedi ein datgysylltu. P'un ai ydych chi'n dathlu'r Nadolig, Hanukkah, y Flwyddyn Newydd, gŵyl arall, neu ddim un ŵyl, gallwch ddod o hyd i awgrymiadau ar sut i ymdopi a ffyrdd o gefnogi rhywun arall...
Apple tree in Powys
Cyhoeddwyd y datganiad canlynol gan Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig a Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Hyd at ganol yr ugeinfed ganrif, roedd gan Gymru ddiwydiant garddwriaethol cyfoethog ac amrywiol a oedd yn cyflenwi anghenion lleol ac yn weithgaredd defnydd tir sylweddol yn lleol. Ond arweiniodd y symudiad at system fwyd fyd-eang yn negawdau olaf y...
Holyhead Port
Rydym wedi derbyn diweddariad y prynhawn yma (17 Rhagfyr 2024) gan Stena na fydd Porthladd Caergybi yn ailagor tan 15 Ionawr 2025 ar y cynharaf yn dilyn y difrod a gafwyd yn ystod Storm Darragh. Nid dyma'r newyddion yr oedd unrhyw un ohonom eisiau ei glywed. Fodd bynnag, mae’n rhoi eglurder fel gall cynlluniau wrth gefn eu rhoi ar waith. Roeddem eisoes yn gweithio mewn partneriaeth ar gynlluniau wrth gefn pe baem yn y sefyllfa...
Health care worker checking the health of a worker
Sicrhau Mynediad at Iechyd i Fudwyr Drwy Gydol eu Taith. Bob blwyddyn ar 18 Rhagfyr, mae'r byd yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Mudwyr, diwrnod a neilltuwyd i gydnabod cyfraniad pwysig mudwyr a thynnu sylw at yr heriau sy'n eu hwynebu. Mae mudo wastad wedi bod yn rhan hanfodol a chyfoethog o gymdeithasau, gan gyfrannu at gryfder a gwytnwch poblogaethau a meithrin economi sy'n canolbwyntio ar les i bawb. Er mwyn gwireddu'r potensial hwn, fodd bynnag, rhaid...
2025 calendar
Bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan mewn nifer o arddangosfeydd a chynadleddau busnes i fusnes (B2B) i hyrwyddo busnesau Cymru a Chymru. Bydd hyn yn creu cyfleoedd i fusnesau yng Nghymru gymryd rhan gyda ni o dan faner Cymru. Mae Tîm Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel Llywodraeth Cymru yn cynllunio presenoldeb yn y digwyddiadau a restrir isod, yn amodol ar ddiddordeb digonol gan gwmnïau Cymreig. DYDDIAD DIGWYDDIAD LLEOLIAD SECTOR 19 - 20 Mawrth 2025 Farnborough International Space...
Chef preparing a meal
Great Taste yw cynllun achredu bwyd a diod mwyaf a mwyaf dibynadwy'r byd. Mae rhoi eich bwyd neu ddiod ar brawf gyda phanel o dros 500 o arbenigwyr yn ffordd gyflym o gael adborth gonest, syml a diduedd gan gogyddion, prynwyr, awduron bwyd a manwerthwyr. P'un ai yw'ch cynnyrch yn derbyn anrhydedd 1-, 2- neu 3-seren, mae sêr Great Taste yn arwydd o gymeradwyaeth uchel eu parch. Bob blwyddyn mae Bwrsariaeth Great Taste yn cynnig...
Tutor and pupil
Mae’r Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid blynyddol yn cydnabod gwaith gwerthfawr tiwtoriaid a mentoriaid wrth gefnogi dysgu gydol oes ar draws Cymru, ac mae enwebiadau ar gyfer 2025 bellach ar agor. Mae’r gwobrau yn dathlu ymdrech ac ymroddiad rhagorol tiwtoriaid a mentoriaid i helpu oedolion sy’n ddysgwyr i gyflawni eu huchelgais, oherwydd y tu ôl i ddysgwyr llwyddiannus mae yna fentoriaid a thiwtoriaid sy’n ysbrydoli. Dylai enwebiadau ddangos cyflawniadau mewn o leiaf ddau o'r meysydd canlynol: Datblygu'r...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.