Dyma gyfle i feithrin y sgiliau hanfodol a chael yr hyfforddiant, cyngor, mentoriaeth, a mynediad at gyllid di-log sydd eu hangen i lansio eich busnes neu eich menter eich hun. Mae Rhaglen Entrepreneuriaeth Assadaqaat Community Finance (ACF) i Fenywod wedi’i chynllunio ar gyfer menywod o bob cymuned yng Nghymru, gyda ffocws arbennig ar fenywod o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. P'un a ydych yn ffoadur, yn geisiwr lloches, neu’n dod o gymuned fudol, os...