BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

111 canlyniadau

office worker being shouted at by a manager
Gall trais ac ymddygiad ymosodol yn y gwaith gael effaith ddifrifol ar iechyd corfforol a meddyliol eich gweithwyr Bydd canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar drais yn y gwaith yn eich helpu i ddiogelu eich gweithwyr. Bydd yn eich helpu i: asesu’r risgiau rhoi’r mesurau rheoli cywir ar waith adrodd am ddigwyddiadau a dysgu oddi wrthynt Mae canllawiau penodol ar sut i gefnogi eich gweithwyr ar ôl digwyddiad treisgar ar gael. Ceir enghreifftiau...
Person using a laptop with AI
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn cefnogi busnesau ac arloeswyr o bob sector, os ydyn nhw’n defnyddio gwybodaeth bersonol mewn ffyrdd newydd a chreadigol. Maen nhw’n cynnig cyngor arbenigol a chymorth wedi’i deilwra ar sut y gall deddfau diogelu data fod yn berthnasol i ddatblygiadau newydd, gan gynnwys deallusrwydd artiffisial (AI) a thechnegau dysgu peirianyddol, a hynny’n rhad ac am ddim. Dyluniwyd eu gwasanaeth Cyngor Arloesi i ymateb i'ch cwestiynau rheoleiddio o fewn 10-15 diwrnod...
Hairdresser and client
Mae’r cyflog byw yn dda i fusnes, yn dda i weithwyr ac yn dda i’r economi leol. Drwy dalu’r Cyflog Byw mae cyflogwyr yn cymryd cam gwirfoddol i sicrhau bod eu cyflogai yn gallu ennill cyflog y mae modd iddynt fyw arno. Golyga hyn eu bod yn gallu cyfranogi at gymdeithas, gan ennill digon o arian i fyw, yn hytrach na dim ond crafu byw. Yn ogystal â bod y peth iawn i’w wneud, mae...
piggy bank, calculator and money
Hyd yn oed gyda chynnydd mewn newyddion sy’n gysylltiedig â chostau byw, rydym yn gwybod y gall fod yn anodd siarad am arian. Bob blwyddyn mae Wythnos Siarad Arian, eleni rhwng 4 ac 8 Tachwedd, yn annog pobl i siarad yn agored am eu cyllid. Mae’r wythnos yn gyfle i bawb gymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau ar draws y DU sy’n helpu pobl i gael mwy o sgyrsiau agored am eu harian – o...
Employment fund image
Mae gweithwyr yng Nghymru sydd wedi colli eu swyddi yn Tata Steel UK neu mewn busnes yng nghadwyn gyflenwi'r cwmni a chontractwyr cysylltiedig eraill bellach yn gallu cael gafael ar gyllid sydd wedi cael ei neilltuo i'w helpu i ailsgilio a dychwelyd i fyd gwaith. Mae'r ‘Gronfa Hyblyg Cyflogaeth a Sgiliau’ yn rhan o raglen gwerth £13.5m sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU a'i chydlynu gan Fwrdd Pontio Tata Steel er mwyn cefnogi...
Greenfleet
Nid yw trydaneiddio a diogelu unrhyw fflyd ar gyfer y dyfodol yn syml. Mae gweithredu strategaeth i sicrhau bod y cerbydau, y dechnoleg a'r polisïau cywir yn cael eu rhoi ar waith yn holl bwysig, a gan fod pob busnes ledled Cymru ar wahanol gamau, mae digon o waith i'w wneud o hyd. Ar ôl gweld effaith digwyddiadau GREENFLEET Scotland ers 2009, ynghyd â Rali EV ers 2021, a dechrau'r Rali EV - Her Prifddinas...
Person holding a clipboard in a warehouse
Mae'r Wythnos Masnach Ryngwladol (ITW) yn ôl rhwng 11 a 15 Tachwedd 2024. Dan arweiniad yr Adran Busnes a Masnach (DBT), mewn partneriaeth â diwydiant, mae ITW yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer cwmnïau fel digwyddiadau, gweithdai a gweminarau. P'un a ydych chi eisiau ennill eich contract allforio cyntaf neu ehangu eich gwerthiannau rhyngwladol presennol, bydd yr Wythnos Masnach Ryngwladol yn cynnwys rhywbeth i chi. Mae gweithgareddau'r wythnos ar gyfer cwmnïau o'r DU o...
Business man being harassed at work
Mae'r gyfraith ar atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn newid. Ar 26 Hydref 2024 bydd y Ddeddf Diogelu Gweithwyr (Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010) 2023 yn dod i rym. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno rhwymedigaeth gyfreithiol gadarnhaol newydd ar gyflogwyr i gymryd camau rhesymol i amddiffyn eu gweithwyr rhag aflonyddu rhywiol. Os bydd cyflogwr yn torri'r ddyletswydd ataliol, bydd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) y pŵer i gymryd camau gorfodi yn erbyn y...
Climate change news image
Wrth i arweinwyr byd ymgynnull yng nghynhadledd fioamrywiaeth COP16 Cali yr wythnos hon, a fis cyn iddynt ddod at ei gilydd yn Baku ar gyfer COP 29, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi strategaeth sy'n canolbwyntio ar ddarparu Cymru wedi'i haddasu ar gyfer ein hinsawdd sy'n newid. Mae Strategaeth Addasu i'r Hinsawdd Cymru ar gyfer 2024 - a rennir gan y Dirprwy Brif Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies -...
J&H Spreading Argi engineering
Mae contractwr amaethyddol a pheiriannydd o Lanfair ym Muallt ar gyrch i helpu ffermwyr i dynnu carbon deuocsid o’r atmosffer gan ddefnyddio technoleg newydd. Diolch i gefnogaeth Busnes Cymru, mae Phil Hughes wedi ehangu ei gwmni, J&H Spreading and Agri Engineering Ltd, i helpu ffermwyr i ymgorffori arfer casglu carbon newydd sy’n defnyddio llwch basalt i’w harferion rheoli tir. Mae llwch basalt yn cynnig y cyfle i gasglu carbon o’r aer, trwy ei gloi’n ddiogel...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.