BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

101 canlyniadau

20mph sign
Mae data newydd yn dangos bod anafiadau wedi lleihau ar ffyrdd ers cyflwyno'r terfynau cyflymder 20mya'r llynedd. Mae'r data, sy'n nodi cyfanswm nifer y rhai a anafwyd mewn gwrthdrawiadau a gofnodwyd gan yr heddlu, yn dangos bod nifer yr anafiadau ar y ffyrdd 20mya a 30mya wedi gostwng 218, o 681 yn 2022 i 463 yn 2023. Cyfanswm nifer yr anafiadau ar ffyrdd 20mya a 30mya yn Ch4 oedd y ffigwr chwarterol isaf a gofnodwyd...
Cerrig Granite and Slate Ltd
Mae cwmni cerrig o’r gogledd yn archwilio cynllun datblygu sylweddol a fydd yn dyblu trosiant misol y busnes ac yn gwella ei ôl troed carbon, diolch i gefnogaeth Busnes Cymru. Sefydlwyd Cerrig Granite and Slate Ltd gan Glyn Williams, gweithiwr maen y bedwaredd genhedlaeth, a’i fab Ian, yn 2000. Dros ddau ddegawd yn ddiweddarach, ymunodd brawd yng nghyfraith Ian, Hugo Were ag ef fel cyfranddaliwr a chyfarwyddwr cynhyrchu a gwerthu, er mwyn arwain y busnes...
Dog friendly pub - person and dog in a pub
Mae cynllun Sicrwydd Ansawdd a chynllun Cymeradwyo yn swyddogol, yn gredadwy ac yn cael eu cydnabod gan gwsmeriaid fel arwydd o ansawdd a lefel y gwasanaethau y gallant ddisgwyl eu derbyn. Mae cael eich sicrhau o ansawdd gan Croeso Cymru yn galluogi i’ch busnes gael ei feincnodi yn erbyn busnesau eraill yng Nghymru a'r DU i'ch helpu i ddatblygu'r fantais gystadleuol honno. Mae gwobrau Croeso Cymru yn cydnabod y busnesau hynny sydd wedi darparu cyfleusterau...
Lon Las Cefni
Mae Wythnos y Beic 2024 yn cael ei chynnal rhwng 10 a 16 Mehefin, ac mae’n argoeli i fod hyd yn oed yn well ac yn fwy na 2023 pan fu dros 220 o fusnesau a sefydliadau ledled y DU yn cymryd rhan. Mae gan sefydliadau ran bwysig i'w chwarae wrth ddatgarboneiddio'r economi a sicrhau bod targedau sero net yn cael eu cyrraedd. Ac er mai trafnidiaeth yw ffynhonnell unigol fwyaf allyriadau yn y DU...
Health Workers completing a form
Galwad am dystiolaeth i archwilio diwygio’r broses nodyn ffitrwydd i gefnogi’r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor i gael mynediad at gymorth gwaith ac iechyd yn amserol. Bydd yr alwad hon am dystiolaeth yn llywio rhaglen waith a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn natganiad yr hydref yn 2023, i archwilio diwygio’r broses nodyn ffitrwydd i gefnogi’r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor i gael mynediad at gymorth gwaith ac iechyd yn amserol. Bwriad yr alwad am...
Food production safety inspectors
Cynhelir Diwrnod Diogelwch Bwyd y Byd ar 7 Mehefin 2024 a bydd yn tynnu sylw at ac yn ysbrydoli camau gweithredu er mwyn helpu i atal, canfod a rheoli risgiau sy’n cael eu cario mewn bwyd, gan gyfrannu at ddiogelwch bwyd, iechyd pobl, ffyniant economaidd, cynhyrchiant amaethyddol, mynediad i'r farchnad, twristiaeth a datblygu cynaliadwy. Sefyllfaoedd sy’n gysylltiedig â bwyta bwyd lle mae perygl posibl i iechyd neu berygl wedi'i gadarnhau yw digwyddiadau diogelwch bwyd. Gall...
Lucy Hay
O stondin crefftau bach yn Llandudno i gytundebau dosbarthu mawr yn y Dwyrain Canol, mae Lucy Hay wedi profi bod unrhyw syniad busnes yn gallu llwyddo’n rhyngwladol gyda’r cymorth cywir. Sefydlwyd Art on Scarves yn 2017 fel brand sgarffiau moethus sy’n cynnwys dyluniadau wedi eu darlunio â llaw gan artistiaid Cymreig a Phrydeinig, wedi eu printio â llaw ar sgarffiau gwlanen cashmir, gwlân neu eco-gymysgedd. O syniad a ddechreuodd fel busnes graddfa fach, yn ymddangos...
Siôn Ridgeway
Mae cwmni ffitrwydd arobryn sy’n gweithredu yn Abertawe a Chastell-nedd wedi priodoli ei dwf o 20% i’r cymorth a gafodd gan Busnes Cymru i ddatblygu ei gynllun busnes a darparu mentora parhaus. Sylfaenydd a gweithredwr SAVAGE DanZfit yw Si ô n Ridgeway sy’n 50 oed, ac mae’r cwmni’n cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd fel rhaglenni ffitrwydd Zumba ® , Aqua Zumba ® , a Strong Nation™ ar gyfer oedolion a phlant. Hyfforddodd Siôn fel dawnsiwr...
Cymru yw'r 2il wlad orau yn y byd am ailgylchu
Mewn astudiaeth newydd a gyhoeddwyd heddiw, mae Cymru wedi cael ei henwi'n ail orau yn y byd am ailgylchu. Mae Cymru ymhell ar y blaen yn y DU, ac mae ychydig y tu ôl i Awstria yn y safleoedd byd-eang a gyhoeddwyd gan Eunomia Research and Consulting a Reloop. Mae Gogledd Iwerddon yn 9fed, Lloegr yn 11eg a'r Alban yn 15fed ymhlith y 48 o wledydd sydd wedi cael eu cynnwys wrth gymharu'r cyfraddau. Roedd...
Entrepreneur - wheelchair user
Ydych chi'n entrepreneur anabl sy’n cynnig cynnyrch neu wasanaeth busnes clyfar? Ydych chi eisoes wedi dechrau busnes ond angen ychydig o hwb ychwanegol er mwyn symud i'r lefel nesaf? Mae Gwobrau Stelios ar gyfer Entrepreneuriaid Anabl yn ôl ac yn cynnig y tair gwobr ganlynol: £100,000 £60,000 £40,000 Rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno erbyn 5pm ddydd Mawrth 11 Mehefin 2024. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: How to apply for...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.