Archives
1041 canlyniadau
Mae daeargrynfeydd dinistriol wedi taro Twrci a Syria, gan ladd miloedd o bobl a dinistrio adeiladau. Mae pobl angen cymorth brys. Gall busnesau sydd eisiau rhoi cymorth i ymdrech daeargryn Twrci a Syria gysylltu â rhif ymholiadau cyffredinol y Groes Goch ar 0344 871 11 11 neu Bwyllgor Argyfyngau (DEC) ar 0370 60 60 610. Am wybodaeth bellach ewch i’r ddolen ganlynol dec.org.uk dec.org.uk
![Wall Art For All](/sites/maingel2/files/styles/post_teaser/public/images/Wall%2520Art%2520For%2520All%2520-%2520Image%5B1%5D.jpg.webp?itok=sI1Sxi5X)
Mae byw eich bywyd o fewn fframwaith gonestrwydd ac ymddiriedaeth yn allweddol i ennill parch trwy uniondeb ac mae’n hanfodol wrth feithrin perthnasoedd pwysig a all eich helpu i gyrraedd y man lle’r ydych am fod. Bydd cyfleu uniondeb yn cael effaith rymus ar hybu eich enw da, y mae angen i chi ei feithrin a’i amddiffyn i gyflawni llwyddiant. Gall niweidio’ch enw da wneud tolc mawr yn eich uchelgais. Bydd ymarfer gonestrwydd ac ymddiriedaeth...
Nawr yw'r cyfle perffaith i wirio’r newidiadau allweddol sy'n effeithio ar y gyflogres ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024. Cewch drosolwg o'r prif newidiadau drwy ymuno â gweminar byw CThEF 'Cyflogwyr – beth sy'n newydd ar gyfer 2023 i 2024', lle gallwch ofyn cwestiynau gan ddefnyddio'r blwch testun ar y sgrin. Ymunwch â'r gweminar byw hwn i gael trosolwg o'r cyfraddau newydd ar gyfer: Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 Cyflog Byw Cenedlaethol a'r Isafswm Cyflog...
Cyflwynwyd Treth Pecynnau Plastig ar 1 Ebrill 2022. Os ydych chi'n gweithgynhyrchu neu'n mewnforio 10 neu fwy o dunelli o becynnau plastig o fewn cyfnod o 12 mis, rhaid i chi gofrestru ar gyfer Treth Pecynnau Plastig ar GOV.UK, hyd yn oed os yw eich pecynnau’n cynnwys 30% neu fwy o blastig wedi'i ailgylchu. Mae angen i chi gofrestru ar gyfer Treth Pecynnau Plastig os oes unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol: rydych chi’n disgwyl...
Mae’r ymgyrch ar draws y diwydiant #CaruCymruCaruBlas -#LoveWalesLoveTaste yn dychwelyd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 1 Mawrth 2023! Hwn fydd yr ymgyrch mwyaf erioed i annog siopwyr yng Nghymru a Phrydain Fawr i ddathlu bwyd a diod o Gymru ar ein diwrnod cenedlaethol. Fel yr ymgyrchoedd blaenorol, bydd pecyn cymorth digidol newydd ar gael i chi ei ddefnyddio ar eich cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr ymgyrch. Os ydych chi’n fusnes yng Nghymru, bydd eich cwsmeriaid...
Gweinidog yr Economi yn lansio cynllun newydd i sicrhau y bydd gan blant a gweithwyr y sgiliau sydd eu hangen i weithio mewn swyddi newydd yn economi sero net yfory. Heddiw (28 Chwefror 2023), cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, Gynllun Cymru Gryfach, Wyrddach a Thecach: Sgiliau Sero Net. Mae’r cynllun yn cydnabod pwysigrwydd sgiliau wrth gefnogi ein heriau sero net, drwy roi’r sgiliau cywir i’n gweithlu presennol ac i weithwyr y dyfodol. Wrth lansio’r...
![EKO ‘Thomas’ All Waste Recycled](/sites/maingel2/files/styles/post_teaser/public/images/EKO%2520%27Thomas%27%2520All%2520Waste%2520Recycled%2520-%2520Image%5B1%5D.jpg.webp?itok=K9N9Q_L4)
Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ar brosiect traws-sector uchelgeisiol, mewn partneriaeth â Fforwm Modurol Cymru, i amlygu a mapio'r cwmnïau hynny yng Nghymru sy’n gweithredu, neu a allai weithredu, yn y farchnad Symudedd Allyriadau Sero Net newydd. Efallai bod eich cwmni eisoes yn cyflenwi'r farchnad symudedd sero net, boed hynny’n Foduron, Trenau, Morol, Awyrofod ac ati, neu’n meddu ar y gallu, yr hyblygrwydd, a’r weledigaeth i newid eu proses a chymryd rhan mewn cadwyni cyflenwi...
Cydweithio er mwyn sicrhau swyddi gwell, gwell gwasanaethau iechyd a gofal, amgylchedd mwy gwyrdd ac economi fwy ffyniannus, dyna'r genhadaeth sydd wrth wraidd y strategaeth arloesi newydd i Gymru, sy'n cael ei lansio heddiw gan Lywodraeth Cymru: Strategaeth arloesi newydd yn nodi dyhead i Gymru fod yn genedl flaengar ac arloesol. Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar sicrhau bod technolegau newydd arloesol yn cael eu datblygu er mwyn helpu i ddatrys yr heriau mwyaf sy'n wynebu...
Pagination
- Previous page
- Page 104
- Next page