BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

1051 canlyniadau

Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ar brosiect traws-sector uchelgeisiol, mewn partneriaeth â Fforwm Modurol Cymru, i amlygu a mapio'r cwmnïau hynny yng Nghymru sy’n gweithredu, neu a allai weithredu, yn y farchnad Symudedd Allyriadau Sero Net newydd. Efallai bod eich cwmni eisoes yn cyflenwi'r farchnad symudedd sero net, boed hynny’n Foduron, Trenau, Morol, Awyrofod ac ati, neu’n meddu ar y gallu, yr hyblygrwydd, a’r weledigaeth i newid eu proses a chymryd rhan mewn cadwyni cyflenwi...
Cydweithio er mwyn sicrhau swyddi gwell, gwell gwasanaethau iechyd a gofal, amgylchedd mwy gwyrdd ac economi fwy ffyniannus, dyna'r genhadaeth sydd wrth wraidd y strategaeth arloesi newydd i Gymru, sy'n cael ei lansio heddiw gan Lywodraeth Cymru: Strategaeth arloesi newydd yn nodi dyhead i Gymru fod yn genedl flaengar ac arloesol. Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar sicrhau bod technolegau newydd arloesol yn cael eu datblygu er mwyn helpu i ddatrys yr heriau mwyaf sy'n wynebu...
Mae Innovate UK yn cynnig cyfran o hyd at £20 miliwn mewn grantiau i fusnesau bach a micro sydd wedi'u cofrestru yn y DU. Yn ogystal â'r cymorth grant, cewch gynnig cymorth busnes teilwredig a gyflwynir gan Innovate UK EDGE. Nod y gystadleuaeth hon yw darparu pecyn o gefnogaeth dargedig i alluogi busnesau micro a bach uchelgeisiol sydd wedi’u cofrestru yn y DU mewn technolegau trawsnewidiol i gyrraedd eu potensial. Rhaid i'ch arloesedd arwain at...
Mae 4.5 miliwn tunnell o fwyd bwytadwy yn cael ei daflu bob blwyddyn gan aelwydydd yn y DU. Yn syfrdanol, mae 25% o'r bwyd hwn sy'n cael ei wastraffu yn digwydd oherwydd coginio, paratoi neu weini gormod - mae hyn yn costio £3.5 biliwn i aelwydydd y DU bob blwyddyn. Dyna pam y mae Hoffi Bwyd, Casáu Gwastraff yn neilltuo wythnos gyfan o weithredu i amlygu sut y gall ymddygiadau syml i leihau gwastraff bwyd...
Bryn Glamping
Heb gymorth fy nghynghorwyr busnes, ni fyddai Bryn Glamping wedi llwyddo i’r fath raddau erbyn heddiw. Dymuniad Huw Rodgers oedd sefydlu ei fusnes glampio yng nghefn gwlad tawel Pen-y-bont ar Ogwr, ond yn fuan iawn fe sylweddolodd y bydddai’n elwa o gael cyngor i greu cynllun busnes er mwyn cychwyn y busnes hwnnw. Cysylltodd Huw â Business Wales i gael cefnogaeth, gan weithio gyda chynghorydd cychwyn busnes profiadol i ddatblygu cynllun busnes a rhagolygon llif...
Y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yw'r gwahaniaeth rhwng enillion cyfartalog (cymedr neu canolrif) dynion a menywod ar draws gweithlu. O 2017 ymlaen, os ydych chi'n gyflogwr sydd â 250 neu fwy o bobl ar eich 'dyddiad cipolwg' rhaid i chi gydymffurfio â rheoliadau ar adrodd bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae cyfrifiadau bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi’u seilio ar ddata cyflogres cyflogwyr a dynnwyd o ddyddiad penodol bob blwyddyn. Enw'r dyddiad penodol hwn...
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn cynnig amrywiaeth eang o gyhoeddiadau sy'n cynnwys cyngor ac arweiniad i gyflogwyr, gweithwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol. Fel pob cyhoeddiad gan HSE, mae'r taflenni canllaw iechyd a diogelwch ar gael i'w lawrlwytho ar wefan HSE. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol HSE Publications - free leaflets to download
Cychwyn adran 156 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 y DU yng Nghymru. Mae’r ymgynghoriad yn ymwneud â newidiadau i Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005. Mewn ymateb i dân Tŵr Grenfell, roedd ein Papur Gwyn ar Adeiladau mwy diogel yng Nghymru yn nodi cynigion ar gyfer diwygio deddfwriaeth yn gynhwysfawr er mwyn gwella diogelwch yr holl adeiladau preswyl aml-feddiannaeth yng Nghymru (y rheini sy’n cynnwys dwy set neu ragor o anheddau domestig), o’r cam dylunio...
By the Wye
Rwy’n hynod ddiolchgar fy mod yn derbyn cymorth ariannol gan Busnes Cymru. Mae hyn yn rhoi cymhelliant i mi ddatblygu fy musnes. Mae gan Yevgeniia Vradii yrfa lwyddiannus fel ffotograffydd proffesiynol yn Wcráin ers 2010. Newidiodd ei hamgylchiadau yn ddramatig pan ddechreuodd y rhyfel yn Wcráin, gan orfodi Yevgeniia i werthu ei chamera i dalu costau teithio gyda’i theulu i’r DU. Ar ôl ychydig o fisoedd o addasu i’w bywyd newydd a chael cymorth gan...
Cyhoeddodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig y bydd rhaglen Cyswllt Ffermio newydd gwerth £22.9 miliwn ar gael i ffermwyr Cymru dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn eu cefnogi wrth iddynt baratoi at symud i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd. Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cymorth i fusnesau, yn gwella cadernid, yn sicrhau cyfleoedd i fanteisio ar y datblygiadau arloesol diweddaraf yn ogystal â helpu i ddatblygu busnesau ffermio. Trwy gynnig cyngor a chymorth, mae...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.