Elusen sy’n cael ei harwain gan wirfoddolwyr yw Pride Cymru ac mae’n gweithio i ddiddymu gwahaniaethu, boed hynny ar sail cyfeiriadedd rhywiol, rhywedd, hil, crefydd, anabledd neu amhariad. Mae’n cydnabod ac yn dathlu’r cyfraniadau a wneir gan bobl LHDTC+ yn y gymdeithas ac yn parhau i weithio i greu cyfleoedd i bobl LHDTC+ ledled Cymru gysylltu a chefnogi ei gilydd. Mae Gorymdaith Pride Cymru yn dychwelyd i strydoedd Caerdydd ar 22 a 23 Mehefin 2024...