Ymunwch â Phrifysgol Caerdydd ar gyfer sesiwn ryngweithiol a llawn gwybodaeth, yn edrych ar y cyfleoedd ariannu yng Nghymru. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun cyflawni o’r enw Cymru’n Arloesi: Creu Cymru Gryfach, Decach, a Gwyrddach . Mae’n cynnwys nodau economaidd, er enghraifft ‘cynyddu nifer, effaith, amrywiaeth ac uchelgeisiau’r busnesau sy’n arloesi’n weithredol yng Nghymru’ a ‘Chynyddu swm y buddsoddiad mewn gweithgarwch ymchwil, datblygu ac arloesi ym mhob sector, gan sicrhau cyfran ranbarthol deg...