BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

1471 canlyniadau

Wrth i ni ddechrau cyfri y 100 diwrnod (o 13 Awst 2022) i lawr tan gêm gyntaf Cwpan y Byd Cymru mewn 64 o flynyddoedd, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi lansio cronfa gwerth £1.5 miliwn i hyrwyddo a dathlu Cymru. Bydd y gronfa yn cefnogi amrywiol sefydliadau o ddiwylliant, y celfyddydau, chwaraeon a'r cyfryngau ar gyfer gweithgareddau i ddathlu Cymru yng Nghwpan y Byd. Gallai hyn gynnwys gweithgaredd i hyrwyddo Cymru yn fyd-eang...
Wrth baratoi am y tymor ysgol newydd, bydd nifer o deuluoedd yn poeni am y cynnydd yng nghostau byw. Mae cymorth ar gael i ddysgwyr a'u teuluoedd yng Nghymru sydd o bosibl yn cael trafferth fforddio costau ysgol, fel gwisg ysgol a chludiant, yn ogystal â rhai cynlluniau am ddim i helpu'ch plentyn i ddysgu. Dyma wyth cynllun neu gymhorthdal addysg y gallech fod yn gymwys i'w cael. Cymorth gyda chostau diwrnod ysgol Lwfans Cynhaliaeth...
Mae cytundeb masnach rydd y Deyrnas Unedig gydag Awstralia yn dileu tariffau ar yr holl allforion o’r Deyrnas Unedig a disgwylir iddo gynyddu masnach ddwyochrog 53%, gan roi hwb o £2.3bn i economi’r Deyrnas Unedig (ffynhonnell: yr Adran Masnach Ryngwladol). Fodd bynnag, oherwydd bod pellter o ychydig yn llai na 9,500 o filltiroedd rhwng y ddwy farchnad, bydd allforio nwyddau Prydeinig i Awstralia yn ymgymeriad heriol o hyd. Mae’r Sefydliad Allforio a Masnach Ryngwladol yn...
Mae Step to Non Exec yn rhaglen ddatblygu 12 mis sydd wedi'i chynllunio i'ch helpu chi i fagu'r hyder a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch er mwyn eich galluogi i gyflawni eich swydd bwrdd cyntaf. Drwy'r rhaglen hon, byddwch yn gallu cysgodi bwrdd sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau a chael mynediad at fentor o'r bwrdd a fydd yn gallu eich helpu i osod nodau cyraeddadwy clir yn eich taith i fod yn aelod swyddogol o'r bwrdd...
Mae rhifyn mis Awst y Bwletin Cyflogwyr yn rhoi holl ddiweddariadau ac arweiniad diweddaraf CThEM i gefnogi cyflogwyr, gweithwyr proffesiynol cyflogres ac asiantau. Mae diweddariadau pwysig ar y canlynol yn y rhifyn hwn: Cytundebau Setlo PAYE – cyflwyno fersiwn ddigidol newydd o'r ffurflen PSA1 a'ch atgoffa am derfynau amser talu a chyfrif cywiriad i'r erthygl ar bwysigrwydd defnyddio cyfeiriadau cywir gweithwyr TAW wedi’i ohirio oherwydd coronafeirws – gweithredwch nawr i osgoi cosb cofrestru nawr ar...
Wedi’i drefnu gan Wasanaethau Ymchwil ac Arloesi Prifysgol Abertawe, a chyda chefnogaeth SCoRE Cymru, bydd y sesiwn rwydweithio hon, a gynhelir ar 14 Medi 2022, yn cynnig cyfle i gynrychiolwyr diwydiant a’r byd academaidd yng Nghymru rwydweithio â phartneriaid rhyngwladol. Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar gyfleoedd ar gyfer cyllid gan ffynonellau yn y DU a’r UE – yn benodol Clwstwr 6 Horizon Ewrop (Bwyd, y Fioeconomi, Adnoddau Naturiol, Amaethyddiaeth, a’r Amgylchedd) a galwadau cysylltiedig...
Gall anadlu llwch, nwyon, anwedd a mygdarth yn y gweithle achosi clefyd yr ysgyfaint all newid bywydau, neu wneud cyflyrau presennol yn waeth. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi llunio canllawiau ar ddiogelu gweithwyr sy’n gweithio ym meysydd: adeiladu weldio gwaith cerrig gweithgynhyrchu sment a choncrit gwaith coed pobi a melino chwareli I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan HSE. Mae rhai diwydiannau yn fwy peryglus na’i gilydd. Gwnewch yn siŵr eich...
Mae'r gweithlu yn y DU yn newid yn gyflym ac mae angen i chi weithredu nawr i ddatgloi cyfleoedd timau aml-genhedlaeth. Erbyn 2030 bydd hanner holl oedolion y DU dros 50. Mae deall heriau a chyfleoedd poblogaeth sy'n heneiddio yn hanfodol os rydym eisiau creu timau aml-genhedlaeth cynhyrchiol, arloesol a chynhwysol wrth i ni i gyd fyw bywydau gwaith hirach. Mae Age Cymru eisiau annog a chefnogi busnesau i adeiladu gweithleoedd oedran-gyfeillgar lle gall gweithwyr...
Roedd Cronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru, a oedd yn werth £108 miliwn, yn hanfodol i allu llawer o sefydliadau diwylliannol yng Nghymru i oroesi yn ystod pandemig COVID-19, a helpodd i ddiogelu 2,700 o swyddi cyfwerth â llawnamser, yn ôl adroddiad newydd. Yn ystod pandemig COVID-19 yn 2020 i 2021 lansiodd Llywodraeth Cymru y Gronfa Adferiad Diwylliannol, cronfa a oedd yn rhoi cymorth ariannol i'r sectorau diwylliannol, creadigol a digwyddiadau ledled Cymru. Dywedodd 94% o'r...
Gyda'r tymheredd yn codi i'r entrychion mewn rhannau o Gymru'r wythnos hon, gwnewch yn siŵr bod y cyngor a'r arweiniad cywir gennych i weithio'n ddiogel. Mae'n bwysig cofio'r risgiau o orboethi wrth weithio mewn amodau poeth. Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ddigon o arweiniad ar dymheredd yn y gweithle, gan gynnwys: A yw'n rhy boeth i weithio? Beth mae'r gyfraith yn ei ddweud Canllawiau gweithio yn yr awyr agored Straen gwres Dysgwch...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.