BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

1481 canlyniadau

Mae gan Gymru lawer iawn i'w ddathlu o ran STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg). Mae Gwobrau STEM Cymru'n rhoi sylw i sêr STEM Cymru - y rheiny sy'n arwain y sector yng Nghymru, y busnesau hynny sy'n creu effaith ar economi Cymru, y rheiny sy'n mynd i'r afael â bwlch amrywiaeth a phrinder sgiliau STEM, y rheiny sy'n ysbrydoli ac yn codi dyheadau y genhedlaeth nesaf. Bydd Gwobrau STEM Cymru 2022 yn cydnabod y...
Mae rhaglen cyflymu heb ecwiti The Foundry, FinTech Wales, yn darparu mentoriaeth a chefnogaeth o'r radd flaenaf i helpu sefydliadau sy'n magu, cyflymu a datblygu busnesau newydd yn ecosystem Cymru a thu hwnt! Ydych chi'n datblygu busnes FinTech cyfnod cynnar sy'n barod i fynd i'r farchnad a dechrau chwilio am fuddsoddiad? Yna mae'r rhaglen hon yn addas i chi. Bydd Tymor 3 FinTech Wales Foundry yn canolbwyntio ar ddilysu busnes cyfnod cynnar, gan ddarparu mewnwelediad...
Trosolwg o arloesi, llwyddiannau a’r camau nesaf, i’w chynnal gan Her Pecynnau Plastig Cynaliadwyedd Clyfar (SSPP), Innovate UK. Cynhelir y digwyddiad am ddim hwn yng ngwesty’r Radisson Blue, Caerdydd ar ddydd Mawrth 6 Medi 2022. Ymunwch â Her Deunyddiau Pacio Plastig Cynaliadwy Clyfar (SSPP) UK Research & Innovation (UKRI), sy’n werth £60 miliwn, KTN, Innovate Edge a WRAP Cymru er mwyn dysgu am y datblygiadau arloesol cyffrous diweddaraf mewn plastigion cynaliadwy, cael manylion ymlaen llaw...
Mae’r Deloitte Technology Fast 50 yn un o raglenni gwobrau technoleg mwyaf blaenllaw'r DU, sy'n dathlu arloesedd ac entrepreneuriaeth. A hithau yn ei 25ain flwyddyn lwyddiannus erbyn hyn, mae'n gyfle i'ch cwmni gael y gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu. Ond beth fyddai ennill yn ei olygu i'ch cwmni? Mae llawer o fanteision posibl yn sgil cael eich cydnabod fel enillydd Technology Fast 50, gan gynnwys: Meincnod llwyddiant Cydnabyddiaeth well i’ch brand ac ymhlith cwsmeriaid Mwy...
Ydych chi'n gwybod sut i reoli camddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn y gwaith? Mae gan gyflogwyr ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu iechyd, diogelwch a lles gweithwyr. Bydd deall arwyddion camddefnyddio cyffuriau ac alcohol (neu gamdriniaeth) yn eich helpu i reoli risg iechyd a diogelwch yn eich gweithle. Mae gan wefan HSE ganllawiau cam wrth gam i'ch helpu i reoli'r camddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn y gwaith. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar sut i datblygu polisi...
Mae gwasanaethau brys ac elusennau yn annog busnesau ledled Cymru sy'n berchen ar ddiffibrilwyr i gofrestru eu dyfeisiau ar fas data cenedlaethol arloesol o'r enw The Circuit. Nod The Circuit yw mapio pob diffibriliwr mynediad cyhoeddus, felly pan fydd rhywun yn cael ataliad y galon, gall trinwyr galwadau 999 gyfeirio pobl gerllaw at y diffibriliwr cofrestredig agosaf wrth aros i'r ambiwlans gyrraedd. Mae tua 2,800 achos o ataliadau’r galon y tu allan i'r ysbyty (OHCA)...
Mae'n rhaid i fusnesau sy'n cyflwyno datganiadau mewnforio ddefnyddio'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau o 1 Hydref 2022, pan fydd y system Tollau ar gyfer Trin Nwyddau a Gaiff eu Mewnforio a’u Hallforio (CHIEF) yn cau ar gyfer datganiadau mewnforio. Dylai busnesau wirio bod eu hasiantau tollau yn barod i ddefnyddio'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau. Rhaid i'r rheiny sydd heb asiant tollau drefnu gwneud eu datganiadau eu hunain gan ddefnyddio meddalwedd sy'n gweithio gyda'r system. Gall gymryd sawl...
Mae The Great British Businesswoman Awards yn dwyn ynghyd gymuned gyfan y Great British Businesswoman Series i ddathlu’r menywod sy'n newid wyneb busnes ledled y Deyrnas Unedig. Mae'r gwobrau'n arddangos y modelau rôl, eiriolwyr a mentoriaid busnes, yn ogystal â'r menywod ysbrydoledig sy'n arwain busnesau a'r rheiny sy'n esgyn i uchelfannau newydd! Mae The Great British Businesswoman Awards yn fwy na seremoni wobrwyo yn unig. Mae’n rhaglen ymgysylltu trwy gydol y flwyddyn, sy’n cyflwyno pwyntiau...
Heddiw (3 Awst 2022), bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn rhoi rhagflas o’r camau gweithredu sy’n rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiogelu cymunedau lle mae'r Gymraeg yn brif iaith a lle mae nifer uwch o ail gartrefi. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys nifer o ymyraethau megis anogaeth i berchnogion tai i roi cyfle teg i bobl leol wrth werthu eu heiddo. Bydd y Gweinidog hefyd yn cyhoeddi Comisiwn Cymunedau Cymraeg, fydd yn dod...
Sefydlodd ymchwil gan CIPD a gynhaliwyd yn 2021 fod 6 o bob 10 o fenywod sy'n gweithio ac sy’n profi'r menopos yn dweud ei fod yn cael effaith negyddol arnyn nhw yn y gwaith ar hyn o bryd. Mae un o bob deg menyw yn y DU yn gadael eu swyddi'n llwyr oherwydd symptomau'r menopos, nid yw un o bob pump menyw yn ceisio'r dyrchafiadau y maen nhw'n eu haeddu - gallai hyn fod yn...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.