BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

1961 canlyniadau

I’r rhan fwyaf o bobl, gyrru cerbyd neu fynd ar feic modur neu feic yw’r gweithgarwch gwaith peryclaf maen nhw’n ei wneud. Mae oddeutu traean yr holl wrthdrawiadau traffig ffyrdd ym Mhrydain yn ymwneud â rhywun yn gyrru neu’n reidio fel rhan o’u swydd ac mae llawer iawn o ddamweiniau eraill yn digwydd i bobl yn teithio i’r gweithle neu oddi yno. Er na ellir rheoli’r risgiau yn llwyr, mae’n rhaid i gyflogwyr neu gwmnïau...
Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi cadarnhau y bydd cwsmeriaid sy’n derbyn taliadau budd-dal CThEM i gyfrif cerdyn Swyddfa’r Post yn cael rhagor o amser i newid eu cyfrif. Mae CThEM yn cydnabod y cymorth ariannol hanfodol y gall credydau treth, Budd-dal Plant a Lwfans Gwarcheidwaid ei ddarparu i unigolion a theuluoedd, ac mae am roi pob cyfle posibl iddynt dderbyn y budd-daliadau y mae ganddynt hawl i’w derbyn. Mae’r adran wedi trefnu estyniad...
Mae CThEM yn cynghori busnesau ynghylch newidiadau i’r ffordd y byddwch yn gwneud datganiadau tollau o 1 Ionawr 2022 a sut y byddant yn effeithio arnoch chi wrth brynu neu werthu nwyddau rhwng Prydain Fawr a’r UE o’r Flwyddyn Newydd. O 1 Ionawr 2022, ni fyddwch mwyach yn gallu oedi cyn gwneud datganiadau tollau o dan y Rheolau Tollau Fesul Cam sydd wedi bod yn gymwys yn ystod 2021. Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o...
Mae Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Cysylltiedig De Orllewin Cymru wedi ail-lansio cronfa grant cymunedol i gefnogi cymunedau ar hyd y rheilffordd i wneud i newid ddigwydd yn eu lleoedd lleol, gall pob sefydliad wneud cais am rhwng £300 a £1,000. Bydd cronfa Newidwyr Cymunedol yn cefnogi grwpiau a sefydliadau sydd eisiau sbarduno newid lleol cadarnhaol yn uniongyrchol, gydag isafswm o fiwrocratiaeth er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â gwneud i newid ddigwydd! Gallai Syniadau Dadansoddi...
Mae Gwobrau Technoleg Cymru yn arddangos eich cwmni, ei gyflawniadau a'i bobl i'r sector busnes ehangach yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a thramor drwy godi proffil eich cais yn y cyfryngau a’r cyfryngau cymdeithasol. Rydyn ni nawr yn derbyn enwebiadau ar gyfer y gwobrau ac mae croeso i bob sefydliad yng Nghymru sy’n gweithredu yn y sector technoleg gymryd rhan. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 21 Ionawr 2022. Cynhelir y seremoni wobrwyo...
Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn annog busnesau a siopwyr i ystyried rhai cynghorion da cyn dechrau pori ar-lein er mwyn bod yn siŵr nad oes rhaid talu tollau annisgwyl a gwario mwy nag a fwriadwyd yn ystod y tymor gwyliau hwn. Fel oedd rhaid i ddefnyddwyr dalu ffioedd o'r blaen wrth brynu eitemau penodol gan werthwyr y tu allan i’r UE, yn dilyn newidiadau a gyflwynwyd ar 1 Ionawr 2021, mae'n bosibl y...
Nod y gronfa yw annog busnesau cerddoriaeth i nodi meysydd i'w gwella o fewn eu sefydliadau a'u gweithrediadau, ond na fyddai'n bosibl heb gymorth y gronfa, oherwydd cyfyngiadau ariannol presennol a chyfredol. Diben y Gronfa Gyfalaf Cerddoriaeth yw i fusnesau cerddoriaeth bach a chanolig wneud cais am gyllid a fyddai'n mynd tuag at wella a chynyddu rhagolygon masnachol a chynaliadwyedd eu busnesau; ac o ganlyniad, gyfrannu at ddatblygiad a thwf y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru...
Cyflwyno’ch neges neu’ch cynnig mewn ffordd glir a chryno, a hynny mewn cyfnod byr iawn, yn un o’r pethau anoddaf i’w wneud wrth werthu. Fel rhan o unrhyw drafodaethau neu ymgyrch werthu, mae’n gallu cymryd blynyddoedd i feistroli cyfleu’r neges mewn ffordd fachog. Hyd yn oed pan fyddwch chi’n meddwl eich bod yn giamstar ar gyfathrebu, hwyrach y bydd yna adegau pan fydd cwsmeriaid yn edrych arnoch yn ddi-glem pan fyddwch chi’n cyflwyno’r cynnig yn...
Ydych chi neu rywun rydych chi’n ei ‘nabod yn rhedeg busnes bach ysbrydoledig sy’n addas ar gyfer #TheSmallAwards. Os felly, ewch amdani i gystadlu yn 2022! Bydd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth o ymgysylltu cadarn â’r gymuned gan fusnesau bach tra hefyd yn chwilio am berfformiad effeithiol fel busnes parhaus. Dyma’r categorïau: Arwr Stryd Fawr – y busnes stryd fawr gorau Gwobr ‘Bricks and Clicks’ – busnes bach amlsianel gorau Gwobr Etifeddiaeth – y...
Mae CThEM yn gwybod bod rhai cyflogwyr yn talu eu gweithwyr yn gynt na’r arfer dros y Nadolig, er enghraifft os yw’r busnes ar gau dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Os ydych chi’n talu yn gynnar, cofnodwch eich dyddiad talu arferol ar eich Cyflwyniad Taliad Llawn (FPS). Er enghraifft, os ydych chi’n talu ar 17 Rhagfyr 2021, ond mai’ch dyddiad talu arferol yw 31 Rhagfyr 2021, cofnodwch y dyddiad talu fel ‘31 Rhagfyr 2021’...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.