BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

1971 canlyniadau

Bydd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar ddigartrefedd yn cael ei egluro yn y Senedd yn ddiweddarach heddiw wrth i’r Gweinidog Newid yn yr Hinsawdd, Julie James, lansio’r Cynllun Gweithredu Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd. Bydd y Gweinidog, sy’n dweud pan fydd digartrefedd yn digwydd y dylai fod yn ‘brin, yn fyr ac heb ei ailadrodd’, hefyd yn cyhoeddi cronfa gyllido newydd gwerth £30 miliwn dros bum mlynedd i awdurdodau lleol. O dan Gynllun Prydlesu’r...
Mae datblygu gwerth diwydiant bwyd a diod Cymru i £8.5bn a chynyddu nifer y gweithwyr yn y sector sy'n derbyn Cyflog Byw Cymru i 80%, erbyn 2025, wrth wraidd gweledigaeth newydd gan Lywodraeth Cymru. Bydd Y Weledigaeth ar gyfer y diwydiant Bwyd a Diod o 2021 yn adeiladu ar lwyddiant y sector yng Nghymru gyda'r nod allweddol o helpu i sicrhau diwydiant bwyd a diod ffyniannus sydd ag enw da yn fyd-eang am ragoriaeth. Mae...
Bydd CThEM yn egluro canllawiau cyfredol ac yn ateb cwestiynau cyffredinol am y cynnwys ond allan nhw ddim ateb cwestiynau penodol ynghylch yr eitemau rydych chi’n eu mewnforio neu yn eu hallforio yn ystod y gweminarau. Mae’r gweminarau yn cael eu cynnal sawl gwaith felly dewiswch ddyddiad ac amser sy’n gyfleus i chi: Mewnforio – y camau sydd angen i chi eu cymryd cyn gwneud eich datganiad atodol – cael cyngor ar sut i wneud...
Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau brys pellach i ychwanegu 10 gwlad arall yn neheudir Affrica at y rhestr goch ar gyfer teithio wedi i’r amrywiolyn newydd o’r coronafeirws gael ei nodi. Mae’n bosibl y gall yr amrywiolyn hwn osgoi’r amddiffyniad a ddarperir gan frechlynnau. Mae’r amrywiolyn Omnicron (a elwir hefyd yn B.1.1.529) wedi’i gysylltu â Botswana, De Affrica, Eswatini, Lesotho, Namibia, Zimbabwe ac Angola, Malawi, Mozambique a Zambia. Mae’r gwledydd hyn wedi’u hychwanegu at...
Mae'r camau tuag at greu Oriau Tawel wrth siopa yn digwydd ledled y DU, er mwyn helpu cwsmeriaid sydd ag anghenion synhwyraidd fel Awtistiaeth a chwsmeriaid eraill fel pobl oedrannus a phobl ag anableddau cudd. Ydych chi wedi ystyried ffurfioli Oriau Tawel? Os ydych chi'n fusnes sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid, beth am gael oriau tawel ar ddiwrnod penodol er mwyn i chi fod yn fusnes mwy cynhwysol? Dyma amseroedd sy’n cael eu neilltuo...
Rheolau tarddiad yw un o’r gofynion masnachu pwysicaf sydd angen i chi eu deall a’u cyflawni os yw’ch busnes yn prynu neu werthu nwyddau yn rhyngwladol. Defnyddir y rheolau hyn mewn cytundebau masnach rhwng gwahanol wledydd, fel cytundeb y DU gyda’r UE - sef y Cytundeb Masnach a Chydweithredu (TCA). Defnyddir y rheolau i bennu gwlad tarddiad nwyddau sy’n cael eu mewnforio a’u hallforio ac a ydynt yn gymwys i gael tariffau ffafriol. Gyda thariffau...
Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach (SBS) eleni, diwrnod lle caiff siopwyr eu hannog i wario gyda chwmnïau lleol, ar 4 Rhagfyr 2021. Anogir pob mathau o fusnesau bach i gymryd rhan, felly p’un ai ydych chi’n fusnes teuluol, yn siop leol, yn fusnes ar-lein, yn gyfanwerthwr, yn wasanaeth busnes neu’n gwmni gweithgynhyrchu bach, cofiwch fod Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn eich cefnogi! I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Dydd Sadwrn y...
Mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar sydd yma i dy gynghori di ar sut i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn dy fusnes. Ac mae’r cwbl am ddim! Gyda'n gilydd gallwn weithio ar ddefnyddio mwy o Gymraeg yn dy fusnes. Gall hynny fod yn gyngor ymarferol ar sut i farchnata a hyrwyddo dy fusnes, neu help i wneud y Gymraeg yn fwy gweledol yn dy siop, caffi, gweithdy neu ar dy wefan...
Mae Rhaglen Datblygu ar Raddfa Fach Cymdeithas Marchnata'r Celfyddydau, yn lansio yng Nghymru am y tro cyntaf ym mis Tachwedd eleni, mewn partneriaeth â Creu Cymru a diolch i gymorth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a nawdd gan Ticketsolve. Mae Rhaglen Datblygu ar Raddfa Fach yn helpu sefydliadau i nodi modelau busnes cadarn a ffyrdd newydd o ddatblygu eu cynulleidfaoedd ar gyfer llwyddiant cynaliadwy hirdymor. Mae wedi rhedeg yn llwyddiannus yn Lloegr ers sawl blwyddyn...
Mae gan Swyddfa’r Comisiynydd Busnesau Bach gylch gwaith sy’n cwmpasu taliadau hwyr a newid diwylliant taliadau hwyr yn y DU. Mae busnesau bach yn cwyno am daliadau hwyr ac yn dweud mai dyma un o’u prif bryderon, gan eu disgrifio fel y rheswm eu bod mewn dyled. Hoffai’r Swyddfa glywed gan fusnesau bach i gael darlun clir, os oes modd, o sut mae twf cwmnïau bach a’u cynhyrchiant yn cael eu rhwystro gan arferion talu...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.