Digwyddiad a drefnir gan CGGC yw gofod3, mewn cydweithrediad â’r sector gwirfoddol yng Nghymru, ac mae'n cael ei gynnal ar 5 Mehefin 2024. Waeth a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod staff, yn wirfoddolwr neu’n bob un o’r rhain, mae gofod3 wedi’i ddylunio’n benodol i bobl sy’n gysylltiedig â mudiadau gwirfoddol yng Nghymru. Fel yn y blynyddoedd cynt, bydd y digwyddiad hwn am ddim i fynychu, ond rhaid cadw lle ymlaen llaw. I gael rhagor o...