Archives
2671 canlyniadau
Mae’r alwad am dystiolaeth, sy’n gymwys i Gymru, yr Alban a Lloegr, yn ceisio barn ar heriau i ddatblygu mewn sectorau cyflog isel, manteision datblygu i gyflogwyr ac ardaloedd, ac enghreifftiau o arferion da ledled y wlad. Mae’r alwad am dystiolaeth yn gwahodd barn ar y canlynol: Rhwystrau penodol i gynnydd ym meysydd manwerthu, lletygarwch, adeiladu, gwasanaethau cymorth busnes a gwaith gofal Effaith llwybrau datblygu a mentrau eraill ar fusnesau Manteision nodi a meithrin doniau...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod £15.7 miliwn arall yn cael ei roi er mwyn cynyddu maint y gweithlu olrhain cysylltiadau yng Nghymru ar gyfer y gaeaf. I ddarllen y datganiad llawn ewch i wefan Llyw.Cymru. Cynllun ychwanegiad at dâl salwch statudol ar gyfer COVID-19 Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru canllawiau cymorth i weithwyr gofal a fydd yn gorfod aros adref o'r gwaith oherwydd achos gwirioneddol o COVID-19 neu achos a amheuir fod COVID-19 arnynt...
Mae canllawiau newydd ar y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) bellach ar gael. Gallwch wneud cais am CJRS ar-lein nawr ar gyfer cyfnodau o 1 Tachwedd 2020 a bydd angen i chi gyflwyno unrhyw geisiadau ar gyfer mis Tachwedd erbyn 14 Rhagfyr 2020. Does dim angen i chi a'ch gweithwyr fod wedi elwa ar y cynllun o'r blaen i wneud cais am gyfnodau o 1 Tachwedd 2020. Bellach, mae terfynau amser misol...
Mae fframwaith sancsiynau’r DU yn newid, mae cyfundrefnau sancsiynau presennol yr UE yn cael eu trosglwyddo i gyfraith y DU drwy reoliadau a wnaed o dan Ddeddf Sancsiynau a Gwrth-wyngalchu Arian 2018. Ni fydd sancsiynau’r UE yn gymwys mwyach yn y DU o 11pm ar 31 Rhagfyr 2020. Mae Llywodraeth y DU yn cynnal cyfres o weminarau i’ch helpu i ddeall sut y gallai’r ddeddfwriaeth a’r prosesau newydd effeithio ar eich gwaith, a’r hyn y...
Mae Gwobrau Rushlight 2020-21 bellach ar agor i geisiadau ac maen nhw wedi’u llunio’n benodol i gefnogi a hyrwyddo’r holl dechnolegau glân diweddaraf, syniadau arloesol, mentrau a phrosiectau defnydd ar gyfer busnesau a sefydliadau ledled y DU, Iwerddon ac yn rhyngwladol. Mae Gwobrau Rushlight ar agor i bob math o sefydliadau ar unrhyw gyfnod o’u datblygiad corfforaethol, gan gynnwys dyfeiswyr unigol, cyw-gwmnïau, elusennau, prifysgolion, BBaChau, cwmnïau wedi’u dyfynnu a mentrau amlwladol. Mae’r categorïau yn cynnwys...
Mae cyfres o restri gwirio wedi’u llunio gan Lywodraeth y DU i helpu busnesau i baratoi ar gyfer 1 Ionawr 2021. Mae’r rhestri gwirio yn berthnasol i’r sectorau canlynol: sector nwyddau traul – am ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK sector cerbydau modur - am ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK sector awyrofod – am ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK sector gwyddoniaeth, ymchwil ac arloesi – am ragor o wybodaeth ewch...
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cynnal hapwiriadau ac archwiliadau ar bob math o fusnesau ym mhob maes i sicrhau eu bod yn COVID-ddiogel. Trwy ffonio ac ymweld â safleoedd a siarad gyda chyflogwyr, gall yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wirio bod y mesurau sydd wedi’u rhoi ar waith yn cydymffurfio â chanllawiau’r llywodraeth. Ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am ragor o wybodaeth am: sut mae hapwiriadau ac archwiliadau’n...
Mae Tŷ’r Cwmnïau’n cysylltu â phob cwmni sy’n derbyn eu negeseuon atgoffa papur ar hyn o bryd. Mae’r llythyr yn egluro eu bod wedi rhoi’r gorau i’r gwasanaeth papur ac yn annog pob cwmni i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth atgoffa drwy e-bost. Mae’r gwasanaeth am ddim, a gallwch: ddewis hyd at bedwar o bobl i dderbyn neges atgoffa (gan gynnwys asiant) ffeilio’ch dogfen yn uniongyrchol o ddolen yn yr e-bost. Am ragor o wybodaeth...
Pagination
- Previous page
- Page 267
- Next page