Archives
2681 canlyniadau
Mae busnesau yng Nghymru yn gymwys i gael cymelldaliadau sydd ar gyfer cyflogi prentisiaid newydd. Mae prentisiaethau yn parhau i chwarae rôl hanfodol o ran darparu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr a’r economi, gan gynnig cyfle i recriwtio mewn ffordd gosteffeithiol ac adeiladu gweithlu medrus. Gall unrhyw gyflogwr yng Nghymru, ni waeth beth fo maint ei fusnes na’r sector y mae’n gweithio ynddo, elwa ar y cymelldaliadau i recriwtio prentisiaid: cymelldaliad sydd werth hyd...
Diben y benthyciadau yw cefnogi busnesau yn y DU sy’n colli refeniw, y mae’r argyfwng COVID-19 wedi tarfu ar eu llif arian. Mae’r cynlluniau a restrir isod wedi’u hymestyn hyd 31 Ionawr 2021: Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws (CBILS) Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnesau Mawr yn sgil y Coronafeirws (CLBILS) Y Cynllun Benthyciad Adfer (BBLSS) – a Chronfa’r Dyfodol Bydd busnesau cymwys yn gallu ychwanegu at eu Benthyciadau Adfer presennol os...
Mae’r DU wedi gadael yr UE, a bydd y cyfnod pontio yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2020. I fusnesau a sefydliadau yn y sector adeiladu, bydd rheolau newydd o 1 Ionawr 2021. Isod, mae gwybodaeth am yr hyn sydd angen i chi ei wneud i baratoi, gan gynnwys: Mewnforio ac allforio Gwerthu eich nwyddau Masnachu gyda'r UE Y Gweithlu Data Darparu gwasanaethau Protocol Gogledd Iwerdddon Eiddo Deallusol Mynediad at gyllid ymchwil a datblygu...
Mae gan Innovate UK, fel rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU, hyd at £10 miliwn o’r gronfa i’w fuddsoddi mewn astudiaethau dichonoldeb ac mewn ymchwil a datblygu i dechnolegau batri addawol ac arloesol. Gall prosiectau ganolbwyntio ar welliannau amrywiol i dechnolegau batri ar gyfer gyrru cerbydau trydan. Gallent edrych ar gymwysiadau modurol neu sectorau eraill fel rheilffyrdd, morol, awyrofod, amddiffyn neu gerbydau oddi ar y ffordd lle gellid arloesi i fodloni gofynion perfformio...
Beth sydd angen i weithredwyr cerbydau nwyddau yn y DU ei wneud i gludo nwyddau’n rhyngwladol o 1 Ionawr 2021: Mae Canllawiau wedi’u diweddaru ar gael gyda gwybodaeth am baratoi i wneud cais am drwyddedau ECMT ar gyfer 2021 rhwng 2 Tachwedd a 20 Tachwedd 2020. Mewnforio ac allforio planhigion a chynhyrchion planhigion o 1 Ionawr 2021: Mae gwybodaeth am wneud hysbysiadau ymlaen llaw ar gyfer pob llwyth a reoleiddir i’r DU ar gael yma...
I gymryd lle taith bws flynyddol Dydd Sadwrn Busnesau Bach, bydd Dydd Sadwrn Busnesau Bach y DU yn lansio sioe deithiol ar-lein gyntaf y DU, gan ymweld yn rhithwir â threfi a dinasoedd yr effeithir arnyn nhw gan y pandemig, gan gynnig cefnogaeth a mentora am ddim i fusnesau bach! Gyda'r nod o gefnogi, annog a rhoi hwb i fusnesau bach sy'n wynebu her ail don o gyfyngiadau Covid-19, bydd y daith ar-lein yn rhan...
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i gyflogwyr sicrhau cyflenwad digonol o awyr iach yn y gweithle ac nid yw hyn wedi newid. Gall awyru da helpu i leihau’r risg o ledaenu coronafeirws yn y gweithle. Mae’n bwysig canolbwyntio ar wella awyru’n gyffredinol, drwy awyr iach neu systemau mecanyddol yn ddelfrydol. Lle’n bosibl, ystyriwch ffyrdd o gynnal a chynyddu’r cyflenwad o awyr iach, er enghraifft drwy agor ffenestri a drysau (nid drysau tân). Am ragor...
Trafnidiaeth awyr, môr, ffyrdd a rheilffyrdd o fis Ionawr 2021: Canllawiau newydd ar weithio yn yr UE a theithio i’r UE o 1 Ionawr 2021 ar gyfer gweithredwyr trafnidiaeth, gweithwyr, ymwelwyr a theithwyr. Trwyddedau cludo nwyddau rhyngwladol: Trwyddedau ECMT 2021: Canllawiau newydd yn egluro’r meini prawf ar ddyrannu trwyddedau ECMT a beth sydd angen i gludwyr ei wneud. Grwpiau allforio o gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid i’r UE o 1 Ionawr 2021: Canllawiau newydd ar...
Pagination
- Previous page
- Page 268
- Next page