BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

2691 canlyniadau

Bydd wythnos cyflog byw, sef dathliad blynyddol y mudiad Cyflog Byw yn y DU, yn cael ei chynnal rhwng 9 Tachwedd a 15 Tachwedd 2020. Mae'r mudiad yn cynnwys cyflogwyr, arbenigwyr, sefydliadau a phobl sy’n credu bod diwrnod caled o waith yn haeddu tâl teg. Beth ydy manteision busnes talu’r cyflog byw go iawn? 58% o fusnesau’n dweud ei fod wedi gwella'r cysylltiadau rhwng rheolwyr a’u staff 75% yn dweud ei fod wedi cynyddu cymhelliant...
Pan ddaw’r cyfnod atal byr i ben ar 9 Tachwedd 2020, cyflwynir cyfres newydd o fesurau cenedlaethol, a fydd yn disodli’r cyfyngiadau blaenorol. Sut mae caffis, bwytai, tafarndai a bariau yn gallu gweithredu’n ddiogel dan do? Bydd yn ofynnol i safle lletygarwch roi’r mesurau canlynol ar waith: dylai’r safle fod yn darparu gwasanaeth bwrdd yn unig dylid bwyta ac yfed yr holl fwyd a diod wrth fyrddau bydd mesurau cadw pellter corfforol yn cael eu...
Beth yw Mentrau Ymchwil Busnesau Bach (SBRI)? Mae Mentrau Ymchwil Busnesau Bach yn galluogi'r sector cyhoeddus i gysylltu â syniadau arloesol gan fusnesau, gan ddarparu atebion newydd i heriau penodol. Maent yn helpu cyrff cyhoeddus i ymgysylltu â sefydliadau o wahanol sectorau, busnesau bach a busnesau sydd yn datblygu. Gall atebion technegol newydd gael ei ddangos drwy ddatblygu technoleg cyflymedig, tra bod risg yn cael ei lleihau drwy ddatblygiad fesul cam a ffynhonnell dryloyw, gystadleuol...
Bydd gweithwyr ledled y Deyrnas Unedig yn derbyn rhagor o gymorth yn dilyn y cyhoeddiad i ymestyn y cynllun ffyrlo am bum mis hyd at Wanwyn 2021. Bydd y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) yn para tan ddiwedd mis Mawrth a bydd gweithwyr cyflogedig yn derbyn 80% o’u cyflog presennol am oriau nas gweithiwyd. Yn yr un modd, bydd cymorth ar gyfer miliynau o weithwyr eraill trwy’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig...
Mae busnesau sy’n masnachu pren rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon yn cael eu hannog i weithredu er mwyn sicrhau eu bod yn barod am ddiwedd y cyfnod pontio ar 31 Rhagfyr 2020. I gydymffurfio â’u rhwymedigaethau, bydd masnachwyr pren yn gorfod dweud wrth y Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynhyrchion (OPSS): gan bwy y gwnaethon nhw brynu’r pren i bwy y gwnaethon nhw ei werthu (waeth beth fo’r rhywogaeth, cynnyrch neu wlad tarddiad); drwy dystiolaeth megis...
Mae ein Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) wedi helpu mwy na 13,000 o fusnesau gyda mwy na £300 miliwn o gymorth. Mae hefyd wedi helpu i ddiogelu mwy na 100,000 o swyddi a allai fod wedi'u colli fel arall. Yr wythnos diwethaf agorwyd Cam 3 y Gronfa i geisiadau gyda'r cylch cymorth diweddaraf hwn yn rhyddhau £300 miliwn pellach i fusnesau yng Nghymru i'w helpu i ddelio â heriau economaidd y cyfnod atal byr presennol hwn...
Ymunwch â Chwarae Teg yn fyw i glywed gan Nia Godsmark, Partner yn Peter Lynna and Partners Solicitors a Caroline Mathias, Partner Cyflogwr yn Chwarae Teg yn sôn am sut y gallwch chi gefnogi arferion crefyddol yn eich gweithle a meithrin amgylchedd gwirioneddol gynhwysol. Cynhelir y weminar ar 18 Tachwedd 2020 rhwng 10am ac 11am, gallwch gadw’ch lle yma.
Multi-Heat Services Ltd
Gwelliannau amgylcheddol o bwys i arbenigwr systemau gwresogi, diolch i Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru. Mae Multi-Heat Services Cyf yn cynnig amrywiaeth o atebion gwresogi i’r sectorau gwresogi domestig a masnachol. Gyda nifer o’r gweithwyr yn mynychu gweminarau a gyflwynir gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, ymrwymodd y busnes i’r Addewid Twf Gwyrdd ac ers hynny mae wedi rhoi amrywiaeth o fesurau ar waith i leihau neu wella’i effaith amgylcheddol, yn ogystal â gostwng ei...
Mae’r DU wedi gadael yr UE, ac mae’r cyfnod pontio wedi Brexit yn dod i ben eleni. Defnyddiwch restr wirio 6 phwynt Llywodraeth y DU i ddeall beth sydd angen i chi ei wneud cyn 1 Ionawr 2021 os ydych chi’n gweithio yn y sector twristiaeth. Mae’r rhestr wirio yn cynnwys: Ymweld ag Ewrop Ymweld â’r DU Eich gweithwyr Eich data Eich sefydliad a’ch gwasanaethau Symud nwyddau Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV‌‌.UK.
Bydd set newydd a symlach o reolau cenedlaethol yn dod i rym unwaith y daw cyfnod atal byr Cymru i ben am 00:01 ddydd Llun 9 Tachwedd 2020. Eu nod yw diogelu iechyd pobl a darparu cymaint o ryddid â phosibl tra mae’r feirws yn dal i gylchredeg. Bydd y mesurau cenedlaethol newydd yn cynnwys y canlynol: Bydd yr angen i gadw pellter cymdeithasol o ddau fetr a gwisgo masg wyneb mewn mannau cyhoeddus caeedig...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.