BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

281 canlyniadau

man shopping in a supermarket
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig eisiau eich barn am y cynllun i gyflwyno’r gofyniad am labeli ‘nid ar gyfer yr UE’ ar gynhyrchion manwerthu ledled Prydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban), ac mae’n deddfu i gadarnhau bod gofynion labelu ar gynhyrchion bwyd-amaeth yn cael eu cymhwyso ar draws Prydain Fawr, er mwyn sicrhau nad oes cymhelliad i fusnesau osgoi cynnig nwyddau ar farchnad Gogledd Iwerddon. Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 15 Mawrth 2024. I...
female holding her hands in a heart shape
Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn ddiwrnod byd-eang sy’n dathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Mae’r diwrnod hefyd yn alwad i weithredu er mwyn cyflymu cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Gwelir gweithgarwch sylweddol ledled y byd wrth i grwpiau ddod ynghyd i ddathlu cyflawniadau menywod neu ymgyrchu dros degwch i fenywod. Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod, a ddethlir yn flynyddol ar 8 Mawrth, yn un o ddiwrnodau pwysicaf y flwyddyn i: ddathlu cyflawniadau menywod addysgu a...
Darllen.co logo
Mae annog plant i ddarllen a gwella eu sgiliau llythrennedd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a heddiw, ar Ddiwrnod y Llyfr, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, yn dathlu llwyfan darllen digidol newydd yn y Gymraeg. Drwy ddefnyddio Darllen Co, gall plant ddarllen llyfrau Cymraeg, a gwrando arnyn nhw ar yr un pryd. Mae gwefan newydd yn cael ei datblygu hefyd, a fydd yn galluogi darllenwyr i glicio ar eiriau penodol i gael...
Milford Haven Docks
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU a partneriaid ledled Cymru i sicrhau bod ein porthladdoedd rhydd a'n parthau buddsoddi yn cael eu cefnogi i wireddu potensial economaidd toreithiog Cymru. Rydym wedi cytuno â Llywodraeth y DU i estyn oes ein parthau buddsoddi yn y De-ddwyrain a'r Gogledd-ddwyrain o bump i ddeng mlynedd. Bydd pob un yn cael pecun ariannu o £160 miliwn o 2024...
Student wearing virtual reality headset
Mae Gwobrau Technoleg Ymgolli Innovate UK yn dychwelyd ar gyfer 2024! Nod y gwobrau unigryw hyn yw helpu i gysylltu myfyrwyr â’r diwydiant realiti estynedig (XR). Y syniad yw darganfod ble mae’r dalent XR orau yn y Deyrnas Unedig, a chreu llwybr o ddysgu academaidd i ddatrys problemau yn y byd go iawn trwy gyfleoedd interniaeth mewn cwmnïau blaenllaw sy’n arloesi â thechnoleg ymgolli. Dyma gategorïau eleni: Gêm Ymgolli Orau Adrodd Straeon XR Creadigol Synhwyraidd...
Person working in a food bank
Mae menter newydd i ddarparu nwyddau hanfodol i aelwydydd sydd mewn cyni wedi cael ei lansio yn Abertawe. Cafodd Cwtsh Mawr, 'banc pob dim' cyntaf Cymru, ei agor yn swyddogol heddiw gan y Prif Weinidog Mark Drakeford a Gordon Brown, cyn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig. Mae banciau pob dim yn seiliedig ar y model banciau bwyd, ond maent yn darparu ystod ehangach o nwyddau nad ydynt yn ddarfodus, gan alluogi busnesau i ailddosbarthu eitemau...
Houses of parliament London
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi ei Chyllideb Gwanwyn. Dyma rai pwyntiau allweddol: Rhewi’r doll ar danwydd am 12 mis arall – bydd y toriad 5c i’r doll ar betrol a diesel, a oedd i ddod i ben ym mis Ebrill, yn cael ei gadw am flwyddyn arall Toriad o 2c ar Yswiriant Gwladol Diddymu'r drefn treth llety gwyliau wedi'i ddodrefnu Cynyddu toll teithwyr awyr Trothwy cofrestru ar gyfer TAW i gynyddu o £85,000...
male employee leaning on a desk
Mae cyfradd fesul awr yr isafswm cyflog yn dibynnu ar eich oed ac a ydych chi’n brentis. Rhaid i chi fod o leiaf yn: oed gadael ysgol er mwyn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol 23 oed i gael y Cyflog Byw Cenedlaethol - bydd yr isafswm cyflog yn berthnasol o hyd i weithwyr 22 oed ac iau Dyma’r cyfraddau ar gyfer y Cyflog Byw Cenedlaethol (i’r rhai 23 oed a throsodd) a’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol...
Community group of people outdoors
Rhaglen datblygu arweinyddiaeth am ddim i arweinwyr cymdeithasol yng Nghymru. Mae Social Leaders Cymru 2024 ar agor. Mae rhaglen arweinyddiaeth Arweinwyr Cymdeithasol Cymru wedi’i llunio i gefnogi arweinwyr mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol ar bob cam o’u taith arweinyddiaeth. Gan adeiladu ar y prosiect peilot yng Nghymru yn ystod 2021/22 bydd y rhaglen newydd, a ariannwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a gyflwynir mewn partneriaeth â Clore Social Leadership a WCVA yn: datblygu arweinwyr...
Deputy Minister for Climate Change, Lee Waters
Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, wedi amlinellu'r camau nesaf ar gyfer diwygio'r bysiau yng Nghymru. Mae ‌Ein Map Ffordd i Ddiwygio'r Bysiau yn adeiladu ar gynigion y papur gwyn ar fysiau i ad-drefnu'r ffordd y mae'r system drafnidiaeth gyhoeddus yn gweithio yng Nghymru yn radical. “Rydyn ni'n symud o system wedi’i phreifateiddio sy'n rhoi elw cyn pobl tuag at system fydd yn cynllunio bysus a threnau gyda'i gilydd o amgylch anghenion teithwyr”, meddai...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.