Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi lansio cynllun Llysgenhadon Diwylliannol er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant a threftadaeth Cymru. Rôl y rhwydwaith o Lysgenhadon Diwylliannol yw cefnogi pobl sy’n ymgartrefu yn ein cymunedau ledled Cymru i ddysgu mwy am Gymru, yr iaith a’i phwysigrwydd i’r gymuned, rhoi cefnogaeth ac arweiniad i fusnesau ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg, a gweithio’n lleol i gynnal a chryfhau rhwydweithiau cymdeithasol. Gall unrhyw berson neu fusnes wirfoddoli i...