BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

3161 canlyniadau

Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno’r help canlynol i bobl hunangyflogedig: Gohirio taliadau Treth Incwm Hunanasesiad sy’n ddyledus ym mis Gorffennaf 2020 a thaliadau TAW o 20 Mawrth 2020 tan 3‌0‌‌ Mehefin 2020 Ewch i dudalennau cyngor i fusnesau ar y Coronafeirws Busnes Cymru i gael gwybodaeth i’ch busnes ar ddelio â’r Coronafeirws.
Mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi lansio Llinell Gymorth Covid-19 ar gyfer y sector busnesau cymdeithasol yng Nghymru. Mae Busnes Cymdeithasol Cymru a’u tîm o gynghorwyr arbenigol wrth law i helpu gydag ymholiadau am lif arian, adnoddau dynol, llwyfannau digidol, marchnata a chyfathrebu, ac amrywiaeth o feysydd eraill a allai fod angen ail-feddwl amdanynt yng nghyswllt y Coronafeirws. Maent yn gallu rhoi cyngor dros y ffôn neu drwy gynhadledd fideo. Gallwch gysylltu â nhw dros y...
Mae Cynllun Cymorth Incwm newydd wedi’i gyhoeddi ar gyfer y bobl hunangyflogedig sydd wedi’u heffeithio gan y COVID-19. Yn anffodus, rydym wedi gweld cynnydd mewn e-byst, galwadau a negeseuon testun sgâm. Os bydd rhywun yn cysylltu â chi’n honni eu bod o CThEM, yn dweud y gallwch hawlio cymorth ariannol, neu fod arnyn nhw ad-daliad treth i chi ac yn gofyn i chi glicio ar ddolen, neu i roi gwybodaeth fel eich enw, manylion cerdyn...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pecyn cymorth i’r bobl Hunangyflogedig sydd wedi’u heffeithio gan y Coronafeirws er mwyn roi’r un lefel o gymorth â gweithwyr eraill iddynt. Mae’r Cynllun Cymorth Incwm newydd i’r Hunangyflogedig yn golygu bydd y rheini sy’n gymwys yn derbyn grant arian parod sydd werth 80% o’u helw masnachu misol cyfartalog dros y tair blynedd diwethaf. Bydd y cynllun yn agored i’r rheini oedd ag elw masnachu llai na £50,000 yn...
Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio arweiniad sy’n egluro beth mae perchnogion a gweithredwyr parciau gwyliau angen ei wneud wrth ymateb i’r Coronafeirws. Daeth Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws: Cau Busnesau Hamdden, Llwybrau Troed a Thir Mynediad) (Cymru) i rym am hanner dydd 24 Mawrth 2020. Mae’r rheoliadau’n rhoi polisi Llywodraeth Cymru ar waith, sef y dylai parciau gwyliau a safleoedd carafannau gau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Llyw.Cymru. Ewch i dudalennau cyngor i...
Fel rhan o nifer o fesurau i gefnogi'r wlad yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19), bydd taliadau Credydau Treth Gwaith yn cynyddu £1,045 i £3,040 y flwyddyn o 6 Ebrill 2020 tan 5 Ebrill 2021. Bydd y swm y bydd hawlydd neu aelwyd yn elwa ohono yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, gan gynnwys lefel incwm yr aelwyd. Os ydych yn hawlio Credydau Treth Gwaith, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth na chysylltu â...
O 25 Mawrth 2020 ymlaen, bydd busnesau’n gallu gwneud cais am estyniad o 3 mis i ffeilio eu cyfrifon. Bydd y fenter ar y cyd rhwng Llywodraeth y DU a Thŷ’r Cwmnïau yn galluogi busnesau i flaenoriaethu rheoli effaith y Coronafeirws. Fel rhan o’r mesurau sydd wedi’u cytuno arnynt, er y bydd rhaid i gwmnïau wneud cais i gael yr estyniad o 3 mis o hyd, bydd y rheini sy’n profi problemau oherwydd COVID-19 yn...
Oherwydd yr achosion o’r Coronafeirws, mae Swyddfa Cydraddoldeb y Llywodraeth (GEO) a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi cymryd y penderfyniad i atal gorfodi'r terfynau amser o ran y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer y flwyddyn adrodd hon (2019/20). Mae'r penderfyniad yn golygu na fydd disgwyl i gyflogwyr adrodd ar eu data. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK. Ewch i dudalennau cyngor Coronafeirws i fusnesau Busnes Cymru am wybodaeth ar...
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU y bydd tenantiaid masnachol na allant dalu eu rhent oherwydd y coronafeirws yn cael eu diogelu rhag cael eu troi allan. Mae nifer o landlordiaid a thenantiaid eisoes yn cael sgyrsiau ac yn dod i drefniadau gwirfoddol ynglŷn â thaliadau rhent sy'n ddyledus yn fuan, ond mae'r llywodraeth yn cydnabod bod busnesau sy'n cael trafferthion gyda’u llif arian oherwydd y coronafeirws yn dal i boeni am gael eu troi allan. Bydd...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau ynglŷn â chau’r holl fanwerthwyr sy’n gwerthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol ac adeiladau eraill nad ydynt yn hanfodol, fel rhan o’r mesurau cadw pellter cymdeithasol. Mae’n rhaid i fusnesau ac adeiladau nad ydynt yn hanfodol gau nawr. Mae manwerthu ar-lein yn dal i fod ar agor ac yn cael ei annog a bydd gwasanaeth post a chludo yn gweithredu fel arfer. Mae’n rhaid i’r adeiladau manwerthu ac...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.