BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

3171 canlyniadau

Oes gennych chi bobl yn gweithio gartref dros dro o ganlyniad i’r achosion o’r Coronaferiws? Fel cyflogwr, mae gennych chi’r un cyfrifoldebau iechyd a diogelwch dros y rheini sy’n gweithio gartref ag unrhyw weithwyr eraill. Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gyngor ynghylch sut gallwch chi leihau’r risgiau i’w hiechyd, sy’n cynnwys gwybodaeth am y pynciau canlynol: gweithwyr unigol gweithio gyda chyfarpar sgrin arddangos straen ac iechyd meddwl I gael gwybod mwy, ewch...
Mae llywodraeth y DU yn cynghori gwladolion Prydeinig i beidio ymgymryd ag unrhyw deithio rhyngwladol nad yw’n hanfodol. Cyhoeddwyd y cyngor eithriadol hwn oherwydd bod y pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi arwain at gau ffiniau rhyngwladol a chyfyngiadau eraill na welwyd mo’u tebyg o'r blaen. Mae Llywodraeth y DU yn dosbarthu cludo nwyddau domestig a rhyngwladol (i gynnwys mewn awyren, mewn llong, ar y ffordd neu ar y rheilffordd, gan gynnwys cludiant rholio ymlaen/rholio i ffwrdd)...
Mae NHSX wedi cyhoeddi £500,000 mewn cyllid ar gyfer arloeswr fyddai’n gallu cynnig atebion digidol i helpu’r rheini sy’n hunanynysu oherwydd coronafeirws. Mae’r rhaglen, TechForce19, yn chwilio am atebion digidol a fydd yn gallu cael eu defnyddio’n gyflym. Gallen nhw gynnwys: cymorth gofal cymdeithasol o bell adnoddau ar gyfer recriwtio hyfforddi a chydlynu gwirfoddolwyr lleol adnoddau ar gyfer asesu’r galw’r am adnoddau i’r gweithlu o gwmpas y wlad gwasanaethau digidol ar gyfer hunan-reoli iechyd meddwl...
Mae newidiadau i'r rheolau gweithio oddi ar y gyflogres wedi’u gohirio am 12 mis fel rhan o becyn ymateb economaidd Llywodraeth y DU i Covid-19. Bydd y rheolau, sy’n sicrhau bod dau berson sy’n eistedd ochr yn ochr â’i gilydd yn gwneud yr un gwaith i'r un cyflogwr yn cael eu trethu yn yr un ffordd, nawr yn dod i rym ar 6 Ebrill 2021 yn hytrach na 6 Ebrill eleni. I gael rhagor o...
Os ydy Coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio ar eich cwmni a’ch bod chi angen rhagor o amser i ffeilio eich cyfrifon, dylech chi weithredu cyn eich dyddiad cau ar gyfer ffeilio. Rhaid i bob cwmni anfon ei gyfrifon, adroddiadau a datganiadau cadarnhau i Dŷ’r Cwmnïau bob blwyddyn. Os bydd cyfrifon cwmni’n cael eu ffeilio’n hwyr, bydd y gyfraith yn gosod cosb awtomatig. Dylai eich cwmni gymryd camau priodol i sicrhau bod cyfrifon yn cael eu ffeilio...
Yn yr amser hwn o fwy o straen ar y gadwyn cyflenwi bwyd, mae Bwyd Arloesi Cymru wedi agor llinell gymorth ym mhob un o’i ardaloedd daearyddol. Ar gyfer diogelwch bwyd, parhad technegol neu gadwyn gyflenwi (e.e. cyflenwyr deunydd crai), cysylltwch â’r rhifau canlynol: De Cymru Canolfan Diwydiant Bwyd Zero2Five, Prifysgol Metropolitan Caerdydd: Rhiannon Richards: 07468 752237 – RBfacey-richards@cardiffmet.ac.uk (Cymorth Technegol) David Lloyd: 07770 825069 – dclloyd@cardiffmet.ac.uk Martin Sutherland: 07770 701660 – msutherland@cardiffmet.ac.uk Canolbarth Cymru...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £1.4bn i fusnesau bach er mwyn eu helpu yn ystod cyfnod y coronafeirws. Bydd siopau, busnesau hamdden a lletygarwch gyda gwerth ardrethol o £51,000 neu lai yn cael rhyddhad ardrethi busnes o 100% a bydd tafarndai sydd â gwerth ardrethol rhwng £51,000 a £100,000 yn cael gostyngiad o £5,000 yn eu bil. Yn ychwanegol at y cymorth hwn mae pecyn newydd a fydd, yn 2020/21, yn rhoi...
Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn chwilio am sefydliadau all helpu i gyflenwi peiriannau anadlu a chydrannau peiriannau anadlu ledled y Deyrnas Unedig fel rhan o ymateb Llywodraeth y DU i COVID-19. Os gall eich busnes chi helpu i ateb y galw am beiriannau anadlu, ewch i wefan GOV.UK i gael rhagor o wybodaeth. I gael cyngor a gwybodaeth am y Coronafeirws ar gyfer eich busnes chi, ewch i dudalennau Cyngor ar y...
Cyngor cyfredol y Llywodraeth y DU yw i bawb geisio atal cysylltiad diangen gyda phobl eraill – ' pellhau cymdeithasol '. Mae hyn yn cynnwys: gweithio o gartref lle bo'n bosibl osgoi amseroedd cymudo prysur ar drafnidiaeth gyhoeddus osgoi crynoadau o bobl, boed yn gyhoeddus, yn y gwaith neu gartref Dylai cyflogwyr gefnogi eu gweithlu i gymryd y camau hyn. Gallai hyn gynnwys: cytuno ar ffyrdd mwy hyblyg o weithio, er enghraifft newid amserau dechrau...
Mae’r canllawiau newydd yn cynghori pobl i aros gartref am 14 diwrnod os oes gan rywun yn eich tŷ symptomau Coronafeirws (COVID-19). Bydd y canllawiau newydd dal yn gofyn i unigolion hunanynysu am 7 diwrnod o ddechrau symptomau COVID-19 ond nawr byddan nhw hefyd yn gofyn i bob unigolyn yn y tŷ hunanynysu am 14 diwrnod o’r foment honno. Os bydd aelodau eraill o’ch tŷ yn datblygu symptomau, dim ots pa mor ysgafn, ar unrhyw...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.