BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

3181 canlyniadau

Mae CThEM wedi sefydlu llinell gymorth i helpu busnesau a phobl hunangyflogedig sy’n poeni am beidio â gallu talu trethi o ganlyniad i’r coronafeirws (COVID-19). Os ydych chi’n rhedeg busnes neu’n hunangyflogedig a’ch bod yn poeni am fethu talu’ch trethi o ganlyniad i’r coronafeirws, gallwch ffonio llinell gymorth CThEM i gael cymorth a chyngor: 0800 0159 559. Rhif y llinell gymorth yw 0800 0159 559 - ac mae’n rhif ychwanegol i rifau cyswllt eraill CThEM...
Suzy Kinesiology
Myfyriwr cinesioleg o orllewin Cymru yn dechrau ei busnes delfrydol diolch i Busnes Cymru. Yn dilyn profiad personol yn ogystal â dyhead i lwyddo, penderfynodd Suzy Erskine o Gaerfyrddin ddechrau ei busnes cinesioleg ei hun. Gyda chefnogaeth gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, roedd hi'n gallu rhoi cynlluniau marchnata a busnes strategol ar waith er mwyn ei helpu i ddechrau ei menter newydd. dechrau llwyddiannus creu 1 swydd cefnogaeth gynghorol i ddechrau'r busnes Cyflwyniad i'r...
Y Dyfodol Cyf Day Nursery
Meithrinfa dydd yn mynd o nerth i nerth mewn ardal wledig yng nghanolbarth Cymru gyda chymorth Busnes Cymru. Yn gwireddu breuddwyd gydol oes a gyda chyfoeth o brofiad yn y sector gofal plant, sefydlodd Dwynwen Davies ei meithrinfa dydd ei hun yng Nghellan, Llanbedr Pont Steffan, yn darparu gofal dydd, clwb ar ôl ysgol a gofal gwyliau. Cafodd Dwynwen gymorth dechrau busnes a chynaliadwyedd gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, gan ei galluogi i ddechrau...
Wholehearted
Cwmni llaeth cnau a sudd organig a phur, wedi ei wasgu'n oer yw Wholehearted, sy'n danfon nwyddau yn ffres ac yn syth bin i'ch stepen drws. Creodd Sophie Jones a'i gŵr y busnes gyda'r nod o gynhyrchu a danfon cynnyrch a all helpu pobl i wella eu hiechyd, ac yn ei dro, eu bywydau. Dywed Sophie: "Rydym yn credu'n gryf ym mhŵer planhigion organig. Roeddem eisiau pasio'r holl faetholion ac ensymau gwerthfawr sydd gan ein...
The Media Angel
Asiantaeth farchnata o Dde Cymru yn gwneud gwelliannau cynaliadwyedd sylweddol yn dilyn cymorth gan Busnes Cymru. Mae The Media Angel, asiantaeth farchnata wedi'i lleoli ym Mhenarth, yn arbenigo mewn ymgyrchoedd marchnata unigryw a phrynu cyfryngau ar draws yr holl lwyfannau a sectorau. Ar ôl mynychu gweithdy ysgrifennu cynigion, a ddarparwyd gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, mae'r tîm wedi elwa o gefnogaeth Effeithlonrwydd Adnoddau pellach i sicrhau bod gweithrediadau'r busnes yn gynaliadwy. mynychu gweithdy tendro...
Bobbie Lee Photography
Entrepreneur ffotograffiaeth yn goresgyn heriau personol a phroffesiynol i weddnewid ei busnes. Roedd Roberta 'Bobbie' Lee o Ben-y-bont ar Ogwr yn gallu goresgyn sawl her bersonol a phroffesiynol i weddnewid ei busnes a dod yn ffotograffydd priodasau a theuluoedd llwyddiannus. Ers iddi ddod i gysylltiad â gwasanaeth Mentora Busnes Cymru sydd wedi ei ariannu'n llawn, mae hi wedi llwyddo i ragori ar ei tharged o archebion priodasau, gan dynnu lluniau mewn 31 priodas yn 2019...
JC Dog Grooming and Kennel Services
Prydferthwr cŵn proffesiynol yn tyfu ei busnes gyda diolch i wasanaeth mentora Busnes Cymru. Mae JC Dog Grooming and Kennel Services, a gafodd ei lansio gan Julie Caveill, yn cynnig cyfleusterau twtio cŵn proffesiynol a chynelau mewn ardal ddiogel a hardd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Cysylltodd Julie â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, ac ers hynny mae hi wedi elwa o gymorth gan ymgynghorydd a mentor busnes gwirfoddol sydd yn ei chefnogi i dyfu'r busnes...
Meithrinfa Ysgubor Fach Nursery
Meithrinfa yng Nghaerfyrddin yn sicrhau £1,000 gan Grant Gofal Plant Busnes Cymru. Wedi'i lleoli yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, mae Meithrinfa Ysgubor Fach Nursery yn cynnig gwasanaethau gofal plant i fabanod, plant bach a phlant ysgol hyd at 12 oed. Gwnaeth y perchennog, Eleri Thomas, gais am Grant Gofal Plant Llywodraeth Cymru sydd wedi'i chaniatáu i: sicrhau £1,000 o arian grant creu lleoedd gofal plant newydd, gan gynnwys lleoedd i blant sydd ag anghenion arbennig...
LouMor Gowns
Entrepreneur ffasiwn o Abertawe yn goresgyn llu o heriau i agor ei siop ffrogiau gan gynllunwyr ei breuddwydion yng Ngorseinon. Mae LourMor Gowns yn siop gynllunydd arbennig, yn cyflenwi ffrogiau a gynau ar gyfer amrywiaeth o achlysuron, yn cynnwys promiau, ymddangosiadau ar y teledu a'r carped coch. Cysylltodd y Rheolwr Gyfarwyddwr Louise Morgan â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru ar ddechrau ei thaith busnes ac ers hynny mae wedi lansio LourMor Gowns yn llwyddiannus, gan...
Eve L’Amour
Ar ôl gweithio o adref fel therapydd harddwch am sawl blwyddyn, penderfynodd Elen Samuel fod arni eisiau gwireddu ei breuddwyd o agor ei salon harddwch ei hun. Gyda chymorth Busnes Cymru, lansiodd Elen ei salon, Eve L’Amour, yn Ebrill 2018 ym Margoed, gan gynnig ystod lawn o therapïau harddwch, yn cynnwys trin dwylo, trin traed, triniaethau i’r wyneb, blew llygaid (lled-barhaol a chyflym), cwyro, ewinedd, microdermabrasion, colur a phartïon pampro. O ganlyniad i lwyddiant sefydlu’r...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.