BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

3211 canlyniadau

Gyda diddordeb gydol oes mewn ailaddurno, lansiodd Louise Misell o Gaerdydd ei busnes dylunio mewnol ei hun yn 2018. Gofynnodd i Fusnes Cymru am help i gychwyn ei busnes, ac roedd ganddi fynediad at amrywiaeth o gefnogaeth i lansio ei busnes, Louise Misell Interiors, yn llwyddiannus. cymorth cynghorol gyda chynllunio busnes, marchnata, treth, prisio a chyllidebu cymorth Cyflymu Cymru i Fusnesau gyda datblygu gwefan ymrwymedig i Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru Cefais fy magu ar...
Lyan packaging
Mae Lyan Packaging Supplies Ltd., sydd wedi ei leoli yn Wrecsam, yn gweithredu ers dros 30 mlynedd ac yn arbenigo mewn darparu pecynnu cludo, gan gynnwys pecynnu wedi ei reoli gyda thymheredd drwy eu hadran Icertech: Cysylltodd y Rheolwr Cyfarwyddwr, Adam Jones, gyda gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru am gymorth i ehangu ei restr o gleientiaid, gan arwain at: gymorth rheoli perthynas gyda strategaeth dwf cyngor arbenigol Adnoddau Dynol i adolygu a gwella prosesau ac...
Splice Cast
Mae Splice Cast yn y busnes o achub bywydau! Wedi ei leoli yn y Drenewydd, mae'r cwmni'n arbenigo mewn cynhyrchu ac ailwerthu cynnyrch meddygol yn bennaf. Mae eu hamrywiaeth blaenllaw o offer datgelu cancr ceg y groth yn cynnwys sawl brand eu hunain, yn ogystal â dyfeisiau unigryw ychwanegol, patent sydd yn gwneud y gweithdrefnau yn fwy manwl-gywir. Mae eu cynnyrch yn cael eu gwerthu yn y DU ac Ewrop. "Rydym yn gwneud sawl paled...
Arc Enterprises Cyf
Sefydlwyd Arc Enterprises Cyf gan Shaun Casey a Dan Roberts, sydd â 30 mlynedd o brofiad rhyngddynt o gyflwyno hyfforddiant ac addysg estyn allan i amrywiaeth o gymunedau yng Nghymru, yn ogystal â busnesau, cysylltiadau cyhoeddus a rheoli prosiectau. Mae'r busnes yn defnyddio dull gweithredu blaengar sy'n canolbwyntio ar gleientiaid fel rhan annatod i gyflwyno amrywiaeth eang o raglenni hyfforddiant a chefnogi, yn cynnwys cymorth sgiliau, cynhwysiad digidol, mentora gyrfaoedd a menter, rhaglenni galwedigaethol, hyfforddiant...
Drive
Wedi ei lansio yn 2019, cwmni tacsis cydweithredol yw Drive, sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd ac ym mherchnogaeth lwyr ei aelodau, y gyrwyr. Dechreuodd y cwbl pan ddaeth grŵp o yrwyr tacsis o Gaerdydd ynghyd i ffurfio cwmni cydweithredol newydd i'r perwyl o frwydro am system sy'n trin gyrwyr yn deg. "Caiff y busnes ei redeg ar sail nid er elw, sy'n golygu bod y gyrwyr sy'n aelodau yn talu'r swm lleiaf posibl o...
Peter Jones (ILG) Ltd.
Wedi ei sefydlu ym 1967, mae Peter Jones (ILG) Ltd. wedi esblygu o fod yn gyfrwyaeth draddodiadol i fod yn un o brif ddarparwyr y byd o ran datrysiadau cludo ar gyfer offer diogelwch a chyfathrebu. Dros y blynyddoedd, mae dyluniadau arloesol y cwmni, a wneir o gyfuniad o ledr o ansawdd uchel, mowldinau neilon cryf a deunyddiau synthetig modern eraill, wedi helpu i'w ddyrchafu i fod yn un o'r cyflenwyr y mae'r galw mwyaf...
Landscapes for Learning Ltd
Sefydlodd Craig Hill y cwmni Landscapes for Learning Ltd (Mud Kitchens Wales Ltd gynt) ym mis Tachwedd 2016 fel unig fasnachwr cyn ymgorffori'r busnes ym mis Ebrill 2017. Cyn sefydlu, treuliodd Craig 13 o flynyddoedd fel athro cynradd ac uwchradd, gan arbenigo ym maes cynorthwyo plant gyda phroblemau ymddygiad. Mae Landscapes for Learning, sy'n cael ei redeg gan Craig a'i wraig, Gwenllian, yn darparu amrywiaeth gyfan o gyfleoedd dysgu gwahanol i blant, gan gynnwys chwarae...
Markertech UK Ltd
Markertech UK Ltd yw'r Dosbarthwr arbenigol ac Asiant Gwasanaeth y DU ar gyfer Systemau Argraffu Weidmuller. Wedi ei sefydlu yn 2007, mae'r busnes yn gwerthu a rhentu argraffwyr Weidmuller, ac yn cadw casgliad sylweddol o ddefnyddiau traul a marcwyr yn eu huned sydd ar gyrion Crug Hywel, Powys. Mae Markertech UK hefyd yn cynnig Gwasanaeth Argraffu Marcio Personol dros y casgliad cyfan o gyfryngau argraffu Weidmuller. Mae'r cwmni’n gyfrifol am reoli'r stoc fwyaf o'r cynnyrch...
Hilltop Honey
Mae Hilltop Honey yn frand profiadol o fêl, pur, naturiol o'r safon uchaf, sydd wedi ennill gwobrau ac sydd ar gael mewn potiau hecsagonol y gellir eu hailgylchu, a photeli sy'n hawdd eu gwasgu - busnes wedi ei leoli yng nghalon Cymru, yn cyflenwi ac arloesi ar gyfer y sector mêl, gan ddarparu opsiwn naturiol ac iachach yn hytrach na siwgrau pur gyda'r bwriad o ddangos i brynwyr bwyd bod 'mwy i fêl'. Mae cynnyrch...
Ridgebag
Gyda chefndir mewn celf a chynllunio, sefydlodd y Cyfarwyddwr Cwmni Poli Cárdenas gwmni Ridgebag yn 2018. Mae ganddo radd Meistr mewn Curaduriaeth a bu’n berchennog ei fusnes gwneud dodrefn ei hun cyn cychwyn i arwain ar Gynllunio a Chynhyrchu yn Ridgebag. “Ganwyd Ridgebag o angen gwirioneddol yn y farchnad y gwnaethom ei ddarganfod fel perchnogion cŵn - bag sy’n cynnwys pob dim sy’n angenrheidiol ar gyfer mynd â chŵn am dro. Rhyngom mae gennym dri...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.