BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

3221 canlyniadau

Morgan’s Wigs
Darparwr wigiau cenedlaethol a chanddynt ragor na 11 mlynedd o brofiad yw Morgan’s Wigs. Agorodd sylfaenydd a Chyfarwyddwr y busnes, Rebecca Morgan-Brennan, triniwr gwallt sydd â chymwysterau uchel, ei salon ei hun, Morgan’s Hair and Beauty, yn 2013. Dechreuodd ei thaith gyda wigiau pan ofynnodd ffrind agos iddi am gyngor ynghylch y ffaith ei bod yn colli ei gwallt ar ôl cael diagnosis o ganser y fron. Ysbrydolodd hyn i Rebecca gychwyn helpu eraill oedd...
Larynx Entertainment
Mae Larynx Entertainment yn eiddo ar y cyd i'r cyfarwyddwyr Dave Acton a Pete Rogers. Mae'n llwyfan cyfryngau sydd yn arbenigo mewn hyrwyddo cyfryngau trefol Cymraeg drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys arddangos gwaith artistiaid ar wefannau cymdeithasol, creu cynnwys gydag artistiaid megis fideos rapio rhydd, a chreu digwyddiadau byw er mwyn rhoi cyfle i'r artistiaid berfformio. Dave a Pete sydd yn gyfrifol am yr holl gyfathrebu gyda'r artistiaid, cysylltu â lleoliadau a'r gweithredoedd busnes...
Catrin Design
Lansiwyd Catrin Design, sydd wedi'i leoli yn Wrecsam yn 2018 gan Catrin Ellis. Wedi graddio o Ysgol Celf a Dylunio Gogledd Cymru, Prifysgol Glyndŵr, mae Catrin yn ddylunydd graffeg a darlunydd amlddisgyblaethol. Wedi mynychu nifer o weithdai busnes a gweithdai dechrau arni, a ddarparwyd gan wasanaeth Busnes Llywodraeth Cymru, penderfynodd Catrin fyndi amdani a chychwyn busnes ei hun. Mae hi bellach yn rhedeg Catrin Design o Hwb Menter Busnes Cymru yn Wrecsam, ac yn cynhyrchu...
The Tired Mama Collection
Pan ddechreuodd Danielle Davies ei chyfnod mamolaeth a phenderfynu wedyn nad oedd am ddychwelyd i’w gyrfa fel athrawes ysgol gynradd, cafodd y syniad o greu The Tired Mama Collection. Cafodd y busnes, a leolir yng Nghastell-nedd, ei sefydlu yn 2017 fel brand dillad newydd sbon danlli ar gyfer mamau ar draws y byd, wedi’i ysbrydoli gan y brwydrau beunyddiol o fod yn fam flinedig – neu’n ‘Tired Mama’. Eisoes, mae Danielle wedi mynd ati i...
FLOW Fitness
Mae FLOW Fitness, sydd wedi’i leoli yn Hendy-gwyn ar Daf, yn darparu llu o weithgareddau ffitrwydd a dawnsio gyda rhaglenni allgymorth, yn ogystal ag amserlen lawn, dan un to yn Stiwdio 17. Cafodd y Stiwdio’i sefydlu gan Angharad James, artist dawns lleol a chydlynydd datblygu dawnsio ar gyfer Arts Care Gofal Celf. Lansiwyd FLOW Fitness yn dilyn cynnydd mawr ym mhoblogrwydd dawnsio ac mae wedi ehangu i gynnwys elfen o ffitrwydd a dawnsio awyr, gan...
T S Henderson & Co
Cwmni peirianneg fanwl, sy'n arbenigo mewn gweithgynhyrchu a chyflenwi rhannau a chydrannau wedi eu peiriannu'n fanwl i ystod eang o sectorau, gan gynnwys modurol, awyrofod, morol, amddiffyn, electroneg, olew a nwy, cerddoriaeth a busnesau milfeddygol/amaethyddol yw TS Henderson & Co Ltd. Rydym yn arbenigo mewn peiriannu cydrannau modurol, ffasninau arbenigol, offer codi, iro a meddygol, saernïo is-osodiadau a chydrannau a ddefnyddir mewn offer rheoli symud peiriannau, plannu a chynaeafu proffil uchel, unigryw. Sefydlwyd y cwmni...
Ryde UK
Dechreuodd Christopher Davies Ryde UK – sef y gwasanaeth chauffeur ‘dim allyriadau’ cyntaf yng Nghymru ac, yn wir, yr unig wasanaeth o’i fath trwy’r wlad – fel partneriaeth gyda’i dad, Stephen, ar ôl gwerthu eu busnes blaenorol, a oedd yn cyflwyno cyrsiau gwella sgiliau gyrwyr ac ymwybyddiaeth cyflymder ar draws y DU. Ar ôl i’w cwmni blaenorol gael ei werthu, penderfynodd Chris a’i dad sefydlu Ryde, gan anelu at wneud gwahaniaeth mawr yn y ffordd...
Toddle
Ar ôl 9 mlynedd fel Swyddog yn y Lluoedd Arfog (RAF), penderfynodd Hannah Saunders adael a sefydlu ei busnes gofal croen antur ei hun. O Hwb Menter Wrecsam, Busnes Cymru, mae Toddle bellach yn cynhyrchu cynnyrch i deuluoedd sy'n caru'r awyr agored ac eisiau gwarchod a maethu eu hanturwyr ifanc. Lansiwyd Toddle yn 2018 ac mae bellach yn cyflogi 2 aelod o staff. Beth ddaru nhw "Roeddwn yn berson anturus iawn cyn cael fy mab...
In the Welsh Wind
Distyllfa fach a sefydlwyd gan Alex Jungmayr ac Ellen Wakelam yw ' In the Welsh Wind', a leolir yng nghanol saith acer o ddolydd blodau gwyllt ar ben bryn yn Nhre-saith, uwchlaw Bae Ceredigion. Mae’r busnes yn arbenigo mewn creu gwirodydd pwrpasol yn eu distyllbair copr, 'Meredith'. A hwythau ond yn cynhyrchu ar raddfa fach, mae’r holl wirodydd y mae’r busnes yn eu creu yn unigryw ac wedi’u teilwra’n arbennig, fel petai, gan alluogi Alex...
Carl Pottinger a Sally Roberts yw perchnogion Pontcysyllte Tea Rooms. Cafodd capel Bryn Seion yn Nhrefor, Gogledd Cymru ei adnewyddu i greu'r ystafell de draddodiadol hon. Agorwyd yr ystafelloedd te ym mis Chwefror 2018 ger Traphont Ddŵr Pontcysyllte, sy'n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, ac mae eu bwydlen yn ystod y dydd yn cynnwys coffi ffres, detholiad o fathau gwahanol o de, cacennau, te prynhawn a byrbrydau ysgafn. Beth ddaru nhw "Mae'r syniad o agor...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.