Datganiad Ysgrifenedig : Cyhoeddi Taliad Cymorth Organig 2024, Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. Heddiw (17 Ionawr 2024), mae'n bleser gennyf gyhoeddi taliadau cymorth i ffermwyr organig sydd wedi'u hardystio'n llawn yn 2024. Rwy'n gwerthfawrogi'r ymdrechion aruthrol ffermwyr organig i adeiladu busnesau sy'n gynaliadwy yn ariannol ac yn amgylcheddol. Ar ffermydd o'r fath, heb os, bydd yr arferion rheoli tir cynaliadwy a ddefnyddir wedi bod o fudd i'r ecoleg leol...