BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

381 canlyniadau

small business owners standing in their cafe
Ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod yn rhedeg busnes bach ysbrydoledig sy’n ateb y diben ar gyfer #TheSmallAwards? Os felly, peidiwch â cholli allan a gwnewch gais ar gyfer 2024! Bydd y beirniadu wedi’i seilio ar nifer o feini prawf sy’n berthnasol i’r wobr benodol, gan edrych hefyd am berfformiad cryf fel busnes parhaus. Bydd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth o ymgysylltiad cymunedol cryf gan fusnesau bach. Mae’r categorïau fel a ganlyn...
Electronic padlock
Pan ddaw hi i amddiffyn eich mudiad rhag seiberdrosedd, gall eich pobl fod yr ased mwyaf, a chydag hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch, gallant ddod yn rhwystrau effeithiol tu hwnt i seiberdrosedd. Bydd yr hyfforddiant hwn ar seiberddiogelwch yn cynyddu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o risgiau seiberddiogelwch a sut i’w lliniaru yn eich mudiad. Bydd y sesiynau yn ymdrin â’r canllawiau canlynol gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol: Cyflwyniad i Seiberwydnwch Pam mae’n bwysig Gwahanol fathau...
recycling bins
Cofleidiwch y newidiadau deddfwriaethol sydd ar y gorwel yng Nghymru a fydd yn mandadu i bob gweithle, yn cynnwys busnesau, cyrff cyhoeddus, a’r trydydd sector, wahanu deunyddiau ailgylchadwy oddi wrth wastraff cyffredinol. Mae’r gweminarau hyn wedi’u cynllunio i gynnig cyflwyniad cynhwysfawr i’r rheoliadau gwastraff, ynghyd ag archwiliad manwl o’r gofynion ar bob sector i baratoi am y gyfraith newydd a ddaw i rym ym mis Ebrill 2024: Busnesau bach a chanolig (SME) – 30 Ionawr...
Person supporting a colleague by talking to them
Ar Ddiwrnod Amser i Siarad rydym yn gofyn wrth y genedl i gael sgwrs am iechyd meddwl. Cynhelir Diwrnod Amser i Siarad 2024 ddydd Iau 1 Chwefror. Thema eleni yw annog pobl i siarad am sut maen nhw wir yn teimlo. Weithiau mae'n haws dweud wrth bobl ein bod ni'n 'iawn' na dweud sut rydyn ni'n teimlo mewn gwirionedd. Drwy siarad am iechyd meddwl gallwn chwalu mythau a chwalu rhwystrau. Mae problemau iechyd meddwl yn...
Cheerful shop owners celebrating their success as a team.
Mae sylfaenwyr y Gwobrau Entrepreneuriaid Prydeinig a’r Fast Growth 50 Index yn cyflwyno cyfres o wobrau sy’n hyrwyddo ac yn dathlu’r busnesau newydd gorau a disgleiriaf ymhlith 10 gwlad a rhanbarth ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r gwobrau’n cynnwys dros 35 o gategorïau yn amrywio o Fusnes Newydd Creadigol y Flwyddyn, Busnes Newydd Gwasanaethau Technoleg y Flwyddyn, Busnes Newydd Byd-eang y Flwyddyn, a Busnes Newydd Arloesol y Flwyddyn; dyma siawns i fusnesau sy’n darparu unrhyw wasanaethau...
Pam bod yn Gefnogwr Busnes y Criw Mentrus?
Fel cefnogwr Her Y Criw Mentrus bydd eich sefydliad yn ysbrydoli plant Cymru i feithrin archwaeth am fusnes; dysgu sgiliau bywyd pwysig, llythrennedd a rhifedd, wrth gael llawer o hwyl ac ymdeimlad o gyflawniad a chyflawni Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CCC) eich cwmni ar yr un pryd. Gallwch helpu mewn ffordd sy’n addas i chi a’ch busnes. Gallech fod yn brif noddwr ac amlygu eich brand fel un sy’n gwerthfawrogi’r cyfraniad a wneir gan bobl ifanc...
Red trains
Dilynwch eich taith allforio gyda'n digwyddiadau Tramor, Yng Nghymru a Phartneriaid. Gall ymweld â’r farchnad fod yn rhan hollbwysig o ennill a chadw busnes, boed hynny’n golygu mynychu neu arddangos mewn arddangosfa neu sioe fasnach, neu ymweld â'r farchnad a chwsmeriaid posibl. Dewiswyd y marchnadoedd a'r arddangosfeydd yn ein rhaglen i adlewyrchu datblygiadau rhyngwladol cyfredol sy'n cynnig cyfleoedd gwirioneddol i Fusnesau Cymru. Mae'r tîm digwyddiadau Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel yn bwriadu arddangos dramor yn MRO Americas...
people using a laptop
Gwahoddir sefydliadau bach o sectorau penodol yn y Deyrnas Unedig (DU) i gymryd rhan yn y Rhaglen Cyber Essentials a Ariennir ( Funded Cyber Essentials Programme ), dan arweiniad y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC). Mae’r cynnig ar gyfer 2024 bellach yn agored, a gall cwmnïau bach neu ficro sy’n gweithio ar ddatblygu technolegau Deallusrwydd Artiffisial (AI) sylfaenol yn y DU wneud cais am gymorth. Nod y rhaglen yw helpu cwmnïau a sefydliadau bach o fewn...
Engineer standing by wind turbines
Mae’r Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF) yn cefnogi datblygu a defnyddio technolegau sy’n galluogi busnesau sy’n defnyddio llawer o ynni i symud tuag at ddyfodol carbon isel. Mae Cam 3 IETF yn darparu cyllid grant ar gyfer y mathau canlynol o brosiectau: astudiaethau – astudiaethau dichonoldeb a pheirianneg i alluogi cwmnïau i ymchwilio i brosiectau effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio a nodwyd, cyn gwneud penderfyniad i fuddsoddi effeithlonrwydd ynni – defnyddio technolegau i leihau’r defnydd o...
hand hold
Mae Cymru Iach ar Waith (CIW) yn datblygu gwasanaeth digidol gydag offer rhyngweithiol i annog a chefnogi cyflogwyr yng Nghymru i gymryd camau rhagweithiol ar gyfer iechyd a llesiant eu gweithlu, gan gyfrannu at lwyddiant busnes a llesiant cymunedol. Maen nhw’n chwilio am gyflogwyr yng Nghymru sy’n gallu sbario 10 munud (ar amser sy’n gyfleus i chi) i ymuno â nhw i lunio dyfodol gwasanaeth digidol newydd CIW drwy gwblhau gweithgaredd ar-lein byr. Nid oes...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.