Mae Cymru Iach ar Waith wedi cyhoeddi canllawiau newydd i gyflogwyr ynghylch cynaliadwyedd amgylcheddol, sy’n ymdrin â sut mae rheoli adnoddau naturiol yn gyfrifol er budd cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Mae 'Ymgorffori Cynaliadwyedd Amgylcheddol i Lesiant yn y Gweithle' yn tynnu sylw cyflogwyr at sut y gall rheoli adnoddau mewn ffyrdd cyfrifol – lleihau gwastraff, hyrwyddo’r defnydd o ynni adnewyddadwy, a lleihau llygredd – fod o fudd i'w busnes, i’w gweithwyr, ac i’r blaned. Cewch...