BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

61 canlyniadau

person giving a business pitch
Mae Ignite yn ddigwyddiad cyflwyno unigryw sydd wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer yr entrepreneur cymdeithasol ac mae’n helpu i raddio effaith mentrau cymdeithasol uchelgeisiol sy’n dod i’r amlwg o brifysgolion y DU gyda chyllid, mentora arbenigol a chysylltiadau. I wneud cais i Ignite, mae angen i chi fod yn fyfyriwr neu wedi graddio’n ddiweddar o brifysgol yn y DU, bod â menter gymdeithasol bresennol rydych chi’n awyddus i’w thyfu ac uchelgais i ddatblygu busnes fydd...
Farmer using a digital tablet looking at crops in a field
Gall busnesau bach a microfusnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £400,000 ar gyfer prosiectau sy’n datblygu eu gweithgareddau arloesi ac sydd â llwybr clir at fasnacheiddio a thwf busnes, yn y clwstwr technoleg amaeth a thechnoleg bwyd yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru. Yn ogystal â’r cymorth grant, bydd Innovate UK, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Gwynedd, yn cynnig cymorth busnes wedi’i deilwra...
Person holding a digital tablet, WiFi symbol, electronic map of the world.
Dyma fenter newydd dan arweiniad Innovate UK Business Connect mewn cydweithrediad â'r Adran Drafnidiaeth. Y bwriad gyda’r cyfle hwn o fewn y Diwydiant Llongau Clyfar yw meithrin a datblygu gwahanol dechnolegau ar draws ystod o sectorau er mwyn gweld a oes defnydd iddynt o fewn cludiant môr. Er nad porthladdoedd a morio yw eich prif ffocws o reidrwydd, mae’r fenter yn awyddus i greu cymuned o sefydliadau sydd ag arbenigeddau perthnasol, a hynny er mwyn...
Person holding a sign with an exclamation mark.
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn ymwybodol o honiadau ffug mai’r dyddiad cau ar gyfer apeliadau i restrau ardrethu 2023 yw 30 Mehefin. Nid yw hyn yn wir. Dylech fod yn wyliadwrus o unrhyw un sy’n gwneud yr honiad hwn. Yn gyffredinol, gallwch herio prisiad eich eiddo ar restr 2023 ar unrhyw adeg tan fis Mawrth 2026. Dylech fod yn ofalus o unrhyw asiant sydd: yn ceisio rhoi pwysau arnoch i wneud penderfyniad neu...
male and female scientists in a laboratory
Mae gan Gymru lawer iawn i'w ddathlu o ran STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg). Mae Gwobrau STEM Cymru'n rhoi sylw i sêr STEM Cymru - y rheiny sy'n arwain y sector yng Nghymru, y busnesau hynny sy'n creu effaith ar economi Cymru, y rheiny sy'n mynd i'r afael â bwlch amrywiaeth a phrinder sgiliau STEM, y rheiny sy'n ysbrydoli ac yn codi dyheadau y genhedlaeth nesaf. Bydd Gwobrau STEM Cymru 2024 yn cydnabod y...
Food technician/scientist
Gall sefydliadau sydd wedi'u cofrestru yn y DU wneud cais am hyd at £150,000 ar gyfer prosiect i ddatblygu a rheoli’r clwstwr arloesi technoleg amaeth a thechnoleg bwyd yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru. Mae'r gystadleuaeth hon yn agored i ymgeiswyr unigol neu gydweithrediadau. Er mwyn arwain prosiect mae'n rhaid i'ch sefydliad: fod yn fusnes o unrhyw faint sydd wedi'i gofrestru yn y DU, yn sefydliad academaidd, yn sefydliad ymchwil a thechnoleg, yn elusen, yn sefydliad...
Person delivering training on website performance
Mae Enterprise Nation a Google wedi dod ynghyd i annog busnesau Prydain i dyfu. Google Digital Garage yw un o raglenni mwyaf blaenllaw Google yn y DU, ac mae’n cynnig hyfforddiant sgiliau digidol a mentora am ddim i berchnogion busnesau bach. Bydd y digwyddiadau'n cynnig hyfforddiant am ddim i bobl sy’n berchen ar fusnesau bach, sy’n ystyried sefydlu eu busnesau eu hunain, neu sy’n awyddus i ddatblygu eu rhagolygon gwaith. Dewch i un o’r digwyddiadau...
children playing the recorder
Mewn digwyddiad lansio yn y Gogledd, croesawyd canllawiau sydd â'r nod o greu diwylliant gwrth-hiliol mewn lleoliadau gofal plant yng Nghymru gan Weinidog y Blynyddoedd Cynnar, Jayne Bryant. Mae'r pecyn cymorth yn rhoi cyngor clir ac ymarferol i ddarparwyr gofal plant ar amrywiaeth o bynciau gwrth-hiliol. Bydd y pecyn ar gael i'r rhai sy'n gweithio yn y sectorau gofal plant, blynyddoedd cynnar a chwarae yng Nghymru. Fe'i datblygwyd gan gonsortiwm o bum partner gofal plant...
Woman being harassed
Mae cyrsiau am ddim ar gael yn ystod 2024 a 2026 i'ch helpu i ddelio â sefyllfaoedd niweidiol posibl fel aflonyddu rhywiol mewn mannau cyhoeddus. Ydych chi wedi clywed jôc, sylwadau neu sarhad yn erbyn menywod neu ferched erioed, ac wedi difaru na wnaethoch chi ddweud rhywbeth i'w herio? Efallai eich bod wedi gweld rhywbeth oedd yn mynd yn groes i'r graen i chi ond nad oedd gennych yr hyder na'r sgiliau i ymyrryd? Pan...
Adult Learners Week
Cynhelir yr Wythnos Addysg Oedolion , a gaiff ei chydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, yn ystod 9 i 15 Medi 2024. Mae’r ymgyrch flynyddol yn gyfle arbennig i bobl gofleidio ail gyfle ar addysg a gwaith, gan arddangos effaith rymus dysgu gydol oes yng Nghymru. Bob blwyddyn mae’r ymgyrch yn ysbrydoli miloedd o bobl i fynychu digwyddiadau arbennig, cofrestru ar gyfer cyrsiau a cheisio cyngor ac arweiniad ar...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.