BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

621 canlyniadau

group of colleagues
Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi croesawu’r newyddion y bydd gan y DU fynediad parhaus at Horizon Europe, rhaglen ymchwil ac arloesi flaenllaw yr Undeb Ewropeaidd, sy’n werth €100 biliwn. Mae’r cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU heddiw y bydd y DU yn dod yn aelod “gwlad gysylltiol” y rhaglen, cam yr oedd Llywodraeth Cymru wedi pwyso amdano yn ystod negodiadau Brexit, sy’n golygu y bydd gan wyddonwyr, prifysgolion a busnesau yng Nghymru fynediad parhaus...
Work colleagues looking at a digital device
Rydym wedi dechrau cyfri’r diwrnodau’n swyddogol ar gyfer Dydd Sadwrn y Busnesau Bach gan fod taith eiconig Dydd Sadwrn y Busnesau Bach y DU yn ôl eto ym mis Tachwedd! Bydd 'Y Daith' yn ymweld â 23 o wahanol drefi a dinasoedd ledled y DU drwy gydol mis Tachwedd, gan ymweld â busnesau bach a thynnu sylw at eu cyfraniad i economi'r DU a chymunedau lleol. Bydd rhaglen ddyddiol am ddim o ddigwyddiadau ar-lein –...
0:30
Mae Llywodraeth y DU yn ceisio barn cyflogwyr mewn dau ymgynghoriad ar iechyd galwedigaethol: Mae Occupational Health: Working Better yn ceisio barn cyflogwyr, y sector gofal iechyd, a chymunedau lleol ar ffyrdd o ehangu mynediad at wasanaethau iechyd galwedigaethol. Mae Tax Incentives for Occupational Health yn archwilio'r achos dros ddarparu rhyddhad treth ychwanegol i fusnesau pan fyddant yn buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd galwedigaethol. Mae'r ymgynghoriadau'n cau ar 12 Hydref 2023.
Mae’r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, Dr Chris Jones, yn atgoffa pobl i aros gartref ac osgoi cyswllt ag eraill os ydyn nhw’n sâl ac os oes ganddyn nhw dymheredd uchel. Gall heintiau anadlol, fel y ffliw a COVID-19, ledaenu’n hawdd rhwng pobl. Mae symptomau’n amrywio o beswch parhaus, gwres neu deimlo’n oer, poenau yn y cyhyrau neu boenau nad ydyn nhw o ganlyniad i ymarfer corff, dolur gwddf, trwyn yn llawn neu’n rhedeg, dolur rhydd...
Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Gweithgynhyrchu, ddydd Iau, 28 Medi 2023, bydd gweithgynhyrchwyr ledled y DU yn agor eu drysau unwaith eto. Bydd aelodau'r cyhoedd yn cael eu gwahodd i ffatrïoedd a safleoedd i gael golwg y tu ôl i'r llen ar sut mae cyfleusterau Gweithgynhyrchwyr yn gweithio, fel rhan o'r Tŷ Agored hwn ledled y DU. Bydd cymunedau lleol yn cael cyfle i weld y gyrfaoedd a'r swyddi posibl sydd ar gael yn y sector gweithgynhyrchu...
Houses of parliament London
Mae gwefan Busnes Cymru yn cael ei ddiweddaru i wella profiad y defnyddiwr, hygyrchedd ac i sicrhau cysondeb ar draws llwyfannau ar-lein Llywodraeth Cymru. Bydd safle BETA newydd Busnes Cymru ar gael yn fuan Yn cefnogi busnesau Cymru | Busnes Cymru (gov.wales)
Ledled Ewrop, anogir 700 miliwn o Ewropeaid a gynrychiolir gan 46 o aelod-wladwriaethau Cyngor Ewrop i ddysgu mwy o ieithoedd, beth bynnag eu hoedran. Mae Cyngor Ewrop yn argyhoeddedig bod amrywiaeth ieithyddol yn ffordd o sicrhau gwell dealltwriaeth ryngddiwylliannol, ac yn elfen allweddol o dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog ein cyfandir. Felly, mae Cyngor Ewrop yn Strasbourg hyrwyddo amlieithedd dros Ewrop gyfan. Drwy fenter Cyngor Ewrop, rydyn ni wedi dathlu Diwrnod Ieithoedd Ewrop ar 26 Medi bob...
Deputy Minister for Climate Change, Lee Waters
O 17 Medi 2023 ymlaen, bydd y rhan fwyaf o derfynau cyflymder 30mya yng Nghymru yn newid i 20mya. Daw’r newid ar ôl pedair blynedd o waith gydag awdurdodau lleol, yr heddlu ac arbenigwyr diogelwch ar y ffyrdd i baratoi’r gyfraith newydd, gan wneud Cymru’r wlad gyntaf yn y DU i newid y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd lleol. #BarodAm20mya. I gael mwy o wybodaeth, ewch i: • Cyflwyno terfynau cyflymder diofyn o 20mya |...
Deputy Minister for Climate Change, Lee Waters
Bydd y gwaith yn dechrau heddiw (dydd Llun 4ydd Medi 2023) i atgyweirio Pont Menai i sicrhau ei bod yn cael ei hadfer yn barhaol mewn pryd ar gyfer ei phen-blwydd yn 200 oed. Bydd ail gam y gwaith gan UK Highways A55 Limited yn gosod crogwyr parhaol newydd, yn dilyn cyfnod o ddatblygu a phrofi trylwyr, yn ogystal â gwaith paentio helaeth i du allan y bont. Anogir modurwyr i gynllunio ymlaen llaw, fodd...
Group of People Applauding
Mae Partneriaethau Cyfnewid Dylunio (DEPs) yn brosiectau cydweithredol tair ffordd sy'n dwyn ynghyd ymchwilwyr dylunio ar ddechrau eu gyrfa, goruchwyliwr academaidd a sefydliad anacademaidd, fel busnes bach neu sefydliad y sector cyhoeddus. Gwnewch gais am y rownd ddiweddaraf hon o gyllid grant i ddatblygu atebion a arweinir gan ddylunio (cynhyrchion, gwasanaethau a systemau) sy'n mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu bioamrywiaeth yn y DU. Rhaid i'r partneriaethau ddangos effaith bendant ar gymunedau lleol trwy...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.