BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

631 canlyniadau

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi manylion y Bil Diogelwch Ar-lein. Mae'r Bil Diogelwch Ar-lein yn set newydd o ddeddfau i ddiogelu plant ac oedolion ar-lein. Bydd yn gwneud cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn fwy cyfrifol am ddiogelwch eu defnyddwyr ar eu platfformau. Mae'r manylion yn cynnwys: Canllaw i'r Bil Diogelwch Ar-lein Sut bydd y Bil Diogelwch Ar-lein yn amddiffyn plant Sut bydd y Bil Diogelwch Ar-lein yn amddiffyn oedolion Mathau o gynnwys fydd yn cael...
Net Zero concept
Wrth i deuluoedd baratoi ar gyfer dechrau tymor ysgol newydd, bydd llawer yn poeni am yr argyfwng costau byw. Ond mae cymorth ar gael i ddysgwyr a'u teuluoedd yng Nghymru sydd efallai’n ei chael hi'n anodd fforddio costau ysgol fel gwisg ysgol, prydau bwyd a chludiant, yn ogystal â rhai cynlluniau am ddim hefyd, i helpu'ch plentyn gyda'i ddysgu. 7 cynllun efallai y bydd teuluoedd yn gymwys ar eu cyfer: Grant Hanfodion Ysgol Prydau ysgol...
Group of People Applauding
Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn bwyllgor cynghori arbenigol annibynnol. Mae’n rhoi cyngor i adrannau iechyd y Deyrnas Unedig ar imiwneiddio, gan wneud argymhellion am amserlenni brechu a diogelwch brechlynnau. Fel rhan o’i adolygiad diweddaraf o raglen frechu COVID-19, mae’r JCVI heddiw (30 Awst 2023) wedi cyhoeddi datganiad yn cynnwys ei gyngor terfynol ar bwy sy’n gymwys yn rhaglen frechiadau atgyfnerthu’r hydref yn erbyn...
e-newsletter
Os disgwylir i chi gyflwyno cyfrifon i Dŷ'r Cwmnïau erbyn diwedd mis Medi, caniatewch ddigon o amser cyn eich dyddiad cau. Rhaid i bob cwmni cyfyngedig, p'un a yw’n masnachu ai peidio, gyflwyno cyfrifon blynyddol bob blwyddyn. Mae hyn yn cynnwys cwmnïau segur. Mae gan gyfarwyddwyr lawer o gyfrifoldebau, gan gynnwys diweddaru cofnodion cwmni a sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno ar amser. Mae angen i chi ddeall eich rôl fel cyfarwyddwr, pwysigrwydd parhau...
Seagulls and fishing nets on the harbour in Conwy
Mae Google wedi lansio hyfforddiant ar-lein sy'n canolbwyntio ar Ddeallusrwydd Artiffisial i helpu pobl a busnesau fanteisio ar fuddion deallusrwydd artiffisial, p'un ai i arbed amser, cael swydd newydd neu dyfu eich busnes. Mae'r modiwlau hawdd eu dilyn yn llawn cyngor ymarferol ac awgrymiadau sy'n canolbwyntio ar sgiliau deallusrwydd artiffisial hanfodol, gan gynnwys: Grow Your Productivity with AI Understanding Machine Learning I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Offering free AI training...
Merthyr Tydfil Labour Club
Nid anifeiliaid anwes yw cŵn cymorth ac anogir busnesau i ddiwygio unrhyw bolisi "dim cŵn" i un sy'n caniatáu mynediad i gŵn cymorth. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cynhyrchu canllaw i helpu busnesau twristiaeth groesawu pobl sydd â gofynion mynediad. Mae'n esbonio beth yw eich dyletswyddau cyfreithiol i berchnogion cŵn cymorth ac mae'n cynnwys rhai cwestiynau cyffredin. Darllenwch y canllaw yma: Cymryd yr awenau: canllaw i groesawu cwsmeriaid a chŵn cymorth ganddynt |...
0:30
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Heddiw (29 Awst 2023), cyhoeddodd Llywodraeth y DU Model Gweithredu Targed y Ffin newydd sy’n nodi’r dull y byddwn yn ei ddefnyddio yn y dyfodol o ran rheolaethau diogelwch (a fydd yn berthnasol i bob math o allforion) The Border Target Operating Model: August 2023 - GOV.UK (www.gov.uk) a rheolaethau iechydol a ffytoiechydol (a fydd yn berthnasol i fewnforio anifeiliaid byw, cynhyrchion egino, cynhyrchion anifeiliaid, planhigion a chynhyrchion planhigion)...
Mae Gwobrau Twristiaeth Go North Wales yn rhoi cyfle i ni ddathlu busnesau twristiaeth a lletygarwch gorau Gogledd Cymru a'r cyfraniad gwerthfawr y maent yn ei wneud i'r economi ymwelwyr sy'n tyfu. Os ydych chi'n ymwneud â’r diwydiant twristiaeth yn y rhanbarth, yna mae'r gwobrau hyn ar eich cyfer chi! Dyma’r categorïau eleni: Gwesty Mawr y Flwyddyn Go (50 a mwy o ystafelloedd) Gwesty Bach y Flwyddyn Go (50 ystafell neu lai) Gwely a Brecwast...
Handshake, business deal
Mae trethi amgylcheddol yn annog eich busnes i weithredu mewn ffordd sy'n fwy ecogyfeillgar. Mae trethi a chynlluniau ar gyfer gwahanol fathau a meintiau busnes. Efallai y cewch ryddhad neu gael eich eithrio rhag rhai trethi, er enghraifft: rydych chi'n defnyddio llawer o ynni oherwydd natur eich busnes rydych chi'n fusnes bach nad yw'n defnyddio llawer o ynni rydych chi'n prynu technoleg ynni-effeithlon i'ch busnes Gallwch dalu llai o dreth drwy wneud cais am gynlluniau...
Mae Llywodraeth Cymru eisiau eich barn ar ein strategaeth wres i Gymru. Ein nod yw datblygu system wres wedi’i datgarboneiddio sy'n cyflawni ein huchelgeisiau sero net. Rydym yn ymgynghori ar 6 amcan: Ein fframwaith galluogi - cefnogi pontio teg. Ein rhwydweithiau ynni - llunio dyfodol y cyflenwad gwres. Ein cartrefi - cynhesrwydd fforddiadwy i bawb. Ein busnes - cefnogi ein heconomi leol i ffynnu. Ein diwydiant - meithrin arloesedd a buddsoddiad. Ein gwasanaethau cyhoeddus -...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.