BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

961 canlyniadau

Mae Innovate UK, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, yn buddsoddi hyd at £25 miliwn yn y syniadau arloesol gorau a mwyaf blaenllaw, a gynlluniwyd ar gyfer masnacheiddio cyflym, llwyddiannus. Mae angen i syniadau fod yn wirioneddol newydd a chyfoes, ac nid aflonyddu yn eu sector nhw’n unig. Rhaid i'ch cynnig fod yn canolbwyntio ar fusnes, gyda chynlluniau realistig a chyflwynadwy, ac ag adnoddau digonol i gyflawni elw ar fuddsoddiad, twf a chyfran...
Mae’r system newydd yn cymryd lle’r broses o wneud cynnig i newid prisiad eich eiddo annomestig. Mae rheoliadau wedi’u pasio yn y Senedd sy’n galluogi Cymru i symud ymlaen i ddefnyddio’r broses Gwirio, Herio ac Apelio. O 01 Ebrill 2023 ymlaen, bydd yn ofynnol i dalwyr ardrethi yng Nghymru ddilyn y broses Gwirio, Herio, Apelio ac i ddefnyddio gwasanaeth digidol Gwirio a Herio Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA). Mae talwyr ardrethi yn gallu creu Cyfrif...
Amaethyddiaeth sydd â'r gyfradd waethaf o farwolaethau ac anafiadau (fesul 100,000 o weithwyr) o bob sector ym Mhrydain Fawr. Digwyddiadau’n ymwneud â cherbydau yw'r prif achos o farwolaethau ar ffermydd Prydain, gan ladd 48 o bobl yn y 5 mlynedd diwethaf. Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi lansio'r ymgyrch 'Work Right Agriculture. Your farm. Your future’. Mae'n tynnu sylw at gyngor syml ar ddiogelwch cerbydau i helpu i gadw pawb ar y fferm...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi gŵyl banc ychwanegol ar gyfer 2023 i nodi coroni Ei Fawrhydi’r Brenin Siarl III. Bydd gŵyl y banc ar ddydd Llun 8 Mai yn dilyn y coroni ar ddydd Sadwrn 6 Mai. Gwahoddir pobl ar draws y wlad a'r Gymanwlad i ddathlu Coroni Ei Fawrhydi y Brenin a'i Mawrhydi y Frenhines Gydweddog dros benwythnos o ddigwyddiadau arbennig rhwng 6 ac 8 Mai. Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch...
Bydd y Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn helpu cymunedau ledled y DU i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd ac yn ceisio lleihau ôl troed carbon cymunedau. Bydd cymunedau yn dangos beth sy’n bosibl pan mae pobl yn cymryd yr awenau er mwyn mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Ardal: Ledled y DU. Yn addas ar gyfer: Sefydliadau cymunedol a gwirfoddol, elusennau, y sector cyhoeddus, gweithio mewn partneriaethau. Maint yr ariannu: Hyd at...
Mae’r Porthladd Celtaidd yn Aberdaugleddau a Phort Talbot a Phorthladd Rhydd Ynys Môn wedi’u dewis fel porthladdoedd rhydd cyntaf Cymru, i helpu i greu degau o filoedd o swydd newydd yn niwydiannau gwyrdd y dyfodol, cyhoeddodd Llywodraethau Cymru a’r DU heddiw (22 Mawrth 2023). Ym mis Mai 2022, daeth Llywodraeth Cymru i gytundeb â Llywodraeth y DU i sefydlu rhaglen porthladdoedd rhydd yng Nghymru. Yn dilyn proses ymgeisio, mae Llywodraeth Cymru a’r DU wedi cytuno...
Mae Tŷ Cerdd yn dosbarthu cyllid y Loteri ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru i helpu sefydliadau i ddatblygu cerddora ym mhob genre mewn cymunedau ledled Cymru. Mae tair elfen - Creu, Ymgysylltu ac Ysbrydoli - yn cefnogi amrywiaeth o waith. Caiff eich sefydliad wneud cais i un, dau neu dri photyn ar yr un pryd os oes gynnoch chi weithgarwch sy’n gweddu i’r blaenoriaethau a’r canllawiau: Creu - Cronfa i gefnogi creu gwaith newydd gan...
Os ydych chi’n chwarae cerddoriaeth wedi’i recordio yn gyhoeddus neu yn eich busnes chi (yn cynnwys cerddoriaeth gefndir ar CD, radio neu sianel gerddoriaeth) bydd angen i chi gael trwydded o’r enw ‘TheMusicLicence’. Pwy sydd angen trwydded? Fel arfer bydd angen trwydded arnoch chi i chwarae cerddoriaeth fyw neu wedi’i recordio yn gyhoeddus - yn cynnwys mewn: siopau swyddfeydd a ffatrïoedd salonau trin gwallt a harddwch sinemâu a theatrau gwestai o bob math bwytai a...
Mae Cynnal Cymru yn arbenigwyr cynaliadwyedd yng Nghymru ac yn darparu cyngor, hyfforddiant a chysylltiadau i helpu’ch sefydliad i wneud penderfyniadau beiddgar am ddyfodol tecach a mwy diogel. Er mwyn i'ch busnes ffynnu, mae angen iddo fod yn addas ar gyfer y dyfodol - yn barod i ymdopi â heriau newid yn yr hinsawdd a’r cyflenwad o adnoddau naturiol, yn gallu denu a chadw staff, a chwarae rôl gadarnhaol yn eich cymuned. P’un ai a...
Cynhelir yr Wythnos Gwirfoddoli rhwng 1 a 7 Mehefin bob blwyddyn. Mae'n gyfle i gydnabod y cyfraniad gwych y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud i'n cymunedau a dweud diolch. Mae’r Wythnos Gwirfoddoli yn cael ei chefnogi a'i dathlu gan sefydliadau bach ar lawr gwlad yn ogystal ag elusennau mwy, adnabyddus, sydd gyda'i gilydd yn cynnal cannoedd o weithgareddau ledled y DU. Mae'r gweithgareddau hyn yn arddangos ac yn dathlu gwirfoddolwyr a'r cyfraniad y mae gwirfoddoli...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.