BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

971 canlyniadau

Happy Yoga Wales
Mae Busnes Cymru wedi mynd y tu hwnt i’m disgwyliadau o bell ffordd. Bob tro y byddaf yn credu fy mod wedi defnyddio eu gwasanaethau i gyd, rwy’n dod o hyd i wasanaeth arall sy’n fy helpu i ddatblygu fy musnes. Gyda dros 20 mlynedd o brofiad mewn addysgu, penderfynodd Paula Roberts ddilyn ei huchelgais o redeg ei busnes ioga ei hun. Dechreuodd Happy Yoga Wales ym mis Mehefin 2020, ond er mwyn sicrhau ei...
Mae Fast Growth 50 yn mynd yn genedlaethol! Ers 1999, mae Fast Growth 50 wedi bod yn gweithio gyda'r cwmnïau twf cyflym sy’n perfformio orau yng Nghymru, gan gydnabod eu llwyddiannau a'u helpu i wneud gwahaniaeth i economi Cymru. Mae cwmnïau twf cyflym - sydd fel arfer yn cael eu diffinio fel cyflawni twf o 20% y flwyddyn - yn ffurfio llai nag 1% o boblogaeth fusnes y DU ond yn cynrychioli 50% o gyfanswm...
Mae #LlaisAwards, sef Gwobrau Merched Cymru Mewn Busnes 2023 yn agored i unrhyw ferch sy'n rhedeg busnes yma yng Nghymru. Categorïau #LlaisAwards 2023 yw: Busnes Newydd (llai 'na 12 mis oed) Mam Mewn Busnes Busnes Gwyrdd (busnes sy'n hybu'r amgylchedd) Dan 25 oed Pencampwr Manwerthu Menter Gymdeithasol Bwyd a Diod Defnydd o'r Gymraeg Iechyd, Ffitrwydd a Lles Gwyddoniaeth, Technoleg ac Arloesedd Gwallt a Harddwch Ffotograffiaeth, Celf a Dylunio Hamdden a Thwristiaeth Does dim rhaid i...
Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James wedi dweud y bydd pwerau newydd i ymdrin â llygredd aer a sŵn yn arwain at Gymru lanach, iachach a gwyrddach. Cyflwynwyd Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) gerbron y Senedd ddydd Llun 20 Mawrth 2023, gan roi mwy o allu i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â llygredd aer a sŵn. Mae'r Bil newydd yn rhan o becyn o fesurau i wella ansawdd yr amgylchedd aer...
Gall gweithwyr unigol fod mewn mwy o berygl o niwed gan nad oes ganddyn nhw unrhyw un i'w helpu na'u cefnogi os bydd pethau'n mynd o'i le. Dylai cyflogwyr ddarparu hyfforddiant, goruchwyliaeth, monitro a chymorth i'r rheiny sy'n gweithio ar eu pennau eu hunain. Mae taflen am ddim i'w lawrlwytho yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, Protecting lone workers: How to manage the risks of working alone, ar gyfer unrhyw un sy'n cyflogi gweithwyr unigol...
Cynhelir Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd rhwng 27 Mawrth a 2 Ebrill 2023. Anogwch eich gweithle i gefnogi Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd 2023; thema eleni yw lliw. Mae Spectrum Colour Challenge rhithwir hefyd, sy’n cynnwys syniadau ar gyfer codi arian. Ymunwch â'r National Autistic Society i gefnogi'r 700,000 o bobl awtistig yn y DU. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddoleni ganlynol Employing autistic people (autism.org.uk) Autism-friendly guides Wales (autism.org.uk)
Mae Llywodraeth y DU wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer Yswiriant Gwladol gwirfoddol i 31 Gorffennaf 2023 i roi mwy o amser i drethdalwyr lenwi bylchau yn eu record Yswiriant Gwladol a helpu i gynyddu'r swm y maen nhw'n ei dderbyn ym Mhensiwn y Wladwriaeth. Daw hyn wedi i aelodau'r cyhoedd leisio pryder dros y dyddiad cau blaenorol, sef 5 Ebrill 2023. Mae gan unrhyw un sydd â bylchau yn eu cofnod Yswiriant Gwladol...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddodd cyllid newydd er mwyn helpu i gynnal a chryfhau cysylltiadau busnes, economaidd ac ymchwil Cymru gyda rhanbarthau Ewropeaidd, a hynny yn dilyn i’r DU adael yr UE. Bydd rhaglen Llywodraeth Cymru, Cymru Ystwyth yn cefnogi busnesau a sefydliadau Cymru i ddatblygu cydweithredu economaidd yn ardal Môr Iwerddon a chyda rhanbarthau Ewropeaidd eraill. Dros y 12 mis nesaf, bydd y rhaglen yn dyrannu grantiau i fusnesau a sefydliadau yng Nghymru er...
Ar ôl ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin, a symud i Gymru, roedd Oleksandra Ivanchenko yn benderfynol o ailddechrau ei busnes, Mimimade.ua, sy’n cynhyrchu teganau meddal ac yn eu gwerthu. Gan ei bod yn gorfod dechrau ei busnes eto o’r newydd, cysylltodd â Busnes Cymru am gefnogaeth dechrau busnes, gan ei galluogi i ailadeiladu ei busnes yng Nghymru. Cafodd gefnogaeth ei chynghorwr gyda chyllid, trethi a marchnata, yn ogystal â darparu mynediad at y cyfieithiad...
Bydd Wythnos Genedlaethol Bywyd a Gwaith 2023 yn cael ei chynnal rhwng 2 Hydref ac 6 Hydref. Mae’r wythnos yn gyfle i gyflogwyr a gweithwyr ganolbwyntio ar les yn y gwaith, a’r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Gall cyflogwyr ddefnyddio’r wythnos i ddarparu gweithgareddau i’w staff, ac i arddangos eu polisïau a’u harferion gwaith. I gael rhagor o wybodaeth ac adnoddau ewch i wefan Working Families | National Work Life Week - Working Families

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.