BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ardrethi Annomestig - Rhyddhad Dewisol a Rhyddhad Caledi

Ynglŷn â’r canllawiau hyn 

Mae’r canllawiau hyn yn rhoi gwybodaeth i dalwyr ardrethi ac awdurdodau lleol am ryddhad dewisol a rhyddhad caledi. I Gymru yn unig y mae’n gymwys ac nid yw’n disodli unrhyw ddeddfwriaeth bresennol ynglŷn ag ardrethi annomestig nac unrhyw rhyddhad arall. 

Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y rhyddhad at yr awdurdod lleol perthnasol. Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y canllawiau hyn a’r ddeddfwriaeth berthnasol at Lywodraeth Cymru i’r cyfeiriad e-bost canlynol: PolisiTrethiLleol@llyw.cymru

Mae nifer o ryddhadau ardrethi annomestig eraill ar gael hefyd.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein  tudalennau gwe Busnes Cymru.

Cyflwyniad

Mae gan awdurdodau lleol nifer o bwerau i ddyfarnu rhyddhadau dewisol i dalwyr ardrethi. Os bydd awdurdod lleol yn penderfynu cynnig rhyddhad, mae’n arfer da ei ddyfarnu ar sail meini prawf cymhwysedd sydd ar gael ar wefan yr awdurdod lleol.

Mae’r canllawiau hyn yn rhoi rhagor o wybodaeth am y pwerau canlynol sydd ar gael i awdurdodau lleol ddyfarnu rhyddhad dewisol:

  • Rhyddhad caledi;
  • Rhyddhad dewisol cyffredinol; a
  • Rhyddhad dewisol i sefydliadau sydd â budd cyhoeddus;     

Rhyddhad caledi

O dan adran 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (Deddf 1988), mae gan awdurdodau lleol bwerau i roi rhyddhad o hyd at 100% i dalwr ardrethi sy’n profi caledi:

  • os byddai’r talwr ardrethi yn wynebu caledi pe na bai’r awdurdod lleol yn dyfarnu rhyddhad; 
  • os yw’n rhesymol i’r awdurdod lleol wneud hynny, ar ôl rhoi sylw i fuddiannau trethdalwyr lleol. 

Rhaid i awdurdodau lleol hefyd eu bodloni eu hunain bod y rhyddhad yn cydymffurfio â’r rheolau Rheoli Cymorthdaliadau. 

Efallai y bydd awdurdodau lleol am ddyfarnu rhyddhad o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • Lle mae sefydliad neu fusnes wedi dioddef neu’n mynd i ddioddef caledi ariannol oherwydd ffactorau allanol penodol. Er enghraifft, efallai y bydd busnes yn colli masnach yn sgil difrod llifogydd. Efallai y bydd awdurdod lleol am ofyn am dystiolaeth i gefnogi hyn, e.e. cyfrifon busnes.
  • Lle y gellir diogelu rhagolygon cyflogaeth mewn ardal neu amwynder penodol drwy ddyfarnu rhyddhad.
  • Lle y byddai effaith andwyol ar fuddiannau trethdalwyr yn y byrdymor neu’r hirdymor pe na bai rhyddhad yn cael ei roi. Mae’n bosibl y bydd yr achos dros leihau’r ardrethi sy’n daladwy neu dros beidio â’u codi, at ei gilydd, yn bwysicach na’r gost gyffredinol i drethdalwyr.

Rhyddhad dewisol cyffredinol 

Mae adran 47 o Ddeddf 1988 hefyd yn darparu pŵer mwy cyffredinol i awdurdodau lleol roi rhyddhad dewisol. 

Mae hyn yn caniatáu i awdurdodau lleol roi rhyddhad ardrethi dewisol pe bai’n rhesymol gwneud hynny ar ôl rhoi sylw i fuddiannau trethdalwyr lleol. Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ysgwyddo cost lawn unrhyw ryddhad a roddir o dan y pwerau hyn. Bwriadwyd i’r darpariaethau alluogi awdurdodau lleol i roi rhyddhad i dalwyr ardrethi er mwyn adlewyrchu amgylchiadau lleol penodol nad ydynt wedi’u cwmpasu gan unrhyw un o’r cynlluniau gorfodol. Mae’r pwerau yn ychwanegol at bwerau awdurdodau lleol i roi rhyddhad mewn achosion o galedi. 

Nid yw Deddf 1988 yn nodi unrhyw feini prawf cymhwyso ar gyfer rhyddhad o’r fath. Fodd bynnag, mae disgwyliad o dan gyfraith gyhoeddus i sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu gwneud mewn modd teg a chyson.

Felly, mae’n arfer da i awdurdodau lleol gytuno ar bolisi ar ddyfarnu rhyddhad dewisol o dan y pwerau hyn a chyhoeddi’r polisi hwnnw.

Nid yw’r rhyddhad dewisol hwn wedi’i gyfyngu i sefydliadau nid er elw. Gall awdurdodau lleol ddefnyddio’r pwerau i roi rhyddhad ardrethi i unrhyw dalwr ardrethi yn ei ardal ac mae ganddo ddisgresiwn llwyr o ran sut mae’n penderfynu p’un a ddylid rhoi rhyddhad ac ar ba sail – bwriedir i’r pŵer disgresiwn alluogi pob awdurdod lleol i ystyried anghenion ac amgylchiadau lleol.

Rhyddhad dewisol i sefydliadau sydd â budd cyhoeddus

Fel yr amlinellwyd ym yn yr adran ar ryddhad elusennol, mae Deddf 1988 yn darparu bod gan elusennau a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol yr hawl i gael rhyddhad gorfodol.

Pennir lefel y rhyddhad elusennol gorfodol ar 80% a gellir ychwanegu at y rhyddhad hwn hyd at 100% yn ôl disgresiwn yr awdurdod bilio. 

Mae adran 47 o Ddeddf 1988 hefyd yn darparu y gall awdurdodau roi rhyddhad dewisol cyffredinol o hyd at 100% mewn achosion lle mae’r eiddo: 

  • yn cael ei feddiannu gan un neu ragor o sefydliadau a sefydlir neu a gynhelir at ddibenion nid er elw ac y mae eu prif amcanion yn rhai elusennol neu sydd fel arall yn haelionus neu’n grefyddol neu sy’n ymwneud ag addysg, lles cymdeithasol, gwyddoniaeth, llenyddiaeth neu’r celfyddydau cain; neu
  • sy’n cael ei ddefnyddio’n gyfan gwbl neu’n bennaf at ddibenion hamdden, ac sy’n cael ei feddiannu’n gyfan gwbl neu’n rhannol at ddibenion clwb, cymdeithas neu sefydliad arall nad yw wedi cael ei sefydlu na’i gynnal er elw.

Os dyfernir rhyddhad ar y sail hon, mae Llywodraeth Cymru yn talu 90% o’r gost ac mae’r awdurdod dyfarnu yn talu’r 10% arall. Mae’n rhaid i unrhyw ryddhad a ddyfernir fod er budd y gymuned leol a’r trethdalwyr lleol yn yr awdurdod sy’n dyfarnu’r rhyddhad.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.