BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

BOSS Amodau a thelerau’r wefan

Amodau a thelerau’r wefan

Rheolir businesswales.gov.uk/boss/cy gan Lywodraeth Cymru: sef ‘Ni’ isod. Drwy ymweld â’r wefan hon, rydych chi fel defnyddiwr ‘(‘Chi’) yn derbyn y telerau ac amodau hyn. Cafodd y dudalen hon ei diweddaru ddiwethaf, 1 Hydref 2012.

Mae gwasanaethau cymorth busnes Llywodraeth Cymru, yn cynnwys businesswales.gov.uk/boss/cy ar gael i chi at ddibenion defnydd ac edrych personol. Mae cyrchu a defnyddio businesswales.gov.uk/boss/cy gyda’r amodau a’r telerau hyn yn arwydd eich bod yn derbyn yr amodau a’r telerau hyn. Byddant yn weithredol o’r dyddiad i chi ddefnyddio’r wefan hon gyntaf.

Rydych chi’n cytuno i ddefnyddio’r safle hwn at ddibenion cyfreithiol yn unig, ac mewn modd nad yw’n tramgwyddo hawliau, yn cyfyngu nad yn atal defnydd na mwynhad y safle hwn gan unrhyw drydydd parti. Mae’r cyfryw gyfyngiad neu ataliad yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy’n anghyfreithlon, neu a allai aflonyddu neu achosi trallod i unrhyw berson, a throsglwyddiad cynnwys anllad neu dramgwyddus neu amharu ar lif deialog arferol o fewn y safle hwn.

Fe’ch gwaherddir chi rhag postio neu drosglwyddo drwy’r wefan hon unrhyw ddeunydd anghyfreithlon, enllibus, anllad, tramgwyddus na gwarthus neu unrhyw ddeunydd sydd yn, neu sy’n annog, ymddygiad y gellid ei ystyried yn weithred droseddol, sy’n debygol o arwain at atebolrwydd neu rwymedigaeth sifil, neu sydd fel arall yn torri unrhyw gyfraith. Gwnawn gydweithredu’n llawn gydag unrhyw awdurdodau gorfodi’r gyfraith neu orchymyn llys sy’n gofyn neu yn ein cyfarwyddo ni i ddatgelu hunaniaeth unrhyw un sy’n gosod unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau o’r math ar y wefan

Eich Gwybodaeth chi a'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

Mae darpariaethau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn berthnasol i ni. Mae hyn yn golygu ei bod yn bosib y bydd yn rhaid i ni ddatgelu gwybodaeth sydd gennym ni, gan gynnwys unrhyw wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni, os cawn gais rhyddid gwybodaeth. Os gofynnir i ni roi unrhyw wybodaeth a roddwyd i ni gennych chi, byddwn fel arfer yn ymgynghori â chi er mwyn gweld pa niwed, os o gwbl, fyddai'n cael ei achosi o ddatgelu'r wybodaeth i'r cyhoedd.

Oni nodir fel arall yn y Polisi Preifatrwydd hwn, ni fyddwn yn rhannu'r wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i ni ag unrhyw drydydd parti, oni bai am yr amgylchiadau canlynol:

  • bod dyletswydd arnom ni i ddatgelu neu rannu'r wybodaeth er mwyn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad cyfreithiol (e.e. Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000);
  • er mwyn gorfodi neu weithredu ein Telerau Defnyddiwr ac unrhyw gytundebau perthnasol eraill;
  • i warchod hawliau, eiddo neu ddiogelwch eraill;
  • os byddwn yn rhoi neu'n trosglwyddo'r gwaith allanol o rheoli a/neu weithredu'r Wefan hon neu rannau ohoni i drydydd parti, i alluogi'r trydydd parti hwnnw i barhau i ddarparu mynediad i chi i'r Wefan neu i unrhyw un o'r gwasanaethau a ddarperir gan y Wefan.

Gosod dolenni i business.wales.gov.uk/boss neu o business.wales.gov.uk/boss

Rydym yn croesawu ac yn annog gwefannau eraill i osod dolenni i’r wybodaeth sy’n gynwysedig ar y tudalennu hyn, ac nid oes angen i chi ofyn caniatâd i gysylltu â businesswales.gov.uk/boss/cy.

Fodd bynnag, nid ydym yn rhoi caniatâd i chi awgrymu fod eich gwefan yn gysylltiedig â neu wedi ei chymeradwyo gan businesswales.gov.uk/boss/cy 

Pan fo’n safle’n cynnwys dolenni cyswllt i wefannau eraill ac adnoddau a ddarperir gan unrhyw drydydd parti, darperir y cysylltiadau hyn er eich gwybodaeth yn unig. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y safleoedd na’r adnoddau hyn, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt nac am unrhyw golled neu niwed y gellid ei achosi o’ch defnydd chi ohonynt.

Defnyddio cynnwys busnes.cymru.gov.uk/boss

Cyhoeddir businesswales.gov.uk/boss/cy drwy'r Trwydded Llywodraeth Agored, a chewch atgynhyrchu gwybodaeth o’r safle cyn belled â’ch bod yn cadw at delerau’r drwydded honno.

Mae’r deunydd ar y safle hwn wedi ei ddiogelu gan hawlfraint y Goron oni nodir yn wahanol. Darllenwch dudalen hawlfraint y Goron am wybodaeth bellach.

Mae’r enwau, y delweddau a’r logos sy’n dynodi Llywodraeth Cymru yn nodau perchnogol i Lywodraeth Cymru. Ni chaniateir copïo na defnydd o’r logo a/neu unrhyw logos trydydd parti eraill a gyrchir drwy’r wefan hon heb gymeradwyaeth ymlaen llaw perchennog yr hawlfraint berthnasol.

Dylid cyfeirio unrhyw geisiadau am ganiatâd i ddefnyddio logo Llywodraeth Cymru at Dîm Brandio Cyfathrebu Corfforaethol Llywodraeth Cymru.

E-bost: brandingqueries@gov.wales

Ymwadiad

Darperir gwefan businesswales.gov.uk/boss/cy a’r deunydd sy’n ymwneud â gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau llywodraeth (neu i wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau trydydd parti) ‘fel y mae’, heb unrhyw gymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath boed hynny’n benodol neu’n oblygedig yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu, i’r gwarantau goblygedig o addasrwydd, sicrwydd, cyflawnder a chywirdeb, safon ddigonol, addasrwydd at ddiben penodol, heb dor-cyfraith.

Nid ydym yn gwarantu nac yn arddel, y bydd y swyddogaethau a gynhwysir yn y deunydd sydd ar gael ar y wefan hon heb amhariad neu wallau, y caiff diffygion eu cywiro, neu y bydd y safle neu’r gweinydd sy’n sicrhau ei fod ar gael yn rhydd rhag firysau neu’n cynrychioli swyddogaeth, gywirdeb neu ddibynadwyedd llawn y deunyddiau.

Ni fyddwn, o dan unrhyw amgylchiadau, yn atebol am unrhyw draul, golled neu ddifrod yn cynnwys, yn ddigyfyngiad, golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ôl-ddilynol neu unrhyw draul, golled neu ddifrod sy’n codi o ddefnydd, neu golled defnydd, unrhyw ddata, neu golled elw, yn sgil neu mewn perthynas â defnydd businesswales.gov.uk/boss/cy neu unrhyw ddibyniaeth ar ei gynnwys.

Ni ellir gwarantu fod unrhyw drosglwyddiadau data dros y rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Tra fyddwn yn gwneud pob ymdrech i ddiogelu gwybodaeth o’r fath, nid ydym yn gwarantu ac ni allwn sicrhau diogelwch unrhyw wybodaeth a drawsyrrir gennych atom ni. Felly hefyd, eich cyfrifoldeb chi yw unrhyw wybodaeth a drawsyrrir gennych chi atom ni.

Ni ddylid defnyddio cynnwys gwefan businesswales.gov.uk/boss/cy yn lle cyngor proffesiynol annibynnol a dylai defnyddwyr sicrhau cyngor proffesiynol priodol a pherthnasol i’w hamgylchiadau neilltuol.

Fe allai’r deunydd gynnwys barn neu argymhellion gan drydydd partïon, nad ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu barn Llywodraeth Cymru, nac yn fynegiant o’i ymrwymiad i gamau gweithredu penodol. Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd a allai godi yn sgil deunydd o’r math gan drydydd parti.

Cyfraith berthnasol

Caiff yr amodau a’r telerau hyn eu llywodraethu a’u dehongli’n unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw ddadleuon a gyfyd yn sgil yr amodau a’r telerau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.

Diogelwch rhag firysau

Rydym yn gwneud ein gorau glas i wirio a phrofi deunydd yn ystod pob cam o’i gynhyrchu. Rhaid i chithau gymryd camau diogelwch eich hun i sicrhau nad yw’r prosesau a ddefnyddir gennych chi’n eich gwneud yn agored i risg feirysau, codau cyfrifiadur maleisus neu unrhyw ffurf arall o ymyrraeth a allai ddifrodi eich system gyfrifiadurol chi. Mae hi bob amser yn ddoeth i chi redeg rhaglen gwrth-feirysau ar bob deunydd a lawrlwythir o’r rhyngrwyd.

Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i’ch data neu i’ch system gyfrifiadurol a achosir drwy ddefnyddio deunydd sy’n deillio o'r wefan hon

Fe allwn ddiwygio’r amodau a’r telerau hyn ar unrhyw bryd heb rybudd. Dylech eu gwirio’n rheolaidd. Bydd parhau i ddefnyddio gwefan businesswales.gov.uk/boss/cy wedi newid yn arwydd eich bod yn derbyn y newidiadau.

Cyffredinol

Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am fethiant i gydymffurfio â’r telerau a’r amodau pan fo methiant o’r fath oherwydd amgylchiadau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth resymol ni.

Os ydym Ni’n ildio unrhyw hawliau sydd ar gael o dan yr amodau a’r telerau ar un achlysur, nid yw hynny’n golygu y caiff yr hawliau hynny eu hildio’n otomatig ar unrhyw achlysur arall.

Os ystyrir fod unrhyw rai o’r amodau a’r telerau na ellir eu gorfodi’n gyfreithiol neu’n annilys neu’n anghyfreithlon am unrhyw reswm, er hynny, bydd yr amodau a’r telerau sy’n weddill yn parhau’n llawn.

Preifatrwydd a chwcis

Polisi preifatrwydd busnes.cymru.gov.uk/boss

Ein nod yw sicrhau ein bod yn cadw at bolisi preifatrwydd cadarn. Dim ond at y dibenion canlynol yr ydym yn casglu gwybodaeth:

  • i’n helpu ni i wneud y wefan i weithio’n well i chi
  • i ni fedru cysylltu â chi pan fyddwch yn gofyn i ni wneud hynny
  • i’n galluogi ni i’ch hysbysu chi o’r newidiadau perthnasol i gymorth busnes os ydych wedi cofrestru i dderbyn ein cylchlythyrau
  • i’n galluogi ni i roi gwybodaeth leol gywir pan fyddwch ei hangen
  • i ni ddeall sut mae pobl yn defnyddio’r safle, er mwyn i ni fedru ei wella’n gyson

Yr wybodaeth a gesglir gennym

Rydym yn casglu’r wybodaeth ganlynol gan bobl sy’n ymweld â’r wefan:

  • y cwestiynau, yr ymholiadau a’r adborth a adewir gan bobl, yn cynnwys eich cyfeiriad e-bost pan fyddwch yn anfon e-bost atom
  • manylion personol a busnes cryno (eich enw chi, enw eich busnes, cyfeiriad e-bost a rhanbarth
  • cyfeiriadau IP ymwelwyr, a manylion y porwr a ddefnyddiwyd ganddynt
  • gwybodaeth o’r modd y bydd pobl yn defnyddio’r safle, gan ddefnyddio cwcis a thechnegau tagio tudalennau

Os byddwch yn anfon adborth atom, byddwn yn cadw cofnod o’ch neges.

Mwy am cwcis

Mae businesswales.gov.uk/boss/cy yn defnyddio ffeiliau data bychain sydd wedi eu storio ar eich cyfrifiadur a elwir yn ‘cwcis’. Mae’r rhan fwyaf o wefannau mawr yn gwneud hyn. Maent yn ein helpu ni i wella eich profiad chi o’n gwefan. Darllenwch at ba ddibenion y byddwn yn eu defnyddio, a sut i reoli eu defnydd ar ein tudalen cwcis

Sut fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth

Defnyddir unrhyw wybodaeth a gasglwn i:

  • wella cynnwys a chynllun y wefan
  • cysylltu â chi (gyda’ch caniatâd) i ymateb i adborth
  • cysylltu â chi drwy’n cylchlythyrau i anfon gwybodaeth atoch am gymorth posibl i’ch busnes, a newyddion sy’n gysylltiedig â hynny

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda chyrff eraill at ddibenion masnachol, marchnata nag ymchwil marchnad, ac ni fyddwn yn rhoi eich gwybodaeth bersonol i unrhyw wefan arall.

Cysylltu â gwefannau eraill

Mae’r wefan hon yn defnyddio dolenni i ac o wefannau adrannau llywodraeth a chyrff eraill. Rydym am ei gwneud hi’n glir bod y polisi preifatrwydd hwn (sef yr un yr ydych yn ei ddarllen) yn perthyn i wefan businesswales.gov.uk/boss/cy yn unig.

Dilyn dolen i wefan arall

Os ewch chi i wefan arall o’r wefan hon, darllenwch bolisi preifatrwydd y wefan honno os gwelwch yn dda os ydych am wybod beth fydd y wefan honno’n gwneud gyda’ch gwybodaeth.

Dilyn dolen i business.wales.gov.uk/boss o wefan arall

Pan fyddwch yn cyrraedd businesswales.gov.uk/boss/cy o wefan arall, mae’n bosib y cawn wybodaeth bersonol amdanoch gan y wefan honno. Dylech ddarllen bolisi preifatrwydd y gwefannau yr ewch iddynt sy’n cysylltu chi gyda businesswales.gov.uk/boss/cy os ydych eisiau gwybodaeth am hyn.

Cysylltu gyda business.wales.co.uk ac o business.wales.gov.uk/boss

Mae Llywodraeth Cymru’n croesawu ac yn annog gwefannau eraill i gysylltu â’r wybodaeth sy’n cael ei letya ar y tudalennau hyn, ac nid oes angen i chi ofyn caniatâd i gysylltu ag o.

Fodd bynnag, nid ydym yn eich caniatáu i chi awgrymu bod eich gwefan yn gysylltiedig â businesswales.gov.uk/boss/cy, nac yn cael ei gymeradwyo ganddoennym.

Pan fydd ein safle’n cynnwys dolenni i safleoedd ac adnodda a ddarperir gan unrhyw drydydd parti, darperir y dolenni hyn er eich gwybodaeth yn unig. Nid oes gennym reolaeth dros gynnwys y safleoedd hyn na’r adnoddau sydd arnynt, ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod a allai godi o’ch defnydd chi ohonynt.

Cynnwys sy’n cael ei bostio gennych ar business.wales.gov.uk/boss

Chi sy’n gyfrifol am yr holl gynnwys (yn cynnwys gwybodaeth, testun, lluniau, ffotograffau, negeseuon, adolygiadau, nodiadau, meddalwedd fideos, eich enw neu enw’r cwmni a ffeiliau neu ddeunyddiau eraill) yr ydych yn eu lanlwytho neu’n eu postio ar y safle neu’n eu cyfleu i ddefnyddwyr eraill drwy’r safle. Os nad y chi a greodd y cynnwys rydych yn eu postio neu’n ei roi ar gael fel arall ar y safle, eich cyfrifioldeb chi yw sicrhau eich bod wedi cael y caniatâd angenrheidiol gan berchennog y cynnwys i’w ddefnyddio ar y safle. Rydych chi’n gyfrifol, ar eich cost eich hun am greu copïau wrth gefn a darparu o’r newydd unrhyw gynnwys yr ydych yn ei lanlwytho neu’n ei bostio ar y safle neu’n ei roi i ni.

Er mwyn sicrhau fod holl ddefnyddwyr y safle’n gallu elwa’n llawn arno, byddai businesswales.gov.uk/boss/cy yn eich annog i lanlwytho’ch cynnwys fel y gwelwch yn dda. Fel bod eraill yn gallu cyrchu a manteisio ar eich cynnwys, mae angen i businesswales.gov.uk/boss/cy sicrhau fod ganddo’ch caniatâd i drefnu fod eich cynnwys ar gael. Rydych yn cytuno felly i roi i businesswales.gov.uk/boss/cy (fel darparwyr y safle), drwydded heb fod yn unigryw, drosglwyddadwy, ddi-freindal, fyd-eang i ddefnyddio unrhyw gynnwys yr ydych yn ei lanlwytho, ei bostio neu fel arall yn ei roi ar gael ar y safle.

Fe’ch gwaherddir chi rhag lanlwytho, postio neu fel arall drawsyrru unrhyw gynnwys (yn cynnwys ond heb fod wedi’i gyfyngu i destun, dolenni, negeseuon, meddalwedd, delweddau, sain, data, neu wybodaeth arall) sydd â chynnwys amhriodol fel a ganlyn:

  • unrhyw wybodaeth bersonol sy’n eiddo naill ai i’r sawl sy’n postio neu berson arall, megis enw llawn, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost personol;
  • sbam, megis hysbysebion i wefannau a gwasanaethau eraill, neu ddeisyfiad masnachol arall; llythyrau cadwyn, neu gynlluniau pyramid, polau neu ddeisebau;
  • gorlifo’r byrddau fforwm â phostio gormodol neu bostiau padio;
  • cabledd; deunydd sy’n enllibus, twyllodrus, anghyfreithlon, difenwol, pornograffig, anllad, cableddus, hiliol, rhywiaethol, difrïol, bygythiol, atgas neu’n annymunol fel arall;
  • trafodaeth am weithgareddau anghyfreithlon neu roi dolenni i wefannau eraill sy’n cynnwys gwybodaeth o’r fath;
  • trafodaethau sy’n troi oddi ar y pwnc, sydd heb fod yn gysylltiedig â datrys y pwnc dan sylw, sy’n hyrwyddo cynnyrch neu wasanaethau gan ddarparwyr eraill, neu’n difrïo unrhyw gwmni neu gynnyrch;
  • Cwynion ailadroddus neu barhaus am bolisi businesswales.gov.uk/boss/cy yn cynnwys honiadau o gam-drin preifatrwydd, defnyddio cyflenwyr trydydd parti neu unrhyw bolisi arall at unrhyw ddiben;
  • Trafodaethau am weithredoedd cymedrolwr ar y byrddau. Os ydych angen gwneud sylw am weithred cymedrolwr, cysylltwch â ni;
  • Postio neu drawsyrru unrhyw wybodaeth neu feddalwedd sy’n cynnwys feirws, mwydyn, Ceffyl Pren Troea, neu gydran niweidiol neu ddinistriol arall;
  • Postio dolen sy’n cyfeirio’r defnyddiwr at unrhyw wybodaeth neu gynnwys a fyddai, pe bai’n cael ei bostio ar y Safle, yn golygu torri’r Canllawiau neu’r Telerau Defnyddio.
  • “Bomio”’r safle neu linynnau unigol gyda phostiau ailadroddus neu ddiystyr, postio nad ydynt yn gysylltiedig â diben Fforymau businesswales.gov.uk/boss/cy; traws-bostio gormodol;
  • Ymosodiadau, yn cynwys “Fflamio” defnyddiwr neu endid arall mewn ffordd a fyddai’n ysgogi neu’n parhau dadl neu wrthdaro; creu enwau defnyddiwr i ymosod ar hunaniaethau defnyddwyr eraill; personadu unigolion eraill neu roi hunaniaeth neu gymwysterau ffug i chi’ch hun; postiau a wnaed o dan enwau defnyddwyr eilaidd neu ffugenwau eraill at ddiben naill ai cefnogi neu ddirmygu eraill; postiau sy’n torri preifatrwydd unrhyw gyfranogwr drwy gynnwys enw, cyfeiriad, ffôn, cyfeiriad e-bost, neu unrhyw wybodaeth arall sy’n dangos pwy ydynt.
  • Osgoi gwaharddiadau neu ataliadau neu fel arall diystyru cyfarwyddiadau gan gymedrolwyr neu weinyddwyr.

Mae businesswales.gov.uk/boss/cy yn cadw’r hawl i gymryd y camau angenrheidiol os ydych yn ymgymryd ag unrhyw un o’r gweithgareddau a ddisgrifiwyd uchod.

Rydych yn cytuno i indemnio businesswales.gov.uk/boss/cy yn erbyn pob hawliad ac achos sy’n codi yn sgil torri hawliau eiddo deallusol unrhyw drydydd parti o ganlyniad i gynnwys a bostiwyd gennych neu a roddwyd ar gael gennych ar y safle. Nid yw’r indemniad hwn yn berthnasol i hawliadau neu achosion sy’n codi o ddefnydd businesswales.gov.uk/boss/cy o’ch cynnwys heblaw yn unol â’r Telerau hyn. Gall businesswales.gov.uk/boss/cy dynnu’ch cynnwys ar unrhyw adeg heb rybudd.

Ymddygiad Defnyddwyr

Rydych chi’n cytuno i beidio â defnyddio’r safle hwn (neu unrhyw ran ohono) i:

  • weithredu mewn unrhyw ffordd sy’n anghyfreithlon neu’n ddifenwol, yn groes i unrhyw drwydded, hawliau trydydd parti, neu yn groes i unrhyw ganllawiau y gall businesswales.gov.uk/boss/cy eu rhoi i chi;
  • difrodi, analluogi, gorlwytho neu effeithio ar weithrediad y safle;
  • casglu cyfeiriadau ebost neu wybodaeth gyswllt arall gan ddefnyddwyr eraill o’r safle drwy unrhyw fodd at ddibenion anfon e-byst digymell neu negeseuon digymell eraill;
  • ceisio gwybodaeth bersonol, cyfrineiriau neu unrhyw wybodaeth arall sy’n dangos pwy yw rhywun at ddibenion masnachol neu anghyfreithlon;
  • ceisio pobl i gymryd rhan mewn trafodaeth gyhoeddus, dadl, sylw neu weithgaredd y tu allan i’r safle hwn;
  • eich cofrestru’ch hun ar fwy nag un cyfrif, neu gofrestru ar ran unigolyn neu grŵp arall heb ein caniatâd ysgrifenedig;
  • rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol amdanoch chi neu’ch busnes, neu greu hunaniaeth ffug; neu
  • ddefnyddio neu geisio defnyddio cyfrif, gwasanaeth neu system rhywun arall heb awdurdodiad ysgrifenedig ymlaen llaw gan businesswales.gov.uk/boss/cy.

Mae businesswales.gov.uk/boss/cy yn ystyried unrhyw gamddefnydd o’r safle yn fater difrifol iawn ac felly rydych yn cytuno i gymryd pob cam sydd ei angen i sicrhau nad ydych yn camddefnyddio’r safle. Os yw businesswales.gov.uk/boss/cy yn rhesymol gredu eich bod wedi camddefnyddio’r safle (neu unrhyw ran ohono) mewn unrhyw ffordd, yna gall businesswales.gov.uk/boss/cy  derfynu’ch cofrestriad, tynnu’ch cynnwys, a/neu atal neu derfynu’ch mynediad i’r safle heb rybudd. Ni fydd businesswales.gov.uk/boss/cy o dan unrhyw rwymedigaeth o gwbl i adfer eich cofrestriad.

Rydych yn cytuno i indemnio businesswales.gov.uk/boss/cy ac unrhyw 3ydd parti sy’n cael ei effeithio yn erbyn bob ffi gyfreithiol, iawndal a threuliau eraill y gallwn eu hysgwyddo’n rhesymol o ganlyniad i gamddefnyddio’r safle (neu ran ohono).

Os credwch fod unrhyw gynnwys a ddangoswyd neu a roddwyd ar gael ar y safle yn cynnwys unrhyw un o’r tramgwyddau uchod, yna rhoch wybod i businesswales.gov.uk/boss/cy drwy’n tudalen gyswllt a ddangosir ar y safle.

Mae businesswales.gov.uk/boss/cy yn cadw’r hawl i reoli’r hyn sy’n cael ei bostio ar fforymau boss er mwyn cyflwyno’r wybodaeth mewn ffordd drefnus. Er mwyn rheoli’r safle’n effeithiol, gall  businesswales.gov.uk/boss/cy ddynodi gweithwyr neu eraill i weithredu fel cymedrolwyr a gweinyddwyr y safle (“Cymedrolwyr”). Y Cymedrolwyr hyn yw unig gynrychiolwyr businesswales.gov.uk/boss/cy sydd wedi’u hawdurdodi i reoli fforymau boss. Nid oes awdurdod gan unrhyw weithwyr Llywodraeth Cymru sydd heb eu dynodi’n Gymedrolwyr neu Gyflogeion i’w cynrychioli eu hunain ar y safle fel cyflogeion Llywodraeth Cymru. Caiff gweithwyr Llywodraeth Cymru sydd wedi’u hawdurdodi eu hadnabod gan y term “Cyflogai” a/neu logo boss swyddogol fel Rhithffurf. Nid yw businesswales.gov.uk/boss/cy  yn gyfrifol am gynnwys a roddwyd gan unrhyw un o weithwyr Llywodraeth Cymru na chafodd eu dynodi’n Gymedrolwr neu Gyflogai.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.