Yn cyflwyno Sesiynau Arbenigol Amrywiaeth Busnes Cymru; dwy sesiwn a fydd yn archwilio manteision creu gweithlu amrywiol a'r strategaethau gorau ar gyfer recriwtio a chadw staff.
Yn ystod pob sesiwn rithiol, bydd ein harbenigwyr amrywiaeth yn darparu cyngor a chymorth i'ch helpu chi i oresgyn y sialensiau hyn, a chreu gweithlu mwy amrywiol.
Gwyliwch y sesiynau isod ac yna lawrlwytho ein pecyn adnoddau sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am fanteision cynhwysiant ac amrywiaeth mewn busnes i’ch galluogi i gymryd camau cadarnhaol i roi newid ar waith yn eich busnes chi.
Busnes Cymru Sesiynau Arbenigol
Rydym yn gwybod bod adeiladu gweithlu amrywiol yn dda i’ch busnes, ond peidiwch â chymryd ein gair ni’n unig. Gwrandewch ar yr hyn sydd gan Chef Marezana i’w ddweud am yr effaith mae cael proses recriwtio agored a rhydd wedi ei chael ar ei fusnes:
Gallwn hefyd gynnig sesiynau cyngor un i un, felly, os ydych chi'n cael eich ysbrydoli gan yr hyn rydych yn ei wylio, cysylltwch â’r tîm i drefnu'ch sesiwn rhad ac am ddim gydag un o’n hymgynghorwyr busnes arbenigol.