Os ydych chi'n awyddus i feithrin a chadw gweithlu mwy amrywiol a chynhwysol, dyma'r sesiwn arbenigol i chi. O recriwtio i gadw staff, bydd ein harbenigwyr yn eich tywys chi trwy'r camau y mae angen eu cymryd i sicrhau bod eich busnes yn deg, yn gynhwysol ac yn gyfartal.
Byddwn ni'n amlinellu Addewid Cydraddoldeb Busnes Cymru hefyd, a manteision posibl hyn ar gyfer eich busnes.
Mae ein siaradwyr yn cynnwys:
- Selima Bahadur, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig
- Gayle Budden and Edward Morgan, Castell Howell
- Donna Ali, BE.Xcellence
Dogfennau
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch cymorthbusnes@llyw.cymru . Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cysylltwch â ni
Cysylltwch â ni i gael sgwrs un i un gyda chynghorydd arbenigol ynghylch y camau rhagweithiol y gall eich busnes eu cymryd i ddatblygu gweithlu mwy cynhwysol ac amrywiol
Cymerwch ran yn y sgwrs ar Twitter: #BCSesiynauArbenigol