BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Canllawiau ar Ryddhad Ardrethi Gorfodol a Dewisol a Chynlluniau Gostyngiadau yng Nghymru: Elusennau, Sefydliadau Nid Er Elw, Eiddo Gwag ac Eraill

Canllawiau

Ynglŷn â’r canllawiau hyn 

Mae’r ddogfen hon yn rhoi canllawiau ar ryddhad ardrethi gorfodol a dewisol a chynlluniau gostyngiadau ardrethi. I Gymru yn unig y mae’r canllawiau hyn yn gymwys. 

Nid yw’r canllawiau yn disodli unrhyw ddeddfwriaeth bresennol ynglŷn ag ardrethi annomestig nac unrhyw ganllawiau ar ryddhadau nas nodwyd yn y canllawiau hyn (e.e. rhyddhad ardrethi i fusnesau bach). 

Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y canllawiau hyn i: 
LocalTaxationPolicy@llyw.cymru

Cangen Polisi Ardrethi Annomestig
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd 
CF10 3NQ

Mae nifer o ryddhadau ardrethi gorfodol a dewisol eraill ar gael hefyd ac maent yn rhoi cymorth ar gyfer mathau penodedig o eiddo.

Mae ein  tudalennau gwe Busnes Cymru yn rhoi gwybodaeth i drethdalwyr am gynlluniau rhyddhad ardrethi.

Cyflwyniad

Diben y ddogfen hon yw rhoi gwybodaeth gyffredinol a chanllawiau i awdurdodau bilio mewn perthynas â dyfarnu rhyddhad gorfodol a dewisol a gostyngiadau ar gyfer ardrethi annomestig o dan Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (Deddf 1988) (fel y’i diwygiwyd). Mae’n cwmpasu’r cynlluniau sydd ar gael i gyrff elusennol, sefydliadau nid er elw eraill, eiddo gwag, eiddo a feddiannir yn rhannol, caledi a rhyddhad dewisol lleol.
  
Mae polisi ardrethi annomestig wedi’i ddatganoli i Gymru ers 1999. Trysorlys EM fu’n gyfrifol am reoli cyllidol ardrethi annomestig tan 1 Ebrill 2015 pan drosglwyddwyd y cyfrifoldeb hwn hefyd i Lywodraeth Cymru. Arweiniodd hyn at newidiadau i’r trefniadau cyllidebol ar gyfer ardrethi annomestig yng Nghymru. Ers y dyddiad hwn, mae refeniw’r ardrethi a gesglir yng Nghymru yn effeithio’n uniongyrchol ar y swm o gyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Caiff holl refeniw ardrethi annomestig a godir yng Nghymru ei ddosbarthu i lywodraeth leol drwy’r setliadau blynyddol er mwyn cefnogi gwariant ar wasanaethau lleol. Caiff yr holl drafodion sy’n ymwneud ag ardrethi annomestig eu rheoli gan Lywodraeth Cymru drwy gronfa ardrethi annomestig Cymru.

Gofynnir i awdurdodau adolygu eu harferion presennol mewn perthynas â rhyddhad ardrethi, gan ystyried arfer da fel yr amlinellwyd yn y ddogfen hon. Cyfrifoldeb pob awdurdod yw barnu p’un a yw’r meini prawf yn y canllawiau hyn yn gymwys ym mhob achos a pha bwys, os o gwbl, y dylid ei roi arnynt. 

Mae’r canllawiau hyn yn cwmpasu rhyddhadau gorfodol a dewisol. Bydd y ffordd y mae awdurdod yn dyfarnu rhyddhad ardrethi dewisol yn dibynnu ar yr amgylchiadau lleol a chyfansoddiad ei sylfaen drethu. 

Mae’r darpariaethau sy’n llywodraethu sut yr ariennir y gwahanol ryddhadau wedi’u nodi yn Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 (y Rheoliadau). Mae’r Rheoliadau yn nodi’r ganran a ariennir drwy’r gronfa ardrethi annomestig a’r ganran a ysgwyddir gan yr awdurdod ar gyfer pob math o ryddhad. Mae Atodiad A yn cynnwys tabl cryno o’r wybodaeth allweddol ar gyfer pob cynllun rhyddhad. 

Cyhoeddir y canllawiau hyn o dan bwerau sydd ar gael i Weinidogion Cymru yn adran 47(5D) o Ddeddf 1988 mewn perthynas â rhyddhad dewisol. Mae Gweinidogion Cymru hefyd yn arfer eu pŵer i gyhoeddi’r canllawiau hyn o dan adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.