Nodiadau canllaw ar gyfer cais.
Sleidiau Cyflwyniad Gweminar Cronfa Paratoi at y Dyfodol.
Dogfen
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch cymorthbusnes@llyw.cymru . Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch cymorthbusnes@llyw.cymru . Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cwestiynau Cyffredin
Bydd y Gronfa Paratoi at y Dyfodol yn darparu grant cyfalaf rhwng £5,000 a £10,000, i gyd-fynd ag arian cyfatebol, i'w ddefnyddio'n gyfan gwbl yn ystod blwyddyn ariannol 2024/25. Mae'r cyllid hwn ar gyfer busnesau micro, bach a chanolig cymwys yn y sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden, i'w galluogi i fuddsoddi mewn mesurau i baratoi eu busnesau at y dyfodol.
Bydd y Gronfa yn cefnogi busnesau fel a ganlyn:
- Busnesau micro sy'n cyflogi 1–9 o weithwyr.
- Busnesau bach sy'n cyflogi 10–49 o weithwyr.
- Busnes canolig sy'n cyflogi 50–249 o weithwyr.
Y prif nod yw paratoi'r busnes at y dyfodol, a bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy wireddu arbedion cost, lleihau canran y costau sefydlog sy'n effeithio ar y busnes neu gynyddu refeniw.
Bydd y cyllid yn cael ei ddarparu drwy gais ar-lein ac yn cael ei weinyddu drwy Lywodraeth Cymru.
Nid oes terfyn ar gyfanswm costau'r prosiect, ond ni all elfen grant Llywodraeth Cymru fod yn fwy na 75% o gostau cymwys y prosiect neu £10,000, p'un bynnag yw'r lleiaf. Bydd y busnes yn cyfrannu'r 25% sy'n weddill o ffynonellau eraill gan gynnwys benthyciadau.
Bydd ceisiadau ar agor ganol mis Mai 2024
Bydd y cyfnod ymgeisio ar agor am dair wythnos neu nes bod y gronfa wedi'i defnyddio'n llawn.
Mae'r cyllid ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Awst 2024 a 28 Chwefror 2025
Ar dudalen olaf y gwirydd mae rhestr o wybodaeth a fydd ei hangen arnoch i gwblhau'r cais pan fydd y cyfnod ymgeisio yn agor. Mae hyn yn cynnwys:
- Rhif cofrestru TAW (os yw'n berthnasol).
- Rhif Cofrestru'r Cwmni neu Rif y Comisiwn Elusennau (os yw'n berthnasol).
- Y sector y mae'r busnes yn gweithredu ynddo.
- O leiaf dau ddyfynbris ar gyfer pob pryniant cyfalaf neu gostau eraill sy'n gysylltiedig â chyflawni eich prosiect. Gall y rhain fod yn electronig ond lle bo modd mae angen eu cyflwyno ar bapur pennawd swyddogol sy'n cynnwys rhif cofrestru cwmni'r cyflenwr fel y gellir gwirio enw'r cyflenwr.
- Tystiolaeth o gyfran eich arian cyfatebol ar ffurf cyfriflen banc a/neu waith papur cytundeb benthyciad.
- Copi o'ch anfoneb ar gyfer ardrethi annomestig gan eich awdurdod lleol yn enw busnes yr ymgeisydd.
- Cyfriflenni banc ar gyfer y tri mis blaenorol i dangos bod y busnes yn masnachu yn weithredol ac fel tystiolaeth o lif arian digonol.
Gwneir penderfyniadau ynghylch ceisiadau erbyn diwedd mis Awst fan bellaf pan gyhoeddir y llythyrau dyfarnu grantiau.
Yna byddwch yn cyflwyno eich prosiect ac yn talu'r holl gostau a ysgwyddir. Atgoffir ymgeiswyr bod angen cwblhau pob prosiect a chyflwyno'r ffurflen hawlio erbyn 28 Chwefror 2025.
Noder: Cyflwynwch eich hawliad pan fydd y prosiect wedi cael ei gwblhau.
Mae'r Contract Economaidd yn rhan o 'Ffyniant i Bawb – y Cynllun Gweithredu ar yr Economi' gan Lywodraeth Cymru. Cafodd ei gynllunio i alluogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu perthynas newydd a chryfach â sefydliadau ac i ysgogi twf cynhwysol ac ymddygiad busnes cyfrifol, gan gynnwys cynyddu gwaith teg, twf gwyrdd a chydnerthedd hinsawdd. Mae'n golygu bod cwmnïau sy'n derbyn cymorth yn ymrwymo i ddull gweithredu 'rhywbeth am rywbeth' sy'n seiliedig yn gadarn ar egwyddorion cydweithio.
Ym mis Ionawr 2026, byddwn yn gofyn ichi gymryd rhan mewn arolwg effaith byr fel y gallwn wirio bod eich busnes yn dal i fasnachu, a'ch bod chi wedi defnyddio buddsoddiadau arian cyhoeddus yn briodol a'u bod wedi cael effaith gadarnhaol ar eich busnes.
Na, ni ellir defnyddio'r grant i brynu cerbydau.
Cwestiynau a gafwyd mewn gweminarau am y Gronfa Paratoi at y Dyfodol
Yn yr enghraifft hon, cyn belled â bod gan y busnes cyfan gyfres o gyfrifon a statws cyfreithiol unigol, mae'n bodloni'r meini prawf ar gyfer hanes masnachu ac felly gall y busnes wneud cais. Os yw'r safle newydd yn fusnes annibynnol gyda'i statws cyfreithiol a'i gyfres o gyfrifon ei hun, ni fyddai'n gymwys.
Mae cyfyngiad o 1 cais i bob busnes. Fodd bynnag, nodwch fod perchennog neu gyfarwyddwr busnes unigol hefyd wedi'i gyfyngu i gyfanswm o 2 gais i gyd, waeth faint o fusnesau y mae’n berchen arnynt. Mae gwybodaeth yn cael ei nodi ar dudalen 3 yn y canllawiau.
Bydd busnesau cymwys sy'n meddiannu eiddo sydd â gwerth ardrethol o hyd at £6,000, yn parhau i elwa o ryddhad ardrethi o 100% drwy'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach ac felly nid ydynt yn gymwys i wneud cais i'r Gronfa Paratoi at y Dyfodol.
Mae'r Gronfa Paratoi at y Dyfodol wedi'i chynllunio i helpu busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden cymwys yng Nghymru i gryfhau eu gweithrediadau busnes.
Gan gydnabod na all y gronfa gefnogi pob busnes yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, mae'r gyllideb sydd ar gael yn canolbwyntio ar y busnesau hynny o fewn y band gwerth ardrethol sydd rhwng £6,001 a £51,000. Busnesau meicro, bach a chanolig sydd fwyaf tebygol o fod â chwmpas cyfyngedig i fuddsoddi yn eu busnesau heb gymorth grant ychwanegol.
Bydd busnesau cymwys sy'n meddiannu eiddo sydd â gwerth ardrethol o fwy na £51,000, yn parhau i elwa o gynlluniau eraill Llywodraeth Cymru, fel y Rhyddhad Ardrethi Annomestig, a mynediad at fenthyciadau trwy Fanc Datblygu Cymru.
Bydd, ond sicrhewch eich bod yn cyfeirio at y pwynt hwn ac eglurwch y manteision yn adran y ffurflen gais lle mae'n ofynnol i ymgeiswyr amlinellu manteision y prosiect i'r busnes.
Dim ond i fusnesau sy'n gweithredu'n uniongyrchol yn y sectorau manwerthu, lletygarwch neu hamdden y mae'r Gronfa Paratoi at y Dyfodol ar gael. Nid yw busnesau cadwyni cyflenwi nad ydynt yn perthyn i'r sectorau hyn yn gymwys.
Dewiswch y sector sy'n adlewyrchu o ble mae'r rhan fwyaf o'r refeniw busnes yn cael ei gynhyrchu.
Mae'r Gronfa Paratoi at y Dyfodol wedi'i chynllunio i gefnogi busnesau sy'n talu ardrethi ar hyn o bryd. Os caiff eiddo ei dynnu oddi ar y rhestr ardrethi, am ba bynnag reswm, ac felly nad oes ganddo werth ardrethol cyfredol, ni fyddai’r eiddo hwn yn gymwys i gael cymorth.
Agorodd y gwiriwr cymhwysedd ar 17 Ebrill a disgwylir i geisiadau agor ganol mis Mai. Felly, mae gan ymgeiswyr gyfnod o 4 wythnos i gael dyfynbrisiau perthnasol cyn i'r cyfnod ymgeisio agor.
Yn yr enghraifft hon, bydd un dyfyniad yn ddigonol ond eglurwch y rhesymau pam yn eich cais.
Mae naratif yn gwestiynau sy'n ofynnol ar gyfer y cais, fel a ganlyn.
Disgrifiwch eich prosiect os gwelwch yn dda. Rhowch trosolwg manwl o'r prosiect - uchafswm o 7500 o gymeriadau
Amlinellwch fuddion y prosiect a disgrifiwch sut y bydd hyn yn gwella'r busnes - uchafswm o 3000 o gymeriadau.
Heriau / Risgiau Prosiect. Rhowch grynodeb o'r risgiau a/neu'r heriau cysylltiedig rydych chi'n eu rhagweld yn y prosiect hwn - uchafswm o 2500 o gymeriadau.
Rheoli Prosiectau ac Adnoddau. Amlinellwch sut y bydd y prosiect yn cael ei reoli'n effeithiol i sicrhau bod prosiectau'n cael eu cyflawni'n llwyddiannus, gallai hyn gynnwys rheoli cadwyn gyflenwi - uchafswm o 2500 o gymeriadau.
Esboniwch sut mae eich busnes yn cyd-fynd â'r egwyddorion gwaith teg. Esboniwch sut y byddwch yn ymrwymo i wella neu gryfhau arferion gwaith teg trwy ddyfarnu'r grant - uchafswm o 3000 o gymeriadau.
Rhowch wybodaeth am sut y bydd y prosiect hwn yn ymrwymo i'r addewidion y mae'r sefydliad yn gweithio tuag atynt - uchafswm o 3000 o gymeriadau.
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno eu cais yn electronig drwy'r ddolen ar ddiwedd y gwiriwr cymhwysedd Gwiriwr Cymhwysedd y Gronfa Paratoi at y Dyfodol. Fodd bynnag, dylai ymgeiswyr sydd â gofynion mynediad penodol gysylltu â'r llinell gymorth i gael cymorth pellach.
Ni ellir cadw'r cais a rhaid ei gwblhau a'i gyflwyno mewn un sesiwn. Fodd bynnag, er mwyn gweld y cwestiynau ymlaen llaw wrth baratoi i gyflwyno'r fersiwn derfynol, gall ymgeiswyr glicio drwy'r adrannau amrywiol ar y ffurflen gais ar-lein.
Dylai pob prosiect fod yn annibynnol a rhaid ei gwblhau gyda gwariant wedi'i dalu cyn cyflwyno'r hawliad sydd i'w gyhoeddi erbyn 28 Chwefror 2025.
Mae'r risg a'r cyfrifoldeb i wirio a chael unrhyw gydsyniadau o unrhyw fath gan gynnwys caniatâd cynllunio er mwyn cwblhau a hawlio ar gyfer y prosiect, yn parhau i fod yn gyfrifoldeb yr ymgeisydd yn unig.
Gall unig fasnachwyr nad ydynt yn cyflogi unrhyw staff arall, wneud cais i'r Gronfa Paratoi at y Dyfodol cyn belled â'u bod yn bodloni'r holl feini prawf eraill. I gefnogi eu cais, bydd gofyn i'r ymgeiswyr hyn gyflwyno copi o'u Ffurflen Hunanasesiad a ffeiliwyd fwyaf diweddar sy'n dangos yr enillion a'r dreth sy'n ddyledus, a thystiolaeth bod y taliad wedi'i wneud.
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno dogfennaeth ategol drwy e-bost o fewn 1 diwrnod gwaith o gyflwyno eu cais, i FutureProofingFund@llyw.cymru. Gall y rhain fod yn ffeiliau ar wahân neu fformat ffeil cywasgedig.
Rhaid i ymgeiswyr i'r Gronfa Paratoi at y Dyfodol fodloni holl feini prawf y gronfa fel y nodir yn y gwiriwr a'r canllawiau cymhwysedd gan gynnwys y gofyniad i weithredu o safle busnes sy'n talu ardrethi annomestig.
Yr isafswm trosiant gofynnol yw £50,000 y flwyddyn. Mae hyn yn hunan-ddatganedig, a dylai ymgeiswyr nodi, ar ddiwedd y cais, ei bod yn ofynnol iddynt lofnodi Datganiadau ynghylch cywirdeb y data a ddarparwyd. O dan delerau ac amodau unrhyw grant a ddyfarnwyd, gall Llywodraeth Cymru adennill symiau a dalwyd hefyd os daw i'r amlwg yn ddiweddarach fod yr wybodaeth a ddarparwyd yn anghywir.
Bydd, mae'r ffurflen gais a'r canllawiau ar gael yn Gymraeg y gellir eu cyrchu trwy Wiriwr Cymhwysedd y Gronfa Paratoi at y Dyfodol
Os yw'r busnes wedi'i gofrestru ar gyfer TAW ni ellir cynnwys y costau hyn mewn unrhyw gais am grant, gan y gellir adennill yr elfen TAW.
Os nad yw'r busnes wedi'i gofrestru ar gyfer TAW, gellir cynnwys y costau hyn mewn unrhyw gais am grant, gan na ellir adennill yr elfen TAW.