Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn mynychu cynadleddau, digwyddiadau, teithiau masnach ac ymweliadau â'r farchnad allforio, yma yng Nghymru, y DU a ledled y Byd i hyrwyddo Cymru a'i busnesau yng Nghymru.
Bydd hyn yn creu cyfleoedd i fusnesau yng Nghymru gymryd rhan gyda ni o dan faner Cymru.
Mae pob cyfle yn amodol ar broses ymgeisio. Mae'r manylion ar gyfer y digwyddiad nesaf i'w gweld isod:
Cenex Expo 2024
Gan adeiladu ar etifeddiaeth Cenex-LCV a Cenex-CAM - mae Cenex Expo wedi'i greu. Mae'r digwyddiad yn gosod agenda lle mae cerbydau carbon isel a dyfeisiadau symudedd awtomataidd cysylltiedig yn cyfuno i lunio dyfodol symudedd.
Bydd Cenex Expo yn cynnwys:
- Arddangosfa dechnoleg
- Rhaglen helaeth o seminarau
- Rhwydweithio wedi'i hwyluso gyda'r gymuned carbon isel
- Reidio a gyrru'r cerbydau ymchwil a datblygu diweddaraf a cherbydau sydd ar gael yn fasnachol
- Newydd ar gyfer 2024 – Parth Arloesi Cychwyn Busnes
Mae digwyddiad ffisegol Cenex fel arfer yn denu dros 220 o arddangoswyr, a bron 5,000 o fynychwyr o'r sector hwn sy'n ehangu'n gyflym.
Mae Cenex Expo yn ymfalchïo mewn sicrhau bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y diwydiant hwn yn y DU yn mynychu'r digwyddiad gyda'r holl brif randdeiliaid, gweithgynhyrchwyr allweddol, cynrychiolwyr y gadwyn gyflenwi a swyddogion y llywodraeth o'r DU yn bresennol.
Ni fu erioed gymaint o ddiddordeb mewn datgarboneiddio trafnidiaeth. Mae gan Gymru bresenoldeb o hyd yn y digwyddiad hwn, gyda lle i 4-5 cwmni ar ein stondin (C3-117).
Cenex Expo yw'r lle i gwrdd â gwneuthurwyr penderfyniadau'r DU ac arbenigwyr yn y diwydiant; y cyfle perffaith i arddangos eich busnes, eich diwydiant a'ch technoleg.
Pam Mynychu?
Gall arddangos gyda Llywodraeth Cymru fod yn ffordd gost-effeithiol iawn o arddangos eich cwmni, ennill cysylltiadau gwerthfawr a nodi busnes posibl yn y sector symudedd.
Byddwch yn manteisio ar y canlynol:
- pod wedi'i frandio ar bafiliwn Cymru gyda chyflenwad pŵer a mynediad at storio
- mynediad i fan cyfarfod ar stondin
- o leiaf un pas arddangoswr drwy gydol y digwyddiad
- cael eich cynnwys mewn deunydd marchnata lle mae ar gael
- cael eich cynnwys yn amserlen cyfryngau cymdeithasol Cymru a chyfle posibl ar gyfer cysylltiadau cyhoeddus
- cael eich cynnwys mewn digwyddiadau rhwydweithio cysylltiedig
- ymgysylltu â busnesau allweddol a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn y digwyddiad, gan gynnwys eich cyd-bartneriaid ar y stondin
- bydd gweithwyr profiadol ym maes digwyddiadau a marchnata yn gofalu am logisteg y stondin yn gyfan-gwbl
Cost – £750.00 & TAW.
Nifer cyfyngedig o becynnau sydd ar gael ar gyfer yr arddangosfa hon. Cofrestrwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi.
Manylion y Digwyddiad
Enw y digwyddiad:
Cenex Expo 2024
Lleoliad:
UTAC Millbrook, Swydd Bedford, Lloegr
Dyddiad:
4-5 Medi 2024
Maint y Digwyddiad:
Dros 220 o arddangoswyr, 5,000 o ymwelwyr a thros 80 o wledydd.
Lle ar gyfer 4-5 cwmni arloesol yn y maes symudedd / modurol ar stondin Llywodraeth Cymru.
Sector(au):
Technolegau carbon isel a chelloedd tanwydd, Modurol, Gweithgynhyrchu, Peirianneg,
Arloesi ac Ymchwil a Datblygu
Beth i’w wneud nesaf?
Lawrlwythwch y ffurflen gais, ei llenwi a’i dychwelyd at ITD.Events@llyw.cymru
Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau:
30 Mehefin 2024
Adnoddau
Dod i wybod mwy ar:
Gwefan
cenex-expo.com/exhibitors
X:
@cenex_expo
Cenex LCV You Tube
@CenexExpo
LinkedIn
Dolen i’r Cais:
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch cymorthbusnes@llyw.cymru . Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.