Uno dau Gylch Meithrin i greu un ddarpariaeth Addysg a Gofal Plant i rieni.
Roedd dau Gylch Meithrin yn gweithredu heb fod yn rhy bell oddi wrth ei gilydd, ond nid oedd un ohonynt ar safle’r Ysgol Gynradd Gymraeg lleol. Roedd hyn yn golygu bod rhaid i rieni fynd â'u plant i'r ysgol ac yna eu plant iau i'r Cylch Meithrin. Roedd gofal cofleidiol yn cael ei ddarparu gan wasanaeth annibynnol arall, - roedd rhieni’n ddryslyd ynghylch pa wasanaethau oedd ar gael yn yr ardal i wahanol grwpiau oedran o blant.
Yn ogystal â hyn, nid oedd yr un adeilad mewn cyflwr da. Nid oedd unrhyw ‘wow ffactor’ pan ddaeth rhieni i ymweld, er bod ansawdd y gwasanaeth a oedd yn cael ei gynnig yn uchel. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, defnyddiodd llai o blant y gwasanaethau ac felly daeth cynaliadwyedd yn broblem.
Gweithiodd Mudiad Meithrin gyda'r ddau bwyllgor rheoli a dechrau trafodaethau gyda'r Awdurdod Lleol i godi'r materion hyn, llwyddwyd i sicrhau bod cais am grant cyfalaf ar gyfer adeilad newydd ar gyfer y Cylch yn 2022 yn cael ei gymeradwyo. Yn y cyfamser, roedd gan yr ysgol gynradd Gymraeg gaban bach oedd yn wag . Fe wnaethon ni benderfynu (gan fod y ddau Gylch Meithrin yn ei chael hi'n anodd gweithredu'n ddiogel yn eu hadeiladau presennol) i ddod a’r amserlen uno'r ddau leoliad ymlaen fel y gallent weithredu ar dir yr ysgol fel un Cylch Meithrin o fis Medi 2020.
Cynhaliodd Mudiad Meithrin cyfarfodydd gyda'r ddau bwyllgor rheoli a chytunwyd ar yr uno, ac i weithredu ar dir yr ysgol o dan endid newydd (enw newydd fel elusen newydd.) Cynorthwyodd Mudiad Meithrin y pwyllgorau gyda'r broses gyfan o gofrestru fel Sefydliad Corfforedig Elusennol, diddymu elusennau presennol a throsglwyddo asedau, TUPE staff i'r sefydliad newydd, a chymorth i gwblhau cofrestriad newydd gyda AGC. Darparodd Mudiad Meithrin cymorth busnes ariannol gan gynnwys rhagolygon ariannol, cynlluniau busnes, a sicrhau bod y pwyllgor rheoli yn deall eu pwyntia torri’n hafal er mwyn sicrhau cynaliadwyedd. Derbyniwyd y gefnogaeth hon trwy sesiynau un i un, cymorthfeydd ariannol ac Adnoddau Dynol ar-lein a darparwyd adnoddau i’r pwyllgor trwy fewnrwyd y Mudiad a hyfforddiant trwy Academi Mudiad Meithrin.
Sicrhaodd Mudiad Meithrin fod adrannau Addysg a Dechrau’n Deg yr Awdurdod Lleol yn ymwybodol o'r broses gyfan ac na fyddai unrhyw wasanaeth yn cael ei golli. Mae’r Cylch Meithrin bellach yn llawn, gyda niferoedd mwy nag oedd ar ddwy gofrestr flaenorol y ddau gylch. Maent bellach yn aros yn eiddgar am yr adeilad newydd, er mwyn sicrhau bod mwy o blant yn gallu mynychu.